Revised Common Lectionary (Complementary)
95 Deuwch, canwn i’r Arglwydd: ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd. 2 Deuwn ger ei fron ef â diolch: canwn yn llafar iddo â salmau. 3 Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr, a Brenin mawr goruwch yr holl dduwiau. 4 Yr hwn y mae gorddyfnderau y ddaear yn ei law, ac uchelderau y mynyddoedd yn eiddo. 5 Y môr sydd eiddo, ac efe a’i gwnaeth: a’i ddwylo a luniasant y sychdir. 6 Deuwch, addolwn, ac ymgrymwn: gostyngwn ar ein gliniau gerbron yr Arglwydd ein Gwneuthurwr. 7 Canys efe yw ein Duw ni; a ninnau ŷm bobl ei borfa, a defaid ei law. Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd, 8 Na chaledwch eich calonnau, megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch: 9 Pan demtiodd eich tadau fi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd. 10 Deugain mlynedd yr ymrysonais â’r genhedlaeth hon, a dywedais, Pobl gyfeiliornus yn eu calon ydynt hwy, ac nid adnabuant fy ffyrdd: 11 Wrth y rhai y tyngais yn fy llid, na ddelent i’m gorffwysfa.
27 Eto rhai o’r bobl a aethant allan ar y seithfed dydd, i gasglu; ond ni chawsant ddim. 28 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Pa hyd y gwrthodwch gadw fy ngorchmynion a’m cyfreithiau? 29 Gwelwch mai yr Arglwydd a roddodd i chwi y Saboth; am hynny efe a roddodd i chwi y chweched dydd fara dros ddau ddydd: arhoswch bawb gartref; nac aed un o’i le y seithfed dydd. 30 Felly y bobl a orffwysasant y seithfed dydd. 31 A thŷ Israel a alwasant ei enw ef Manna: ac yr oedd efe fel had coriander, yn wyn, a’i flas fel afrllad o fêl.
32 A Moses a ddywedodd, Dyma y peth a orchmynnodd yr Arglwydd; Llanw omer ohono, i’w gadw i’ch cenedlaethau; fel y gwelont y bara y porthais chwi ag ef yn yr anialwch, pan y’ch dygais allan o wlad yr Aifft. 33 A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Cymer grochan, a dod ynddo lonaid omer o’r manna; a gosod ef gerbron yr Arglwydd yng nghadw i’ch cenedlaethau. 34 Megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses, felly y gosododd Aaron ef i gadw gerbron y dystiolaeth. 35 A meibion Israel a fwytasant y manna ddeugain mlynedd, nes eu dyfod i dir cyfanheddol: manna a fwytasant nes eu dyfod i gwr gwlad Canaan.
4 Pan wybu’r Arglwydd gan hynny glywed o’r Phariseaid fod yr Iesu yn gwneuthur ac yn bedyddio mwy o ddisgyblion nag Ioan, 2 (Er na fedyddiasai yr Iesu ei hun, eithr ei ddisgyblion ef,) 3 Efe a adawodd Jwdea, ac a aeth drachefn i Galilea. 4 Ac yr oedd yn rhaid iddo fyned trwy Samaria. 5 Efe a ddaeth gan hynny i ddinas yn Samaria a elwid Sichar, gerllaw y rhandir a roddasai Jacob i’w fab Joseff: 6 Ac yno yr oedd ffynnon Jacob. Yr Iesu gan hynny yn ddiffygiol gan y daith, a eisteddodd felly ar y ffynnon: ac ynghylch y chweched awr ydoedd hi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.