Revised Common Lectionary (Complementary)
Caniad y graddau.
121 Dyrchafaf fy llygaid i’r mynyddoedd, o’r lle y daw fy nghymorth. 2 Fy nghymorth a ddaw oddi wrth yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear. 3 Ni ad efe i’th droed lithro: ac ni huna dy geidwad. 4 Wele, ni huna ac ni chwsg ceidwad Israel. 5 Yr Arglwydd yw dy geidwad: yr Arglwydd yw dy gysgod ar dy ddeheulaw. 6 Ni’th dery yr haul y dydd, na’r lleuad y nos. 7 Yr Arglwydd a’th geidw rhag pob drwg: efe a geidw dy enaid. 8 Yr Arglwydd a geidw dy fynediad a’th ddyfodiad, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.
18 Pa Dduw sydd fel tydi, yn maddau anwiredd, ac yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth? ni ddeil efe ei ddig byth, am fod yn hoff ganddo drugaredd. 19 Efe a ddychwel, efe a drugarha wrthym: efe a ddarostwng ein hanwireddau; a thi a defli eu holl bechodau i ddyfnderoedd y môr. 20 Ti a gyflewni y gwirionedd i Jacob, y drugaredd hefyd i Abraham, yr hwn a dyngaist i’n tadau er y dyddiau gynt.
21 Ac yr awr hon yr eglurwyd cyfiawnder Duw heb y ddeddf, wrth gael tystiolaeth gan y ddeddf a’r proffwydi; 22 Sef cyfiawnder Duw, yr hwn sydd trwy ffydd Iesu Grist, i bawb ac ar bawb a gredant: canys nid oes gwahaniaeth: 23 Oblegid pawb a bechasant, ac ydynt yn ôl am ogoniant Duw; 24 A hwy wedi eu cyfiawnhau yn rhad trwy ei ras ef, trwy’r prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu: 25 Yr hwn a osododd Duw yn iawn, trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o’r blaen, trwy ddioddefgarwch Duw; 26 I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn; fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu. 27 Pa le gan hynny y mae y gorfoledd? Efe a gaewyd allan. Trwy ba ddeddf? ai deddf gweithredoedd? Nage; eithr trwy ddeddf ffydd. 28 Yr ydym ni gan hynny yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawnheir dyn, heb weithredoedd y ddeddf. 29 Ai i’r Iddewon y mae efe yn Dduw yn unig? onid yw i’r Cenhedloedd hefyd? Yn wir y mae efe i’r Cenhedloedd hefyd: 30 Gan mai un Duw sydd, yr hwn a gyfiawnha’r enwaediad wrth ffydd, a’r dienwaediad trwy ffydd. 31 Wrth hynny, a ydym ni yn gwneuthur y ddeddf yn ddi‐rym trwy ffydd? Na ato Duw: eithr yr ydym yn cadarnhau’r ddeddf.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.