Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 81

I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Asaff.

81 Cenwch yn llafar i Dduw ein cadernid: cenwch yn llawen i Dduw Jacob. Cymerwch salm, a moeswch dympan, y delyn fwyn a’r nabl. Utgenwch utgorn yn y lloer newydd, yn yr amser nodedig, yn nydd ein huchel ŵyl. Canys deddf yw hyn i Israel, a defod i Dduw Jacob. Efe a’i gosododd yn dystiolaeth yn Joseff, pan aeth efe allan trwy dir yr Aifft: lle y clywais iaith ni ddeallwn. Tynnais ei ysgwydd oddi wrth y baich: ei ddwylo a ymadawsant â’r crochanau. Mewn cyfyngder y gelwaist, ac mi a’th waredais: gwrandewais di yn nirgelwch y daran: profais di wrth ddyfroedd Meriba. Sela. Clyw, fy mhobl, a mi a dystiolaethaf i ti: Israel, os gwrandewi arnaf; Na fydded ynot dduw arall; ac nac ymgryma i dduw dieithr. 10 Myfi yr Arglwydd dy Dduw yw yr hwn a’th ddug di allan o dir yr Aifft: lleda dy safn, a mi a’i llanwaf. 11 Ond ni wrandawai fy mhobl ar fy llef; ac Israel ni’m mynnai. 12 Yna y gollyngais hwynt yng nghyndynrwydd eu calon: aethant wrth eu cyngor eu hunain. 13 O na wrandawsai fy mhobl arnaf; na rodiasai Israel yn fy ffyrdd! 14 Buan y gostyngaswn eu gelynion, ac y troeswn fy llaw yn erbyn eu gwrthwynebwyr. 15 Caseion yr Arglwydd a gymerasent arnynt ymostwng iddo ef: a’u hamser hwythau fuasai yn dragywydd. 16 Bwydasai hwynt hefyd â braster gwenith: ac â mêl o’r graig y’th ddiwallaswn.

Genesis 24:1-27

24 Ac Abraham oedd hen, wedi myned yn oedrannus; a’r Arglwydd a fendithiasai Abraham ym mhob dim. A dywedodd Abraham wrth ei was hynaf yn ei dŷ, yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a’r a oedd ganddo, Gosod, atolwg, dy law dan fy morddwyd: A mi a baraf i ti dyngu i Arglwydd Dduw y nefoedd, a Duw y ddaear, na chymerech wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu mysg: Ond i’m gwlad i yr ei, ac at fy nghenedl i yr ei di, ac a gymeri wraig i’m mab Isaac. A’r gwas a ddywedodd wrtho ef, Ond odid ni fyn y wraig ddyfod ar fy ôl i i’r wlad hon: gan ddychwelyd a ddychwelaf dy fab di i’r tir y daethost allan ohono? A dywedodd Abraham wrtho, Gwylia arnat rhag i ti ddychwelyd fy mab i yno.

Arglwydd Dduw y nefoedd, yr hwn a’m cymerodd i o dŷ fy nhad, ac o wlad fy nghenedl, yr hwn hefyd a ymddiddanodd â mi, ac a dyngodd wrthyf, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn; efe a enfyn ei angel o’th flaen di, a thi a gymeri wraig i’m mab oddi yno. Ac os y wraig ni fyn ddyfod ar dy ôl di, yna glân fyddi oddi wrth fy llw hwn: yn unig na ddychwel di fy mab i yno. A’r gwas a osododd ei law dan forddwyd Abraham ei feistr, ac a dyngodd iddo am y peth hyn.

10 A chymerodd y gwas ddeg camel, o gamelod ei feistr, ac a aeth ymaith: (canys holl dda ei feistr oedd dan ei law ef;) ac efe a gododd, ac a aeth i Mesopotamia, i ddinas Nachor. 11 Ac efe a wnaeth i’r camelod orwedd o’r tu allan i’r ddinas, wrth bydew dwfr ar brynhawn, ynghylch yr amser y byddai merched yn dyfod allan i dynnu dwfr. 12 Ac efe a ddywedodd, O Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, atolwg, pâr i mi lwyddiant heddiw; a gwna drugaredd â’m meistr Abraham. 13 Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr, a merched gwŷr y ddinas yn dyfod allan i dynnu dwfr: 14 A bydded, mai y llances y dywedwyf wrthi, Gogwydda, atolwg, dy ystên, fel yr yfwyf; os dywed hi, Yf, a mi a ddiodaf dy gamelod di hefyd; honno a ddarperaist i’th was Isaac: ac wrth hyn y caf wybod wneuthur ohonot ti drugaredd â’m meistr.

15 A bu, cyn darfod iddo lefaru, wele Rebeca yn dyfod allan, (yr hon a anesid i Bethuel fab Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham,) a’i hystên ar ei hysgwydd. 16 A’r llances oedd deg odiaeth yr olwg, yn forwyn, a heb i ŵr ei hadnabod; a hi a aeth i waered i’r ffynnon, ac a lanwodd ei hystên, ac a ddaeth i fyny. 17 A’r gwas a redodd i’w chyfarfod, ac a ddywedodd, Atolwg, gad i mi yfed ychydig ddwfr o’th ystên. 18 A hi a ddywedodd, Yf, fy meistr: a hi a frysiodd, ac a ddisgynnodd ei hystên ar ei llaw, ac a’i diododd ef. 19 A phan ddarfu iddi ei ddiodi ef, hi a ddywedodd, Tynnaf hefyd i’th gamelod, hyd oni ddarffo iddynt yfed. 20 A hi a frysiodd, ac a dywalltodd ei hystên i’r cafn, ac a redodd eilwaith i’r pydew i dynnu, ac a dynnodd i’w holl gamelod ef. 21 A’r gŵr, yn synnu o’i phlegid hi, a dawodd, i wybod a lwyddasai yr Arglwydd ei daith ef, ai naddo. 22 A bu, pan ddarfu i’r camelod yfed, gymryd o’r gŵr glustlws aur, yn hanner sicl ei bwys; a dwy freichled i’w dwylo hi, yn ddeg sicl o aur eu pwys. 23 Ac efe a ddywedodd, Merch pwy ydwyt ti? mynega i mi, atolwg: a oes lle i ni i letya yn nhŷ dy dad? 24 A hi a ddywedodd wrtho, Myfi ydwyf ferch i Bethuel fab Milca, yr hwn a ymddûg hi i Nachor. 25 A hi a ddywedodd wrtho ef, Y mae gwellt ac ebran ddigon gennym ni, a lle i letya. 26 A’r gŵr a ymgrymodd, ac a addolodd yr Arglwydd. 27 Ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn ni adawodd fy meistr heb ei drugaredd a’i ffyddlondeb: yr ydwyf fi ar y ffordd; dug yr Arglwydd fi i dŷ brodyr fy meistr.

2 Ioan

Yr henuriad at yr etholedig arglwyddes a’i phlant, y rhai yr wyf fi yn eu caru yn y gwirionedd; ac nid myfi yn unig, ond pawb hefyd a adnabuant y gwirionedd; Er mwyn y gwirionedd, yr hwn sydd yn aros ynom ni, ac a fydd gyda ni yn dragywydd. Bydded gyda chwi ras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, ac oddi wrth yr Arglwydd Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad. Bu lawen iawn gennyf i mi gael o’th blant di rai yn rhodio mewn gwirionedd, fel y derbyniasom orchymyn gan y Tad. Ac yn awr yr wyf yn atolwg i ti, arglwyddes, nid fel un yn ysgrifennu gorchymyn newydd i ti, eithr yr hwn oedd gennym o’r dechreuad, garu ohonom ein gilydd. A hyn yw’r cariad: bod i ni rodio yn ôl ei orchmynion ef. Hwn yw’r gorchymyn; Megis y clywsoch o’r dechreuad, fod i chwi rodio ynddo. Oblegid y mae twyllwyr lawer wedi dyfod i mewn i’r byd, y rhai nid ydynt yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd. Hwn yw’r twyllwr a’r anghrist. Edrychwch arnoch eich hunain, fel na chollom y pethau a wnaethom, ond bod i ni dderbyn llawn wobr. Pob un a’r sydd yn troseddu, ac heb aros yn nysgeidiaeth Crist, nid yw Duw ganddo ef. Yr hwn sydd yn aros yn nysgeidiaeth Crist, hwnnw y mae’r Tad a’r Mab ganddo. 10 Od oes neb yn dyfod atoch, a heb ddwyn y ddysgeidiaeth hon, na dderbyniwch ef i dŷ, ac na ddywedwch, Duw yn rhwydd, wrtho: 11 Canys yr hwn sydd yn dywedyd wrtho, Duw yn rhwydd, sydd gyfrannog o’i weithredoedd drwg ef. 12 Er bod gennyf lawer o bethau i’w hysgrifennu atoch, nid oeddwn yn ewyllysio ysgrifennu â phapur ac inc: eithr gobeithio yr ydwyf ddyfod atoch, a llefaru wyneb yn wyneb, fel y byddo ein llawenydd yn gyflawn. 13 Y mae plant dy chwaer etholedig yn dy annerch. Amen.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.