Revised Common Lectionary (Complementary)
9 Pa fodd y glanha llanc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di. 10 A’m holl galon y’th geisiais: na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion. 11 Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i’th erbyn. 12 Ti, Arglwydd, wyt fendigedig: dysg i mi dy ddeddfau. 13 A’m gwefusau y traethais holl farnedigaethau dy enau. 14 Bu mor llawen gennyf ffordd dy dystiolaethau, â’r holl olud. 15 Yn dy orchmynion y myfyriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf. 16 Yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf: nid anghofiaf dy air.GIMEL
2 Fy mab, os derbynni di fy ngeiriau, ac os cuddi fy ngorchmynion gyda thi; 2 Fel y parech i’th glust wrando ar ddoethineb, ac y gogwyddech dy galon at ddeall; 3 Ie, os gwaeddi ar ôl gwybodaeth, os cyfodi dy lef am ddeall; 4 Os ceisi hi fel arian, os chwili amdani fel am drysorau cuddiedig; 5 Yna y cei ddeall ofn yr Arglwydd, ac y cei wybodaeth o Dduw. 6 Canys yr Arglwydd sydd yn rhoi doethineb: allan o’i enau ef y mae gwybodaeth a deall yn dyfod. 7 Y mae ganddo ynghadw i’r rhai uniawn wir ddoethineb: tarian yw efe i’r sawl a rodiant yn uniawn. 8 Y mae efe yn cadw llwybrau barn, ac yn cadw ffordd ei saint. 9 Yna y cei di ddeall cyfiawnder, a barn, ac uniondeb, a phob llwybr daionus.
10 Pan ddelo doethineb i mewn i’th galon, a phan fyddo hyfryd gan dy enaid wybodaeth; 11 Yna cyngor a’th gynnal, a synnwyr a’th geidw: 12 I’th achub oddi wrth y ffordd ddrwg, ac oddi wrth y dyn a lefaro drawsedd; 13 Y rhai a ymadawant â llwybrau uniondeb, i rodio mewn ffyrdd tywyllwch; 14 Y rhai a ymlawenychant i wneuthur drwg, ac a ymddigrifant yn anwiredd y drygionus; 15 Y rhai sydd â’u ffyrdd yn geimion, ac yn gildyn yn eu llwybrau:
19 A bu, pan orffennodd yr Iesu yr ymadroddion hyn, efe a ymadawodd o Galilea, ac a ddaeth i derfynau Jwdea, tu hwnt i’r Iorddonen: 2 A thorfeydd lawer a’i canlynasant ef; ac efe a’u hiachaodd hwynt yno.
3 A daeth y Phariseaid ato, gan ei demtio, a dywedyd wrtho, Ai cyfreithlon i ŵr ysgar â’i wraig am bob achos? 4 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch, i’r hwn a’u gwnaeth o’r dechrau, eu gwneuthur hwy yn wryw a benyw? 5 Ac efe a ddywedodd, Oblegid hyn y gad dyn dad a mam, ac y glŷn wrth ei wraig: a’r ddau fyddant yn un cnawd. 6 Oherwydd paham, nid ydynt mwy yn ddau, ond yn un cnawd. Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, nac ysgared dyn. 7 Hwythau a ddywedasant wrtho, Paham gan hynny y gorchmynnodd Moses roddi llythyr ysgar, a’i gollwng hi ymaith? 8 Yntau a ddywedodd wrthynt, Moses, oherwydd caledrwydd eich calonnau, a oddefodd i chwi ysgar â’ch gwragedd: eithr o’r dechrau nid felly yr oedd. 9 Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a ysgaro â’i wraig, ond am odineb, ac a briodo un arall, y mae efe yn torri priodas: ac y mae’r hwn a briodo’r hon a ysgarwyd, yn torri priodas.
10 Dywedodd ei ddisgyblion wrtho, Os felly y mae’r achos rhwng gŵr a gwraig, nid da gwreica. 11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Nid yw pawb yn derbyn y gair hwn, ond y rhai y rhoddwyd iddynt. 12 Canys y mae eunuchiaid a aned felly o groth eu mam; ac y mae eunuchiaid a wnaed gan ddynion yn eunuchiaid; ac y mae eunuchiaid a’u gwnaethant eu hun yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Y neb a ddichon ei dderbyn, derbynied.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.