Revised Common Lectionary (Complementary)
12 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Tyred i fyny ataf i’r mynydd, a bydd yno: a mi a roddaf i ti lechau cerrig, a chyfraith, a gorchmynion, y rhai a ysgrifennais, i’w dysgu hwynt. 13 A chododd Moses, a Josua ei weinidog; ac aeth Moses i fyny i fynydd Duw. 14 Ac wrth yr henuriaid y dywedodd, Arhoswch ni yma, hyd oni ddelom ni atoch drachefn: ac wele, Aaron a Hur gyda chwi; pwy bynnag a fyddo ag achos iddo, deued atynt hwy. 15 A Moses a aeth i fyny i’r mynydd; a chwmwl a orchuddiodd y mynydd. 16 A gogoniant yr Arglwydd a arhodd ar fynydd Sinai, a’r cwmwl a’i gorchuddiodd chwe diwrnod: ac efe a alwodd am Moses y seithfed dydd o ganol y cwmwl. 17 A’r golwg ar ogoniant yr Arglwydd oedd fel tân yn difa ar ben y mynydd, yng ngolwg meibion Israel. 18 A Moses a aeth i ganol y cwmwl, ac a aeth i fyny i’r mynydd: a bu Moses yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos.
2 Paham y terfysga y cenhedloedd, ac y myfyria y bobloedd beth ofer? 2 Y mae brenhinoedd y ddaear yn ymosod, a’r penaethiaid yn ymgynghori ynghyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef, gan ddywedyd, 3 Drylliwn eu rhwymau hwy, a thaflwn eu rheffynnau oddi wrthym. 4 Yr hwn sydd yn preswylio yn y nefoedd a chwardd: yr Arglwydd a’u gwatwar hwynt. 5 Yna y llefara efe wrthynt yn ei lid, ac yn ei ddicllonrwydd y dychryna efe hwynt. 6 Minnau a osodais fy Mrenin ar Seion fy mynydd sanctaidd. 7 Mynegaf y ddeddf: dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Fy Mab ydwyt ti; myfi heddiw a’th genhedlais. 8 Gofyn i mi, a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti, a therfynau y ddaear i’th feddiant. 9 Drylli hwynt â gwialen haearn; maluri hwynt fel llestr pridd. 10 Gan hynny yr awr hon, frenhinoedd, byddwch synhwyrol: barnwyr y ddaear, cymerwch ddysg. 11 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn ofn, ac ymlawenhewch mewn dychryn. 12 Cusenwch y Mab, rhag iddo ddigio, a’ch difetha chwi o’r ffordd, pan gyneuo ei lid ef ond ychydig. Gwyn eu byd pawb a ymddiriedant ynddo ef.
99 Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; cryned y bobloedd: eistedd y mae rhwng y ceriwbiaid; ymgynhyrfed y ddaear. 2 Mawr yw yr Arglwydd yn Seion, a dyrchafedig yw efe goruwch yr holl bobloedd. 3 Moliannant dy enw mawr ac ofnadwy; canys sanctaidd yw. 4 A nerth y Brenin a hoffa farn: ti a sicrhei uniondeb, barn a chyfiawnder a wnei di yn Jacob. 5 Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymwch o flaen ei ystôl draed ef: canys sanctaidd yw. 6 Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid ef; a Samuel ymysg y rhai a alwant ar ei enw: galwasant ar yr Arglwydd, ac efe a’u gwrandawodd hwynt. 7 Llefarodd wrthynt yn y golofn gwmwl: cadwasant ei dystiolaethau, a’r ddeddf a roddodd efe iddynt. 8 Gwrandewaist arnynt, O Arglwydd ein Duw: Duw oeddit yn eu harbed, ie, pan ddielit am eu dychmygion. 9 Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymwch ar ei fynydd sanctaidd: canys sanctaidd yw yr Arglwydd ein Duw.
16 Canys nid gan ddilyn chwedlau cyfrwys, yr hysbysasom i chwi nerth a dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, eithr wedi gweled ei fawredd ef â’n llygaid. 17 Canys efe a dderbyniodd gan Dduw Dad barch a gogoniant, pan ddaeth y cyfryw lef ato oddi wrth y mawr-ragorol Ogoniant, Hwn yw fy annwyl Fab i, yn yr hwn y’m bodlonwyd. 18 A’r llef yma, yr hon a ddaeth o’r nef, a glywsom ni, pan oeddem gydag ef yn y mynydd sanctaidd. 19 Ac y mae gennym air sicrach y proffwydi; yr hwn da y gwnewch fod yn dal arno, megis ar gannwyll yn llewyrchu mewn lle tywyll, hyd oni wawrio’r dydd, ac oni chodo’r seren ddydd yn eich calonnau chwi: 20 Gan wybod hyn yn gyntaf, nad oes un broffwydoliaeth o’r ysgrythur o ddehongliad priod. 21 Canys nid trwy ewyllys dyn y daeth gynt broffwydoliaeth; eithr dynion sanctaidd Duw a lefarasant megis y cynhyrfwyd hwy gan yr Ysbryd Glân.
17 Ac ar ôl chwe diwrnod y cymerodd yr Iesu Pedr, ac Iago, ac Ioan ei frawd, ac a’u dug hwy i fynydd uchel o’r neilltu; 2 A gweddnewidiwyd ef ger eu bron hwy: a’i wyneb a ddisgleiriodd fel yr haul, a’i ddillad oedd cyn wynned â’r goleuni. 3 Ac wele, Moses ac Eleias a ymddangosodd iddynt, yn ymddiddan ag ef. 4 A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O Arglwydd, da yw i ni fod yma: os ewyllysi, gwnawn yma dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Eleias. 5 Ac efe eto yn llefaru, wele, cwmwl golau a’u cysgododd hwynt: ac wele, lef o’r cwmwl, yn dywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y’m bodlonwyd: gwrandewch arno ef. 6 A phan glybu’r disgyblion hynny: hwy a syrthiasant ar eu hwyneb, ac a ofnasant yn ddirfawr. 7 A daeth yr Iesu, ac a gyffyrddodd â hwynt, ac a ddywedodd, Cyfodwch, ac nac ofnwch. 8 Ac wedi iddynt ddyrchafu eu llygaid, ni welsant neb ond yr Iesu yn unig. 9 Ac fel yr oeddynt yn disgyn o’r mynydd, gorchmynnodd yr Iesu iddynt, gan ddywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth i neb, hyd oni atgyfodo Mab y dyn o feirw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.