Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Asaff.
81 Cenwch yn llafar i Dduw ein cadernid: cenwch yn llawen i Dduw Jacob. 2 Cymerwch salm, a moeswch dympan, y delyn fwyn a’r nabl. 3 Utgenwch utgorn yn y lloer newydd, yn yr amser nodedig, yn nydd ein huchel ŵyl. 4 Canys deddf yw hyn i Israel, a defod i Dduw Jacob. 5 Efe a’i gosododd yn dystiolaeth yn Joseff, pan aeth efe allan trwy dir yr Aifft: lle y clywais iaith ni ddeallwn. 6 Tynnais ei ysgwydd oddi wrth y baich: ei ddwylo a ymadawsant â’r crochanau. 7 Mewn cyfyngder y gelwaist, ac mi a’th waredais: gwrandewais di yn nirgelwch y daran: profais di wrth ddyfroedd Meriba. Sela. 8 Clyw, fy mhobl, a mi a dystiolaethaf i ti: Israel, os gwrandewi arnaf; 9 Na fydded ynot dduw arall; ac nac ymgryma i dduw dieithr. 10 Myfi yr Arglwydd dy Dduw yw yr hwn a’th ddug di allan o dir yr Aifft: lleda dy safn, a mi a’i llanwaf. 11 Ond ni wrandawai fy mhobl ar fy llef; ac Israel ni’m mynnai. 12 Yna y gollyngais hwynt yng nghyndynrwydd eu calon: aethant wrth eu cyngor eu hunain. 13 O na wrandawsai fy mhobl arnaf; na rodiasai Israel yn fy ffyrdd! 14 Buan y gostyngaswn eu gelynion, ac y troeswn fy llaw yn erbyn eu gwrthwynebwyr. 15 Caseion yr Arglwydd a gymerasent arnynt ymostwng iddo ef: a’u hamser hwythau fuasai yn dragywydd. 16 Bwydasai hwynt hefyd â braster gwenith: ac â mêl o’r graig y’th ddiwallaswn.
4 Gwrandewch air yr Arglwydd, tŷ Jacob, a holl deuluoedd tŷ Israel. 5 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Pa anwiredd a gafodd eich tadau chwi ynof fi, gan iddynt ymbellhau oddi wrthyf, a rhodio ar ôl oferedd, a myned yn ofer? 6 Ac ni ddywedant, Pa le y mae yr Arglwydd a’n dug ni i fyny o dir yr Aifft; a’n harweiniodd trwy yr anialwch; trwy dir diffaith, a phyllau; trwy dir sychder, a chysgod angau; trwy dir nid aeth gŵr trwyddo, ac ni thrigodd dyn ynddo? 7 Dygais chwi hefyd i wlad gnydfawr, i fwyta ei ffrwyth a’i daioni: eithr pan ddaethoch i mewn, halogasoch fy nhir i, a gwnaethoch fy etifeddiaeth i yn ffieidd‐dra. 8 Yr offeiriaid ni ddywedasant, Pa le y mae yr Arglwydd? a’r rhai sydd yn trin y gyfraith nid adnabuant fi: y bugeiliaid hefyd a droseddasant i’m herbyn, a’r proffwydi a broffwydasant yn enw Baal, ac a aethant ar ôl y pethau ni wnaent lesâd.
9 Oblegid hyn, mi a ddadleuaf â chwi eto, medd yr Arglwydd; ie, dadleuaf â meibion eich meibion chwi. 10 Canys ewch dros ynysoedd Chittim, ac edrychwch; a danfonwch i Cedar, ac ystyriwch yn ddiwyd, ac edrychwch a fu y cyfryw beth. 11 A newidiodd un genedl eu duwiau, a hwy heb fod yn dduwiau? eithr fy mhobl i a newidiodd eu gogoniant am yr hyn ni wna lesâd. 12 O chwi nefoedd, synnwch wrth hyn, ac ofnwch yn aruthrol, a byddwch anghyfannedd iawn, medd yr Arglwydd. 13 Canys dau ddrwg a wnaeth fy mhobl; hwy a’m gadawsant i, ffynnon y dyfroedd byw, ac a gloddiasant iddynt eu hunain bydewau, ie, pydewau wedi eu torri, ni ddaliant ddwfr.
14 Ac yr awron ynghylch canol yr ŵyl, yr Iesu a aeth i fyny i’r deml, ac a athrawiaethodd. 15 A’r Iddewon a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa fodd y medr hwn ddysgeidiaeth, ac yntau heb ddysgu? 16 Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Fy nysgeidiaeth nid eiddof fi yw, eithr eiddo’r hwn a’m hanfonodd i. 17 Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys ef, efe a gaiff wybod am y ddysgeidiaeth, pa un ai o Dduw y mae hi, ai myfi ohonof fy hun sydd yn llefaru. 18 Y mae’r hwn sydd yn llefaru ohono’i hun, yn ceisio’i ogoniant ei hun: ond yr hwn sydd yn ceisio gogoniant yr hwn a’i hanfonodd, hwnnw sydd eirwir, ac anghyfiawnder nid oes ynddo ef. 19 Oni roddes Moses i chwi y gyfraith, ac nid oes neb ohonoch yn gwneuthur y gyfraith? Paham yr ydych yn ceisio fy lladd i? 20 Y bobl a atebodd ac a ddywedodd, Y mae gennyt ti gythraul: pwy sydd yn ceisio dy ladd di? 21 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu. 22 Am hynny y rhoddes Moses i chwi yr enwaediad; (nid oherwydd ei fod o Moses, eithr o’r tadau;) ac yr ydych yn enwaedu ar ddyn ar y Saboth. 23 Os yw dyn yn derbyn enwaediad ar y Saboth, heb dorri cyfraith Moses; a ydych yn llidiog wrthyf fi, am i mi wneuthur dyn yn holliach ar y Saboth? 24 Na fernwch wrth y golwg, eithr bernwch farn gyfiawn. 25 Yna y dywedodd rhai o’r Hierosolymitaniaid, Onid hwn yw’r un y maent hwy yn ceisio’i ladd? 26 Ac wele, y mae yn llefaru ar gyhoedd, ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho ef: a wybu’r penaethiaid mewn gwirionedd mai hwn yw Crist yn wir? 27 Eithr nyni a adwaenom hwn o ba le y mae: eithr pan ddêl Crist, nis gŵyr neb o ba le y mae. 28 Am hynny yr Iesu, wrth athrawiaethu yn y deml, a lefodd ac a ddywedodd, Chwi a’m hadwaenoch i, ac a wyddoch o ba le yr ydwyf fi: ac ni ddeuthum i ohonof fy hun, eithr y mae yn gywir yr hwn a’m hanfonodd i, yr hwn nid adwaenoch chwi. 29 Ond myfi a’i hadwaen: oblegid ohono ef yr ydwyf fi, ac efe a’m hanfonodd i. 30 Am hynny hwy a geisiasant ei ddal ef: ond ni osododd neb law arno, am na ddaethai ei awr ef eto. 31 A llawer o’r bobl a gredasant ynddo, ac a ddywedasant, Pan ddelo Crist, a wna efe fwy o arwyddion na’r rhai hyn a wnaeth hwn?
37 Ac ar y dydd diwethaf, y dydd mawr o’r ŵyl, y safodd yr Iesu, ac a lefodd, gan ddywedyd, Od oes ar neb syched, deued ataf fi, ac yfed. 38 Yr hwn sydd yn credu ynof fi, megis y dywedodd yr ysgrythur, afonydd o ddwfr bywiol a ddylifant o’i groth ef. 39 (A hyn a ddywedodd efe am yr Ysbryd, yr hwn a gâi’r rhai a gredent ynddo ef ei dderbyn: canys eto nid oedd yr Ysbryd Glân wedi ei roddi, oherwydd na ogoneddasid yr Iesu eto.)
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.