Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 2

Paham y terfysga y cenhedloedd, ac y myfyria y bobloedd beth ofer? Y mae brenhinoedd y ddaear yn ymosod, a’r penaethiaid yn ymgynghori ynghyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef, gan ddywedyd, Drylliwn eu rhwymau hwy, a thaflwn eu rheffynnau oddi wrthym. Yr hwn sydd yn preswylio yn y nefoedd a chwardd: yr Arglwydd a’u gwatwar hwynt. Yna y llefara efe wrthynt yn ei lid, ac yn ei ddicllonrwydd y dychryna efe hwynt. Minnau a osodais fy Mrenin ar Seion fy mynydd sanctaidd. Mynegaf y ddeddf: dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Fy Mab ydwyt ti; myfi heddiw a’th genhedlais. Gofyn i mi, a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti, a therfynau y ddaear i’th feddiant. Drylli hwynt â gwialen haearn; maluri hwynt fel llestr pridd. 10 Gan hynny yr awr hon, frenhinoedd, byddwch synhwyrol: barnwyr y ddaear, cymerwch ddysg. 11 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn ofn, ac ymlawenhewch mewn dychryn. 12 Cusenwch y Mab, rhag iddo ddigio, a’ch difetha chwi o’r ffordd, pan gyneuo ei lid ef ond ychydig. Gwyn eu byd pawb a ymddiriedant ynddo ef.

Exodus 19:9-25

A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Wele, mi a ddeuaf atat mewn cwmwl tew, fel y clywo’r bobl pan ymddiddanwyf â thi, ac fel y credont i ti byth. A Moses a fynegodd eiriau y bobl i’r Arglwydd.

10 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dos at y bobl, a sancteiddia hwynt heddiw ac yfory; a golchant eu dillad, 11 A byddant barod erbyn y trydydd dydd: oherwydd y trydydd dydd y disgyn yr Arglwydd yng ngolwg yr holl bobl ar fynydd Sinai. 12 A gosod derfyn i’r bobl o amgylch, gan ddywedyd, Gwyliwch arnoch, rhag myned i fyny i’r mynydd, neu gyffwrdd â’i gwr ef: pwy bynnag a gyffyrddo â’r mynydd a leddir yn farw. 13 Na chyffyrdded llaw ag ef, ond gan labyddio llabyddier ef, neu gan saethu saether ef; pa un bynnag ai dyn ai anifail fyddo, ni chaiff fyw: pan gano’r utgorn yn hirllaes, deuant i’r mynydd.

14 A Moses a ddisgynnodd o’r mynydd at y bobl, ac a sancteiddiodd y bobl; a hwy a olchasant eu dillad. 15 Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Byddwch barod erbyn y trydydd dydd; nac ewch yn agos at eich gwragedd. 16 A’r trydydd dydd, ar y boreddydd, yr oedd taranau, a mellt, a chwmwl tew ar y mynydd, a llais yr utgorn ydoedd gryf iawn; fel y dychrynodd yr holl bobl oedd yn y gwersyll. 17 A Moses a ddug y bobl allan o’r gwersyll i gyfarfod â Duw; a hwy a safasant yng ngodre’r mynydd. 18 A mynydd Sinai oedd i gyd yn mygu, oherwydd disgyn o’r Arglwydd arno mewn tân: a’i fwg a ddyrchafodd fel mwg ffwrn, a’r holl fynydd a grynodd yn ddirfawr. 19 Pan ydoedd llais yr utgorn yn hir, ac yn cryfhau fwyfwy, Moses a lefarodd; a Duw a atebodd mewn llais. 20 A’r Arglwydd a ddisgynnodd ar fynydd Sinai, ar ben y mynydd: a galwodd yr Arglwydd Moses i ben y mynydd; a Moses a aeth i fyny. 21 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos i waered, gorchymyn i’r bobl; rhag iddynt ruthro at yr Arglwydd i hylltremu, a chwympo llawer ohonynt. 22 Ac ymsancteiddied yr offeiriaid hefyd, y rhai a nesânt at yr Arglwydd; rhag i’r Arglwydd ruthro arnynt. 23 A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, Ni ddichon y bobl ddyfod i fyny i fynydd Sinai: oblegid ti a dystiolaethaist wrthym, gan ddywedyd, Gosod derfyn ynghylch y mynydd, a sancteiddia ef. 24 A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos, cerdda i waered; a thyred i fyny, ac Aaron gyda thi: ond na ruthred yr offeiriaid a’r bobl, i ddyfod i fyny at yr Arglwydd; rhag iddo yntau ruthro arnynt hwy. 25 Yna yr aeth Moses i waered at y bobl, ac a ddywedodd wrthynt.

Hebreaid 11:23-28

23 Trwy ffydd, Moses, pan anwyd, a guddiwyd dri mis gan ei rieni, o achos eu bod yn ei weled yn fachgen tlws: ac nid ofnasant orchymyn y brenin. 24 Trwy ffydd, Moses, wedi myned yn fawr, a wrthododd ei alw yn fab merch Pharo; 25 Gan ddewis yn hytrach oddef adfyd gyda phobl Dduw, na chael mwyniant pechod dros amser; 26 Gan farnu yn fwy golud ddirmyg Crist na thrysorau’r Aifft: canys edrych yr oedd efe ar daledigaeth y gobrwy. 27 Trwy ffydd y gadawodd efe yr Aifft, heb ofni llid y brenin: canys efe a ymwrolodd fel un yn gweled yr anweledig. 28 Trwy ffydd y gwnaeth efe y pasg, a gollyngiad y gwaed, rhag i’r hwn ydoedd yn dinistrio’r rhai cyntaf‐anedig gyffwrdd â hwynt.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.