Revised Common Lectionary (Complementary)
Caniad y graddau.
128 Gwyn ei fyd pob un sydd yn ofni yr Arglwydd; yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef. 2 Canys mwynhei lafur dy ddwylo: gwyn dy fyd, a da fydd i ti. 3 Dy wraig fydd fel gwinwydden ffrwythlon ar hyd ystlysau dy dŷ: dy blant fel planhigion olewydd o amgylch dy ford. 4 Wele, fel hyn yn ddiau y bendithir y gŵr a ofno yr Arglwydd. 5 Yr Arglwydd a’th fendithia allan o Seion; a thi a gei weled daioni Jerwsalem holl ddyddiau dy einioes. 6 A thi a gei weled plant dy blant, a thangnefedd ar Israel.
22 Am hynny dywed wrth dŷ Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Nid er eich mwyn chwi, tŷ Israel, yr ydwyf fi yn gwneuthur hyn, ond er mwyn fy enw sanctaidd, yr hwn a halogasoch chwi ymysg y cenhedloedd lle yr aethoch. 23 A mi a sancteiddiaf fy enw mawr, yr hwn a halogwyd ymysg y cenhedloedd, yr hwn a halogasoch chwi yn eu mysg hwynt; fel y gwypo y cenhedloedd mai myfi yw yr Arglwydd, medd yr Arglwydd Dduw, pan ymsancteiddiwyf ynoch o flaen eich llygaid. 24 Canys mi a’ch cymeraf chwi o fysg y cenhedloedd, ac a’ch casglaf chwi o’r holl wledydd, ac a’ch dygaf i’ch tir eich hun.
25 Ac a daenellaf arnoch ddwfr glân, fel y byddoch lân: oddi wrth eich holl frynti, ac oddi wrth eich holl eilunod, y glanhaf chwi. 26 A rhoddaf i chwi galon newydd, ysbryd newydd hefyd a roddaf o’ch mewn chwi; a thynnaf y galon garreg o’ch cnawd chwi, ac mi a roddaf i chwi galon gig. 27 Rhoddaf hefyd fy ysbryd o’ch mewn, a gwnaf i chwi rodio yn fy neddfau, a chadw fy marnedigaethau, a’u gwneuthur. 28 Cewch drigo hefyd yn y tir a roddais i’ch tadau; a byddwch yn bobl i mi, a minnau a fyddaf Dduw i chwithau. 29 Achubaf chwi hefyd oddi wrth eich holl aflendid: a galwaf am yr ŷd, ac a’i hamlhaf; ac ni roddaf arnoch newyn. 30 Amlhaf hefyd ffrwyth y coed, a chynnyrch y maes, fel na ddygoch mwy waradwydd newyn ymysg y cenhedloedd. 31 Yna y cofiwch eich ffyrdd drygionus, a’ch gweithredoedd nid oeddynt dda, a byddwch yn ffiaidd gennych eich hunain am eich anwireddau ac am eich ffieidd‐dra. 32 Nid er eich mwyn chwi yr ydwyf fi yn gwneuthur hyn, medd yr Arglwydd Dduw; bydded hysbys i chwi: tŷ Israel, gwridwch a chywilyddiwch am eich ffyrdd eich hun.
53 A phob un a aeth i’w dŷ ei hun.
8 A’r Iesu a aeth i fynydd yr Olewydd: 2 Ac a ddaeth drachefn y bore i’r deml; a’r holl bobl a ddaeth ato ef: yntau a eisteddodd, ac a’u dysgodd hwynt. 3 A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a ddygasant ato ef wraig, yr hon a ddaliesid mewn godineb; ac wedi ei gosod hi yn y canol, 4 Hwy a ddywedasant wrtho, Athro, y wraig hon a ddaliwyd ar y weithred yn godinebu. 5 A Moses yn y gyfraith a orchmynnodd i ni labyddio’r cyfryw: beth gan hynny yr wyt ti yn ei ddywedyd? 6 A hyn a ddywedasant hwy, gan ei demtio ef, fel y gallent ei gyhuddo ef. Eithr yr Iesu, wedi ymgrymu tua’r llawr, a ysgrifennodd â’i fys ar y ddaear, heb gymryd arno eu clywed. 7 Ond fel yr oeddynt hwy yn parhau yn gofyn iddo, efe a ymunionodd, ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd ddibechod ohonoch, tafled yn gyntaf garreg ati hi. 8 Ac wedi iddo eilwaith ymgrymu tua’r llawr, efe a ysgrifennodd ar y ddaear. 9 Hwythau, pan glywsant hyn, wedi hefyd eu hargyhoeddi gan eu cydwybod, a aethant allan o un i un, gan ddechrau o’r hynaf hyd yr olaf: a gadawyd yr Iesu yn unig, a’r wraig yn sefyll yn y canol. 10 A’r Iesu wedi ymunioni, ac heb weled neb ond y wraig, a ddywedodd wrthi, Ha wraig, pa le y mae dy gyhuddwyr di? oni chondemniodd neb di? 11 Hithau a ddywedodd, Naddo neb, Arglwydd. A dywedodd yr Iesu wrthi, Nid wyf finnau yn dy gondemnio di: dos, ac na phecha mwyach.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.