Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
37 Nac ymddigia oherwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnânt anwiredd. 2 Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i’r llawr fel glaswellt, ac y gwywant fel gwyrddlysiau. 3 Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau. 4 Ymddigrifa hefyd yn yr Arglwydd; ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon. 5 Treigla dy ffordd ar yr Arglwydd, ac ymddiried ynddo; ac efe a’i dwg i ben. 6 Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni, a’th farn fel hanner dydd. 7 Distawa yn yr Arglwydd, a disgwyl wrtho: nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion. 8 Paid â digofaint, a gad ymaith gynddaredd: nac ymddigia er dim i wneuthur drwg. 9 Canys torrir ymaith y drwg ddynion: ond y rhai a ddisgwyliant wrth yr Arglwydd, hwynt‐hwy a etifeddant y tir. 10 Canys eto ychydigyn, ac ni welir yr annuwiol: a thi a edrychi am ei le ef, ac ni bydd dim ohono. 11 Eithr y rhai gostyngedig a etifeddant y ddaear; ac a ymhyfrydant gan liaws tangnefedd. 12 Yr annuwiol a amcana yn erbyn y cyfiawn, ac a ysgyrnyga ei ddannedd arno. 13 Yr Arglwydd a chwardd am ei ben ef: canys gwêl fod ei ddydd ar ddyfod. 14 Yr annuwiolion a dynasant eu cleddyf, ac a anelasant eu bwa, i fwrw i lawr y tlawd a’r anghenog, ac i ladd y rhai uniawn eu ffordd. 15 Eu cleddyf a â yn eu calon eu hunain, a’u bwâu a ddryllir. 16 Gwell yw yr ychydig sydd gan y cyfiawn na mawr olud annuwiolion lawer. 17 Canys breichiau yr annuwiolion a dorrir: ond yr Arglwydd a gynnal y rhai cyfiawn.
3 Yna Naomi ei chwegr a ddywedodd wrthi, Fy merch, oni cheisiaf fi orffwystra i ti, fel y byddo da i ti? 2 Ac yn awr onid yw Boas o’n cyfathrach ni, yr hwn y buost ti gyda’i lancesi? Wele efe yn nithio haidd y nos hon yn y llawr dyrnu. 3 Ymolch gan hynny, ac ymira, a gosod dy ddillad amdanat, a dos i waered i’r llawr dyrnu: na fydd gydnabyddus i’r gŵr, nes darfod iddo fwyta ac yfed. 4 A phan orweddo efe, yna dal ar y fan y gorweddo efe ynddi; a dos, a dinoetha ei draed ef, a gorwedd; ac efe a fynega i ti yr hyn a wnelych. 5 A hi a ddywedodd wrthi, Gwnaf yr hyn oll a erchaist i mi.
6 A hi a aeth i waered i’r llawr dyrnu, ac a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai ei chwegr iddi. 7 Ac wedi i Boas fwyta ac yfed, fel y llawenhaodd ei galon, efe a aeth i gysgu i gwr yr ysgafn. Hithau a ddaeth yn ddistaw, ac a ddinoethodd ei draed, ac a orweddodd.
8 Ac yng nghanol y nos y gŵr a ofnodd, ac a ymdrôdd: ac wele wraig yn gorwedd wrth ei draed ef. 9 Ac efe a ddywedodd, Pwy ydwyt ti? A hi a ddywedodd, Myfi yw Ruth dy lawforwyn: lleda gan hynny dy adain dros dy lawforwyn, canys fy nghyfathrachwr i ydwyt ti. 10 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddych, fy merch, gan yr Arglwydd: dangosaist fwy o garedigrwydd yn y diwedd, nag yn y dechrau; gan nad aethost ar ôl gwŷr ieuainc, na thlawd na chyfoethog. 11 Ac yn awr, fy merch, nac ofna; yr hyn oll a ddywedaist, a wnaf i ti: canys holl ddinas fy mhobl a ŵyr mai gwraig rinweddol ydwyt ti. 12 Ac yn awr gwir yw fy mod i yn gyfathrachwr agos: er hynny y mae cyfathrachwr nes na myfi. 13 Aros heno; a’r bore, os efe a wna ran cyfathrachwr â thi, da; gwnaed ran cyfathrachwr: ond os efe ni wna ran cyfathrachwr â thi; yna myfi a wnaf ran cyfathrachwr â thi, fel mai byw yr Arglwydd: cwsg hyd y bore.
13 Felly Boas a gymerodd Ruth; a hi a fu iddo yn wraig: ac efe a aeth i mewn ati hi; a’r Arglwydd a roddodd iddi hi feichiogi, a hi a ymddûg fab. 14 A’r gwragedd a ddywedasant wrth Naomi, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn ni’th adawodd di heb gyfathrachwr heddiw, fel y gelwid ei enw ef yn Israel. 15 Ac efe fydd i ti yn adferwr einioes, ac yn ymgeleddwr i’th benwynni: canys dy waudd, yr hon a’th gâr di, a blantodd iddo ef, a hon sydd well i ti na saith o feibion. 16 A Naomi a gymerth y plentyn, ac a’i gosododd ef yn ei mynwes, ac a fu famaeth iddo. 17 A’i chymdogesau a roddasant iddo enw, gan ddywedyd, Ganwyd mab i Naomi; ac a alwasant ei enw ef Obed: hwn oedd dad Jesse, tad Dafydd.
18 Dyma genedlaethau Phares: Phares a genhedlodd Hesron, 19 A Hesron a genhedlodd Ram, a Ram a genhedlodd Aminadab, 20 Ac Aminadab a genhedlodd Nahson, a Nahson a genhedlodd Salmon, 21 A Salmon a genhedlodd Boas, a Boas a genhedlodd Obed, 22 Ac Obed a genhedlodd Jesse, a Jesse a genhedlodd Dafydd.
17 Ac efe a aeth i waered gyda hwynt, ac a safodd mewn gwastatir; a’r dyrfa o’i ddisgyblion, a lliaws mawr o bobl o holl Jwdea a Jerwsalem, ac o duedd môr Tyrus a Sidon, y rhai a ddaeth i wrando arno, ac i’w hiacháu o’u clefydau, 18 A’r rhai a flinid gan ysbrydion aflan: a hwy a iachawyd. 19 A’r holl dyrfa oedd yn ceisio cyffwrdd ag ef; am fod nerth yn myned ohono allan, ac yn iacháu pawb.
20 Ac efe a ddyrchafodd ei olygon ar ei ddisgyblion, ac a ddywedodd, Gwyn eich byd y tlodion: canys eiddoch chwi yw teyrnas Dduw. 21 Gwyn eich byd y rhai ydych yn dwyn newyn yr awr hon: canys chwi a ddigonir. Gwyn eich byd y rhai ydych yn wylo yr awr hon: canys chwi a chwerddwch. 22 Gwyn eich byd pan y’ch casao dynion, a phan y’ch didolant oddi wrthynt, ac y’ch gwaradwyddant, ac y bwriant eich enw allan megis drwg, er mwyn Mab y dyn. 23 Byddwch lawen y dydd hwnnw, a llemwch; canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y nef: oblegid yr un ffunud y gwnaeth eu tadau hwynt i’r proffwydi. 24 Eithr gwae chwi’r cyfoethogion! canys derbyniasoch eich diddanwch. 25 Gwae chwi’r rhai llawn! canys chwi a ddygwch newyn. Gwae chwi’r rhai a chwerddwch yr awr hon! canys chwi a alerwch ac a wylwch. 26 Gwae chwi pan ddywedo pob dyn yn dda amdanoch! canys felly y gwnaeth eu tadau hwynt i’r gau broffwydi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.