Revised Common Lectionary (Complementary)
15 A’r Arglwydd Dduw a gymerodd y dyn, ac a’i gosododd ef yng ngardd Eden, i’w llafurio ac i’w chadw hi. 16 A’r Arglwydd Dduw a orchmynnodd i’r dyn, gan ddywedyd, O bob pren o’r ardd gan fwyta y gelli fwyta: 17 Ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwyta ohono; oblegid yn y dydd y bwytei di ohono, gan farw y byddi farw.
3 A’r sarff oedd gyfrwysach na holl fwystfilod y maes, y rhai a wnaethai yr Arglwydd Dduw. A hi a ddywedodd wrth y wraig, Ai diau ddywedyd o Dduw, Ni chewch chwi fwyta o bob pren o’r ardd? 2 A’r wraig a ddywedodd wrth y sarff, O ffrwyth prennau yr ardd y cawn ni fwyta: 3 Ond am ffrwyth y pren sydd yng nghanol yr ardd, Duw a ddywedodd, Na fwytewch ohono, ac na chyffyrddwch ag ef, rhag eich marw. 4 A’r sarff a ddywedodd wrth y wraig, Ni byddwch feirw ddim. 5 Canys gwybod y mae Duw, mai yn y dydd y bwytaoch ohono ef, yr agorir eich llygaid, ac y byddwch megis duwiau, yn gwybod da a drwg. 6 A phan welodd y wraig mai da oedd ffrwyth y pren yn fwyd, ac mai teg mewn golwg ydoedd, a’i fod yn bren dymunol i beri deall, hi a gymerth o’i ffrwyth ef, ac a fwytaodd, ac a roddes i’w gŵr hefyd gyda hi, ac efe a fwytaodd. 7 A’u llygaid hwy ill dau a agorwyd, a hwy a wybuant eu bod yn noethion, ac a wniasant ddail y ffigysbren, ac a wnaethant iddynt arffedogau.
Salm Dafydd, er athrawiaeth.
32 Gwyn ei fyd y neb y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod. 2 Gwyn ei fyd y dyn ni chyfrif yr Arglwydd iddo anwiredd, ac ni byddo dichell yn ei ysbryd. 3 Tra y tewais, heneiddiodd fy esgyrn, gan fy rhuad ar hyd y dydd. 4 Canys trymhaodd dy law arnaf ddydd a nos: fy irder a drowyd yn sychder haf. Sela. 5 Addefais fy mhechod wrthyt, a’m hanwiredd ni chuddiais: dywedais, Cyffesaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i’r Arglwydd; a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod. Sela. 6 Am hyn y gweddïa pob duwiol arnat ti yn yr amser y’th geffir: yn ddiau yn llifeiriant dyfroedd mawrion, ni chânt nesáu ato ef. 7 Ti ydwyt loches i mi; cedwi fi rhag ing: amgylchyni fi â chaniadau ymwared. Sela. 8 Cyfarwyddaf di, a dysgaf di yn y ffordd yr elych: â’m llygad arnat y’th gynghoraf. 9 Na fyddwch fel march, neu ful, heb ddeall: yr hwn y mae rhaid atal ei ên â genfa, ac â ffrwyn, rhag ei ddynesáu atat. 10 Gofidiau lawer fydd i’r annuwiol: ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd, trugaredd a’i cylchyna ef. 11 Y rhai cyfiawn, byddwch lawen a hyfryd yn yr Arglwydd: a’r rhai uniawn o galon oll, cenwch yn llafar.
12 Am hynny, megis trwy un dyn y daeth pechod i’r byd, a marwolaeth trwy bechod; ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, yn gymaint â phechu o bawb: 13 Canys hyd y ddeddf yr oedd pechod yn y byd: eithr ni chyfrifir pechod pryd nad oes deddf. 14 Eithr teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses, ie, arnynt hwy y rhai ni phechasant yn ôl cyffelybiaeth camwedd Adda, yr hwn yw ffurf yr un oedd ar ddyfod. 15 Eithr nid megis y camwedd, felly y mae’r dawn hefyd. Canys os trwy gamwedd un y bu feirw llawer; mwy o lawer yr amlhaodd gras Duw, a’r dawn trwy ras yr un dyn Iesu Grist, i laweroedd. 16 Ac nid megis y bu trwy un a bechodd, y mae’r dawn: canys y farn a ddaeth o un camwedd i gondemniad; eithr y dawn sydd o gamweddau lawer i gyfiawnhad. 17 Canys os trwy gamwedd un y teyrnasodd marwolaeth trwy un; mwy o lawer y caiff y rhai sydd yn derbyn lluosowgrwydd o ras, ac o ddawn cyfiawnder, deyrnasu mewn bywyd trwy un, Iesu Grist. 18 Felly gan hynny, megis trwy gamwedd un y daeth barn ar bob dyn i gondemniad; felly hefyd trwy gyfiawnder un y daeth y dawn ar bob dyn i gyfiawnhad bywyd. 19 Oblegid megis trwy anufudd‐dod un dyn y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid; felly trwy ufudd‐dod un y gwneir llawer yn gyfiawn.
4 Yna yr Iesu a arweiniwyd i fyny i’r anialwch gan yr Ysbryd, i’w demtio gan ddiafol. 2 Ac wedi iddo ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, ar ôl hynny efe a newynodd. 3 A’r temtiwr pan ddaeth ato, a ddywedodd, Os mab Duw wyt ti, arch i’r cerrig hyn fod yn fara. 4 Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, Ysgrifennwyd, Nid trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a ddaw allan o enau Duw. 5 Yna y cymerth diafol ef i’r ddinas sanctaidd, ac a’i gosododd ef ar binacl y deml; 6 Ac a ddywedodd wrtho, Os mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr; canys ysgrifennwyd, Y rhydd efe orchymyn i’w angylion amdanat; a hwy a’th ddygant yn eu dwylo, rhag taro ohonot un amser dy droed wrth garreg. 7 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ysgrifennwyd drachefn, Na themtia yr Arglwydd dy Dduw. 8 Trachefn y cymerth diafol ef i fynydd tra uchel, ac a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd, a’u gogoniant; 9 Ac a ddywedodd wrtho, Hyn oll a roddaf i ti, os syrthi i lawr a’m haddoli i. 10 Yna yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ymaith, Satan; canys ysgrifennwyd, Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi. 11 Yna y gadawodd diafol ef: ac wele, angylion a ddaethant, ac a weiniasant iddo.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.