Revised Common Lectionary (Complementary)
112 Molwch yr Arglwydd. Gwyn ei fyd y gŵr a ofna yr Arglwydd, ac sydd yn hoffi ei orchmynion ef yn ddirfawr. 2 Ei had fydd gadarn ar y ddaear: cenhedlaeth y rhai uniawn a fendithir. 3 Golud a chyfoeth fydd yn ei dŷ ef: a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth. 4 Cyfyd goleuni i’r rhai uniawn yn y tywyllwch: trugarog, a thosturiol, a chyfiawn, yw efe. 5 Gŵr da sydd gymwynasgar, ac yn rhoddi benthyg: wrth farn y llywodraetha efe ei achosion. 6 Yn ddiau nid ysgogir ef byth: y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth. 7 Nid ofna efe rhag chwedl drwg: ei galon sydd ddi‐sigl, yn ymddiried yn yr Arglwydd. 8 Ategwyd ei galon: nid ofna efe, hyd oni welo ei ewyllys ar ei elynion. 9 Gwasgarodd, rhoddodd i’r tlodion; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth; ei gorn a ddyrchefir mewn gogoniant.
10 Yr annuwiol a wêl hyn, ac a ddigia; efe a ysgyrnyga ei ddannedd, ac a dawdd ymaith: derfydd am ddymuniad y rhai annuwiol.
13 Am hynny y dywedodd yr Arglwydd, Oherwydd bod y bobl hyn yn nesáu ataf â’u genau, ac yn fy anrhydeddu â’u gwefusau, a phellhau eu calon oddi wrthyf, a bod eu hofn tuag ataf fi wedi ei ddysgu allan o athrawiaeth dynion; 14 Am hynny wele fi yn myned rhagof i wneuthur yn rhyfedd ymysg y bobl hyn, sef gwyrthiau a rhyfeddod: canys difethir doethineb eu doethion hwynt, a deall eu rhai deallgar hwynt a ymguddia. 15 Gwae y rhai a ddyfngeisiant i guddio eu cyngor oddi wrth yr Arglwydd, ac y mae eu gweithredoedd mewn tywyllwch, ac a ddywedant, Pwy a’n gwêl ni? a phwy a’n hedwyn? 16 Diau fel clai crochenydd y cyfrifir eich trofeydd chwi. Canys a ddywed y gwaith am y gweithydd, Ni’m gwnaeth i? neu a ddywed y peth a luniwyd am yr hwn a’i lluniodd, Nid yw ddeallus?
7 Yna yr ymgasglodd ato y Phariseaid, a rhai o’r ysgrifenyddion a ddaethai o Jerwsalem. 2 A phan welsant rai o’i ddisgyblion ef â dwylo cyffredin (hynny ydyw, heb olchi,) yn bwyta bwyd, hwy a argyhoeddasant. 3 Canys y Phariseaid, a’r holl Iddewon, oni bydd iddynt olchi eu dwylo yn fynych, ni fwytânt; gan ddal traddodiad yr hynafiaid. 4 A phan ddelont o’r farchnad, oni bydd iddynt ymolchi, ni fwytânt. A llawer o bethau eraill y sydd, y rhai a gymerasant i’w cadw; megis golchi cwpanau, ac ystenau, ac efyddynnau, a byrddau. 5 Yna y gofynnodd y Phariseaid a’r ysgrifenyddion iddo, Paham nad yw dy ddisgyblion di yn rhodio yn ôl traddodiad yr hynafiaid, ond bwyta eu bwyd â dwylo heb olchi? 6 Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Da y proffwydodd Eseias amdanoch chwi, ragrithwyr, fel y mae yn ysgrifenedig, Y mae’r bobl hyn yn fy anrhydeddu i â’u gwefusau, ond eu calon sydd bell oddi wrthyf. 7 Eithr ofer y maent yn fy addoli, gan ddysgu yn lle dysgeidiaeth, orchmynion dynion. 8 Canys, gan adael heibio orchymyn Duw, yr ydych yn dal traddodiad dynion; sef golchiadau ystenau a chwpanau: a llawer eraill o’r cyffelyb bethau yr ydych yn eu gwneuthur.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.