Revised Common Lectionary (Complementary)
105 Llusern yw dy air i’m traed, a llewyrch i’m llwybr. 106 Tyngais, a chyflawnaf, y cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder. 107 Cystuddiwyd fi yn ddirfawr: bywha fi, O Arglwydd, yn ôl dy air. 108 Atolwg, Arglwydd, bydd fodlon i ewyllysgar offrymau fy ngenau, a dysg i mi dy farnedigaethau. 109 Y mae fy enaid yn fy llaw yn wastadol: er hynny nid wyf yn anghofio dy gyfraith. 110 Y rhai annuwiol a osodasant fagl i mi: ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchmynion. 111 Cymerais dy orchmynion yn etifeddiaeth dros byth: oherwydd llawenydd fy nghalon ydynt. 112 Gostyngais fy nghalon i wneuthur dy ddeddfau byth, hyd y diwedd.SAMECH
3 Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i frenin Joseia, y brenin a anfonodd Saffan, mab Asaleia, mab Mesulam, yr ysgrifennydd, i dŷ yr Arglwydd, gan ddywedyd, 4 Dos i fyny at Hilceia yr archoffeiriad, fel y cyfrifo efe yr arian a dducpwyd i dŷ yr Arglwydd, y rhai a gasglodd ceidwaid y drws gan y bobl: 5 A rhoddant hwy yn llaw gweithwyr y gwaith, y rhai sydd olygwyr ar dŷ yr Arglwydd; a rhoddant hwy i’r rhai sydd yn gwneuthur y gwaith sydd yn nhŷ yr Arglwydd, i gyweirio agennau y tŷ, 6 I’r seiri coed, ac i’r adeiladwyr, ac i’r seiri maen, ac i brynu coed a cherrig nadd, i atgyweirio’r tŷ. 7 Eto ni chyfrifwyd â hwynt am yr arian a roddwyd yn eu llaw hwynt, am eu bod hwy yn gwneuthur yn ffyddlon.
8 A Hilceia yr archoffeiriad a ddywedodd wrth Saffan yr ysgrifennydd, Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ yr Arglwydd: a Hilceia a roddodd y llyfr at Saffan, ac efe a’i darllenodd ef. 9 A Saffan yr ysgrifennydd a ddaeth at y brenin, ac a adroddodd y peth i’r brenin, ac a ddywedodd, Dy weision di a gasglasant yr arian a gafwyd yn tŷ, ac a’i rhoddasant yn llaw gweithwyr y gwaith, y rhai sydd olygwyr ar dŷ yr Arglwydd. 10 A Saffan yr ysgrifennydd a fynegodd i’r brenin, gan ddywedyd, Hilceia yr offeiriad a roddodd i mi lyfr: a Saffan a’i darllenodd ef gerbron y brenin. 11 A phan glybu y brenin eiriau llyfr y gyfraith, efe a rwygodd ei ddillad. 12 A’r brenin a orchmynnodd i Hilceia yr offeiriad, ac i Ahicam mab Saffan, ac i Achbor mab Michaia, ac i Saffan yr ysgrifennydd, ac i Asaheia gwas y brenin, gan ddywedyd, 13 Ewch, ymofynnwch â’r Arglwydd drosof fi, a thros y bobl, a thros holl Jwda, am eiriau y llyfr hwn a gafwyd: canys mawr yw llid yr Arglwydd yr hwn a enynnodd i’n herbyn ni, oherwydd na wrandawodd ein tadau ni ar eiriau y llyfr hwn, i wneuthur yn ôl yr hyn oll a ysgrifennwyd o’n plegid ni. 14 Felly Hilceia yr offeiriad, ac Ahicam, ac Achbor, a Saffan, ac Asaheia, a aethant at Hulda y broffwydes, gwraig Salum mab Ticfa, mab Harhas, ceidwad y gwisgoedd: a hi oedd yn trigo yn Jerwsalem yn yr ysgoldy; a hwy a ymddiddanasant â hi.
15 A hi a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, Dywedwch i’r gŵr a’ch anfonodd chwi ataf fi; 16 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn dwyn drwg ar y lle hwn, ac ar ei drigolion, sef holl eiriau y llyfr a ddarllenodd brenin Jwda: 17 Am iddynt fy ngwrthod i, ac arogldarthu i dduwiau dieithr, i’m digio i â holl waith eu dwylo: am hynny yr ennyn fy llid yn erbyn y lle hwn, ac nis diffoddir ef. 18 Ond wrth frenin Jwda, yr hwn a’ch anfonodd chwi i ymgynghori â’r Arglwydd, fel hyn y dywedwch wrtho ef, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Am y geiriau a glywaist ti; 19 Oblegid i’th galon feddalhau, ac i tithau ymostwng o flaen yr Arglwydd, pan glywaist yr hyn a leferais yn erbyn y lle hwn, ac yn erbyn ei drigolion, y byddent yn anghyfannedd ac yn felltith, ac am rwygo ohonot dy ddillad, ac wylo ger fy mron i; minnau hefyd a wrandewais, medd yr Arglwydd. 20 Oherwydd hynny, wele, mi a’th gymeraf di ymaith at dy dadau, a thi a ddygir i’th fedd mewn heddwch, fel na welo dy lygaid yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn ei ddwyn ar y fan hon. A hwy a ddygasant air i’r brenin drachefn.
2 Ni wrthododd Duw ei bobl, yr hwn a adnabu efe o’r blaen. Oni wyddoch chwi pa beth y mae’r ysgrythur yn ei ddywedyd am Eleias? pa fodd y mae efe yn erfyn ar Dduw yn erbyn Israel, gan ddywedyd, 3 O Arglwydd, hwy a laddasant dy broffwydi, ac a gloddiasant dy allorau i lawr; ac myfi a adawyd yn unig, ac y maent yn ceisio fy einioes innau. 4 Eithr pa beth y mae ateb Duw yn ei ddywedyd wrtho? Mi a adewais i mi fy hun saith mil o wŷr, y rhai ni phlygasant eu gliniau i Baal. 5 Felly gan hynny y pryd hwn hefyd y mae gweddill yn ôl etholedigaeth gras. 6 Ac os o ras, nid o weithredoedd mwyach: os amgen, nid yw gras yn ras mwyach. Ac os o weithredoedd, nid yw o ras mwyach: os amgen, nid yw gweithred yn weithred mwyach. 7 Beth gan hynny? Ni chafodd Israel yr hyn y mae yn ei geisio: eithr yr etholedigaeth a’i cafodd, a’r lleill a galedwyd; 8 (Megis y mae yn ysgrifenedig, Rhoddes Duw iddynt ysbryd trymgwsg, llygaid fel na welent, a chlustiau fel na chlywent;) hyd y dydd heddiw. 9 Ac y mae Dafydd yn dywedyd, Bydded eu bord hwy yn rhwyd, ac yn fagl, ac yn dramgwydd, ac yn daledigaeth iddynt: 10 Tywyller eu llygaid hwy, fel na welant, a chydgryma di eu cefnau hwy bob amser.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.