Revised Common Lectionary (Complementary)
2 Paham y terfysga y cenhedloedd, ac y myfyria y bobloedd beth ofer? 2 Y mae brenhinoedd y ddaear yn ymosod, a’r penaethiaid yn ymgynghori ynghyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef, gan ddywedyd, 3 Drylliwn eu rhwymau hwy, a thaflwn eu rheffynnau oddi wrthym. 4 Yr hwn sydd yn preswylio yn y nefoedd a chwardd: yr Arglwydd a’u gwatwar hwynt. 5 Yna y llefara efe wrthynt yn ei lid, ac yn ei ddicllonrwydd y dychryna efe hwynt. 6 Minnau a osodais fy Mrenin ar Seion fy mynydd sanctaidd. 7 Mynegaf y ddeddf: dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Fy Mab ydwyt ti; myfi heddiw a’th genhedlais. 8 Gofyn i mi, a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti, a therfynau y ddaear i’th feddiant. 9 Drylli hwynt â gwialen haearn; maluri hwynt fel llestr pridd. 10 Gan hynny yr awr hon, frenhinoedd, byddwch synhwyrol: barnwyr y ddaear, cymerwch ddysg. 11 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn ofn, ac ymlawenhewch mewn dychryn. 12 Cusenwch y Mab, rhag iddo ddigio, a’ch difetha chwi o’r ffordd, pan gyneuo ei lid ef ond ychydig. Gwyn eu byd pawb a ymddiriedant ynddo ef.
2 Duw hefyd a lefarodd wrth Moses, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw JEHOFAH. 3 A mi a ymddangosais i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, dan enw Duw Hollalluog; ond erbyn fy enw JEHOFAH ni bûm adnabyddus iddynt. 4 Hefyd mi a sicrheais fy nghyfamod â hwynt, am roddi iddynt wlad Canaan, sef gwlad eu hymdaith, yr hon yr ymdeithiasant ynddi. 5 A mi a glywais hefyd uchenaid plant Israel, y rhai y mae yr Eifftiaid yn eu caethiwo; a chofiais fy nghyfamod. 6 Am hynny dywed wrth feibion Israel, Myfi yw yr Arglwydd; a myfi a’ch dygaf chwi allan oddi tan lwythau yr Eifftiaid, ac a’ch rhyddhaf o’u caethiwed hwynt; ac a’ch gwaredaf â braich estynedig, ac â barnedigaethau mawrion. 7 Hefyd mi a’ch cymeraf yn bobl i mi, ac a fyddaf yn Dduw i chwi: a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn sydd yn eich dwyn chwi allan oddi tan lwythau yr Eifftiaid. 8 A mi a’ch dygaf chwi i’r wlad, am yr hon y tyngais y rhoddwn hi i Abraham, i Isaac, ac i Jacob; a mi a’i rhoddaf i chwi yn etifeddiaeth: myfi yw yr Arglwydd.
9 A Moses a lefarodd felly wrth feibion Israel: ond ni wrandawsant ar Moses, gan gyfyngdra ysbryd, a chan gaethiwed caled.
8 A phen ar y pethau a ddywedwyd yw hyn: Y mae gennym y fath Archoffeiriad, yr hwn a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfainc y Mawredd yn y nefoedd; 2 Yn Weinidog y gysegrfa, a’r gwir dabernacl, yr hwn a osododd yr Arglwydd, ac nid dyn. 3 Canys pob archoffeiriad a osodir i offrymu rhoddion ac aberthau: oherwydd paham rhaid oedd bod gan hwn hefyd yr hyn a offrymai. 4 Canys yn wir pe bai efe ar y ddaear, ni byddai yn offeiriad chwaith; gan fod offeiriaid y rhai sydd yn offrymu rhoddion yn ôl y ddeddf: 5 Y rhai sydd yn gwasanaethu i siampl a chysgod y pethau nefol, megis y rhybuddiwyd Moses gan Dduw, pan oedd efe ar fedr gorffen y babell: canys, Gwêl, medd efe, ar wneuthur ohonot bob peth yn ôl y portreiad a ddangoswyd i ti yn y mynydd. 6 Ond yn awr efe a gafodd weinidogaeth mwy rhagorol, o gymaint ag y mae yn Gyfryngwr cyfamod gwell, yr hwn sydd wedi ei osod ar addewidion gwell. 7 Oblegid yn wir pe buasai’r cyntaf hwnnw yn ddifeius, ni cheisiasid lle i’r ail.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.