Revised Common Lectionary (Complementary)
9 Pa fodd y glanha llanc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di. 10 A’m holl galon y’th geisiais: na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion. 11 Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i’th erbyn. 12 Ti, Arglwydd, wyt fendigedig: dysg i mi dy ddeddfau. 13 A’m gwefusau y traethais holl farnedigaethau dy enau. 14 Bu mor llawen gennyf ffordd dy dystiolaethau, â’r holl olud. 15 Yn dy orchmynion y myfyriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf. 16 Yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf: nid anghofiaf dy air.GIMEL
20 A Duw a lefarodd yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd, 2 Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th ddug di allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed. 3 Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i. 4 Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd uchod, nac a’r y sydd yn y ddaear isod, nac a’r sydd yn y dwfr tan y ddaear. 5 Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw, wyf Dduw eiddigus; yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt; 6 Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fy ngorchmynion. 7 Na chymer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer. 8 Cofia y dydd Saboth, i’w sancteiddio ef. 9 Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith: 10 Ond y seithfed dydd yw Saboth yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th wasanaethwr, na’th wasanaethferch, na’th anifail, na’th ddieithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth: 11 Oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a’r ddaear, y môr, a’r hyn oll sydd ynddynt; ac a orffwysodd y seithfed dydd: am hynny y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Saboth, ac a’i sancteiddiodd ef.
12 Anrhydedda dy dad a’th fam; fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti. 13 Na ladd. 14 Na wna odineb. 15 Na ladrata. 16 Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog. 17 Na chwennych dŷ dy gymydog, na chwennych wraig dy gymydog, na’i wasanaethwr, na’i wasanaethferch, na’i ych, na’i asyn, na dim a’r sydd eiddo dy gymydog.
18 A’r holl bobl a welsant y taranau, a’r mellt, a sain yr utgorn, a’r mynydd yn mygu: a phan welodd y bobl, ciliasant, a safasant o hirbell. 19 A dywedasant wrth Moses, Llefara di wrthym ni, a nyni a wrandawn: ond na lefared Duw wrthym, rhag i ni farw. 20 A dywedodd Moses wrth y bobl, Nac ofnwch; oherwydd i’ch profi chwi y daeth Duw, ac i fod ei ofn ef ger eich bronnau, fel na phechech. 21 A safodd y bobl o hirbell; a nesaodd Moses i’r tywyllwch, lle yr ydoedd Duw.
2 Cyfrifwch yn bob llawenydd, fy mrodyr, pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau; 3 Gan wybod fod profiad eich ffydd chwi yn gweithredu amynedd. 4 Ond caffed amynedd ei pherffaith waith; fel y byddoch berffaith a chyfan, heb ddiffygio mewn dim. 5 O bydd ar neb ohonoch eisiau doethineb, gofynned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb, ac heb ddannod; a hi roddir iddo ef. 6 Eithr gofynned mewn ffydd, heb amau dim: canys yr hwn sydd yn amau, sydd gyffelyb i don y môr, a chwelir ac a deflir gan y gwynt. 7 Canys na feddylied y dyn hwnnw y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd. 8 Gŵr dauddyblyg ei feddwl sydd anwastad yn ei holl ffyrdd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.