Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Exodus 17:1-7

17 A holl gynulleidfa meibion Israel a aethant o anialwch Sin, wrth eu teithiau, yn ôl gorchymyn yr Arglwydd; ac a wersyllasant yn Reffidim: ac nid oedd dwfr i’r bobl i yfed. Am hynny y bobl a ymgynenasant â Moses, ac a ddywedasant, Rhoddwch i ni ddwfr i yfed. A dywedodd Moses wrthynt, Paham yr ymgynhennwch â mi? Paham y temtiwch yr Arglwydd? A’r bobl a sychedodd yno am ddwfr; a thuchanodd y bobl yn erbyn Moses, ac a ddywedodd, Paham y peraist i ni ddyfod i fyny o’r Aifft, i’n lladd ni, a’n plant, a’n hanifeiliaid, â syched? A Moses a lefodd ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, Beth a wnaf i’r bobl hyn? ar ben ychydig eto hwy a’m llabyddiant i. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cerdda o flaen y bobl, a chymer gyda thi o henuriaid Israel: cymer hefyd dy wialen yn dy law, yr hon y trewaist yr afon â hi, a cherdda. Wele, mi a safaf o’th flaen yno ar y graig yn Horeb; taro dithau y graig, a daw dwfr allan ohoni, fel y gallo’r bobl yfed. A Moses a wnaeth felly yng ngolwg henuriaid Israel. Ac efe a alwodd enw y lle Massa, a Meriba; o achos cynnen meibion Israel, ac am iddynt demtio’r Arglwydd, gan ddywedyd, A ydyw yr Arglwydd yn ein plith, ai nid yw?

Salmau 95

95 Deuwch, canwn i’r Arglwydd: ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd. Deuwn ger ei fron ef â diolch: canwn yn llafar iddo â salmau. Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr, a Brenin mawr goruwch yr holl dduwiau. Yr hwn y mae gorddyfnderau y ddaear yn ei law, ac uchelderau y mynyddoedd yn eiddo. Y môr sydd eiddo, ac efe a’i gwnaeth: a’i ddwylo a luniasant y sychdir. Deuwch, addolwn, ac ymgrymwn: gostyngwn ar ein gliniau gerbron yr Arglwydd ein Gwneuthurwr. Canys efe yw ein Duw ni; a ninnau ŷm bobl ei borfa, a defaid ei law. Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd, Na chaledwch eich calonnau, megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch: Pan demtiodd eich tadau fi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd. 10 Deugain mlynedd yr ymrysonais â’r genhedlaeth hon, a dywedais, Pobl gyfeiliornus yn eu calon ydynt hwy, ac nid adnabuant fy ffyrdd: 11 Wrth y rhai y tyngais yn fy llid, na ddelent i’m gorffwysfa.

Rhufeiniaid 5:1-11

Am hynny, gan ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae gennym heddwch tuag at Dduw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist: Trwy yr hwn hefyd y cawsom ddyfodfa trwy ffydd i’r gras hwn, yn yr hwn yr ydym yn sefyll ac yn gorfoleddu dan obaith gogoniant Duw. Ac nid felly yn unig, eithr yr ydym yn gorfoleddu mewn gorthrymderau; gan wybod fod gorthrymder yn peri dioddefgarwch; A dioddefgarwch, brofiad; a phrofiad, obaith: A gobaith ni chywilyddia, am fod cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau ni, trwy’r Ysbryd Glân yr hwn a roddwyd i ni. Canys Crist, pan oeddem ni eto yn weiniaid, mewn pryd a fu farw dros yr annuwiol. Oblegid braidd y bydd neb farw dros un cyfiawn: oblegid dros y da ysgatfydd fe feiddiai un farw hefyd. Eithr y mae Duw yn canmol ei gariad tuag atom; oblegid, a nyni eto yn bechaduriaid, i Grist farw trosom ni. Mwy ynteu o lawer, a nyni yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed ef, y’n hachubir rhag digofaint trwyddo ef. 10 Canys os pan oeddem yn elynion, y’n heddychwyd â Duw trwy farwolaeth ei Fab ef; mwy o lawer, wedi ein heddychu, y’n hachubir trwy ei fywyd ef. 11 Ac nid hynny yn unig, eithr gorfoleddu yr ydym hefyd yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn yr awr hon y derbyniasom y cymod.

Ioan 4:5-42

Efe a ddaeth gan hynny i ddinas yn Samaria a elwid Sichar, gerllaw y rhandir a roddasai Jacob i’w fab Joseff: Ac yno yr oedd ffynnon Jacob. Yr Iesu gan hynny yn ddiffygiol gan y daith, a eisteddodd felly ar y ffynnon: ac ynghylch y chweched awr ydoedd hi. Daeth gwraig o Samaria i dynnu dwfr: a’r Iesu a ddywedodd wrthi, Dyro i mi i yfed. (Canys ei ddisgyblion ef a aethent i’r ddinas i brynu bwyd.) Yna y wraig o Samaria a ddywedodd wrtho ef, Pa fodd yr ydwyt ti, a thi yn Iddew, yn gofyn diod gennyf fi, a myfi yn wraig o Samaria? oblegid nid yw’r Iddewon yn ymgyfeillach â’r Samariaid. 10 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Ped adwaenit ti ddawn Duw, a phwy yw’r hwn sydd yn dywedyd wrthyt, Dyro i mi i yfed; tydi a ofynasit iddo ef, ac efe a roddasai i ti ddwfr bywiol. 11 Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid oes gennyt ti ddim i godi dwfr, a’r pydew sydd ddwfn: o ba le gan hynny y mae gennyt ti y dwfr bywiol hwnnw? 12 Ai mwy wyt ti na’n tad Jacob, yr hwn a roddodd i ni’r pydew, ac efe ei hun a yfodd ohono, a’i feibion, a’i anifeiliaid? 13 Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Pwy bynnag sydd yn yfed o’r dwfr hwn, efe a sycheda drachefn: 14 Ond pwy bynnag a yfo o’r dwfr a roddwyf fi iddo, ni sycheda yn dragywydd; eithr y dwfr a roddwyf iddo, a fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr yn tarddu i fywyd tragwyddol. 15 Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf, ac na ddelwyf yma i godi dwfr. 16 Iesu a ddywedodd wrthi, Dos, galw dy ŵr, a thyred yma. 17 Y wraig a atebodd ac a ddywedodd, Nid oes gennyf ŵr. Iesu a ddywedodd wrthi, Da y dywedaist, Nid oes gennyf ŵr: 18 Canys pump o wŷr a fu i ti; a’r hwn sydd gennyt yr awron, nid yw ŵr i ti: hyn a ddywedaist yn wir. 19 Y wraig a ddywedodd wrtho ef, Arglwydd, mi a welaf mai proffwyd wyt ti. 20 Ein tadau a addolasant yn y mynydd hwn; ac yr ydych chwi yn dywedyd mai yn Jerwsalem y mae’r man lle y mae yn rhaid addoli. 21 Iesu a ddywedodd wrthi hi, O wraig, cred fi, y mae’r awr yn dyfod, pryd nad addoloch y Tad, nac yn y mynydd hwn, nac yn Jerwsalem. 22 Chwychwi ydych yn addoli’r peth ni wyddoch: ninnau ydym yn addoli’r peth a wyddom: canys iachawdwriaeth sydd o’r Iddewon. 23 Ond dyfod y mae’r awr, ac yn awr y mae hi, pan addolo’r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd: canys y cyfryw y mae’r Tad yn eu ceisio i’w addoli ef. 24 Ysbryd yw Duw; a rhaid i’r rhai a’i haddolant ef, addoli mewn ysbryd a gwirionedd. 25 Y wraig a ddywedodd wrtho, Mi a wn fod y Meseias yn dyfod, yr hwn a elwir Crist: pan ddelo hwnnw, efe a fynega i ni bob peth. 26 Iesu a ddywedodd wrthi hi, Myfi, yr hwn wyf yn ymddiddan â thi, yw hwnnw.

27 Ac ar hyn y daeth ei ddisgyblion; a bu ryfedd ganddynt ei fod ef yn ymddiddan â gwraig: er hynny ni ddywedodd neb, Beth a geisi? neu, Paham yr ydwyt yn ymddiddan â hi? 28 Yna y wraig a adawodd ei dyfrlestr, ac a aeth i’r ddinas, ac a ddywedodd wrth y dynion, 29 Deuwch, gwelwch ddyn yr hwn a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum: onid hwn yw’r Crist? 30 Yna hwy a aethant allan o’r ddinas, ac a ddaethant ato ef.

31 Yn y cyfamser y disgyblion a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, bwyta. 32 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae gennyf fi fwyd i’w fwyta yr hwn ni wyddoch chwi oddi wrtho. 33 Am hynny y disgyblion a ddywedasant wrth ei gilydd, A ddug neb iddo ddim i’w fwyta? 34 Iesu a ddywedodd wrthynt, Fy mwyd i yw gwneuthur ewyllys yr hwn a’m hanfonodd, a gorffen ei waith ef. 35 Onid ydych chwi yn dywedyd, Y mae eto bedwar mis, ac yna y daw’r cynhaeaf? Wele, yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych, Dyrchefwch eich llygaid, ac edrychwch ar y meysydd; canys gwynion ydynt eisoes i’r cynhaeaf. 36 A’r hwn sydd yn medi, sydd yn derbyn cyflog, ac yn casglu ffrwyth i fywyd tragwyddol: fel y byddo i’r hwn sydd yn hau, ac i’r hwn sydd yn medi, lawenychu ynghyd. 37 Canys yn hyn y mae’r gair yn wir, Mai arall yw’r hwn sydd yn hau, ac arall yr hwn sydd yn medi. 38 Myfi a’ch anfonais chwi i fedi yr hyn ni lafuriasoch: eraill a lafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn i’w llafur hwynt.

39 A llawer o’r Samariaid o’r ddinas honno a gredasant ynddo, oherwydd gair y wraig, yr hon oedd yn tystiolaethu, Efe a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum. 40 Am hynny pan ddaeth y Samariaid ato ef, hwy a atolygasant iddo aros gyda hwynt. Ac efe a arhosodd yno ddeuddydd. 41 A mwy o lawer a gredasant ynddo ef oblegid ei air ei hun. 42 A hwy a ddywedasant wrth y wraig, Nid ydym ni weithian yn credu oblegid dy ymadrodd di: canys ni a’i clywsom ef ein hunain, ac a wyddom mai hwn yn ddiau yw’r Crist, Iachawdwr y byd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.