Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
37 Nac ymddigia oherwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnânt anwiredd. 2 Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i’r llawr fel glaswellt, ac y gwywant fel gwyrddlysiau. 3 Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau. 4 Ymddigrifa hefyd yn yr Arglwydd; ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon. 5 Treigla dy ffordd ar yr Arglwydd, ac ymddiried ynddo; ac efe a’i dwg i ben. 6 Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni, a’th farn fel hanner dydd. 7 Distawa yn yr Arglwydd, a disgwyl wrtho: nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion. 8 Paid â digofaint, a gad ymaith gynddaredd: nac ymddigia er dim i wneuthur drwg. 9 Canys torrir ymaith y drwg ddynion: ond y rhai a ddisgwyliant wrth yr Arglwydd, hwynt‐hwy a etifeddant y tir. 10 Canys eto ychydigyn, ac ni welir yr annuwiol: a thi a edrychi am ei le ef, ac ni bydd dim ohono. 11 Eithr y rhai gostyngedig a etifeddant y ddaear; ac a ymhyfrydant gan liaws tangnefedd. 12 Yr annuwiol a amcana yn erbyn y cyfiawn, ac a ysgyrnyga ei ddannedd arno. 13 Yr Arglwydd a chwardd am ei ben ef: canys gwêl fod ei ddydd ar ddyfod. 14 Yr annuwiolion a dynasant eu cleddyf, ac a anelasant eu bwa, i fwrw i lawr y tlawd a’r anghenog, ac i ladd y rhai uniawn eu ffordd. 15 Eu cleddyf a â yn eu calon eu hunain, a’u bwâu a ddryllir. 16 Gwell yw yr ychydig sydd gan y cyfiawn na mawr olud annuwiolion lawer. 17 Canys breichiau yr annuwiolion a dorrir: ond yr Arglwydd a gynnal y rhai cyfiawn.
1 A bu, yn y dyddiau yr oedd y brawdwyr yn barnu, fod newyn yn y wlad: a gŵr o Bethlehem Jwda a aeth i ymdeithio yng ngwlad Moab, efe a’i wraig, a’i ddau fab. 2 Ac enw y gŵr oedd Elimelech, ac enw ei wraig Naomi, ac enw ei ddau fab Mahlon a Chilion, Effrateaid o Bethlehem Jwda. A hwy a ddaethant i wlad Moab, ac a fuant yno. 3 Ac Elimelech gŵr Naomi a fu farw; a hithau a’i dau fab a adawyd. 4 A hwy a gymerasant iddynt wragedd o’r Moabesau; enw y naill oedd Orpa, ac enw y llall, Ruth. A thrigasant yno ynghylch deng mlynedd. 5 A Mahlon a Chilion a fuant feirw hefyd ill dau; a’r wraig a adawyd yn amddifad o’i dau fab, ac o’i gŵr.
6 A hi a gyfododd, a’i merched yng nghyfraith, i ddychwelyd o wlad Moab: canys hi a glywsai yng ngwlad Moab ddarfod i’r Arglwydd ymweled â’i bobl gan roddi iddynt fara. 7 A hi a aeth o’r lle yr oedd hi ynddo, a’i dwy waudd gyda hi: a hwy a aethant i ffordd i ddychwelyd i wlad Jwda. 8 A Naomi a ddywedodd wrth ei dwy waudd, Ewch, dychwelwch bob un i dŷ ei mam: gwneled yr Arglwydd drugaredd â chwi, fel y gwnaethoch chwi â’r meirw, ac â minnau. 9 Yr Arglwydd a ganiatao i chwi gael gorffwystra bob un yn nhŷ ei gŵr. Yna y cusanodd hi hwynt: a hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant. 10 A hwy a ddywedasant wrthi, Diau y dychwelwn ni gyda thi at dy bobl di. 11 A dywedodd Naomi, Dychwelwch, fy merched: i ba beth y deuwch gyda mi? a oes gennyf fi feibion eto yn fy nghroth, i fod yn wŷr i chwi? 12 Dychwelwch, fy merched, ewch ymaith: canys yr ydwyf fi yn rhy hen i briodi gŵr. Pe dywedwn, Y mae gennyf obaith, a bod heno gyda gŵr, ac ymddŵyn meibion hefyd; 13 A arhosech chwi amdanynt hwy, hyd oni chynyddent hwy? a ymarhosech chwi amdanynt hwy, heb wra? Nage, fy merched: canys y mae mawr dristwch i mi o’ch plegid chwi, am i law yr Arglwydd fyned i’m herbyn. 14 A hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant eilwaith: ac Orpa a gusanodd ei chwegr; ond Ruth a lynodd wrthi hi. 15 A dywedodd Naomi, Wele, dy chwaer yng nghyfraith a ddychwelodd at ei phobl, ac at ei duwiau: dychwel dithau ar ôl dy chwaer yng nghyfraith. 16 A Ruth a ddywedodd, Nac erfyn arnaf fi ymado â thi, i gilio oddi ar dy ôl di: canys pa le bynnag yr elych di, yr af finnau; ac ym mha le bynnag y lletyech di, y lletyaf finnau: dy bobl di fydd fy mhobl i, a’th Dduw di fy Nuw innau: 17 Lle y byddych di marw, y byddaf finnau farw, ac yno y’m cleddir; fel hyn y gwnelo yr Arglwydd i mi, ac fel hyn y chwanego, os dim ond angau a wna ysgariaeth rhyngof fi a thithau. 18 Pan welodd hi ei bod hi wedi ymroddi i fyned gyda hi, yna hi a beidiodd â dywedyd wrthi hi.
1 Paul, carcharor Crist Iesu, a’r brawd Timotheus, at Philemon ein hanwylyd, a’n cyd-weithiwr, 2 Ac at Apffia ein hanwylyd, ac at Archipus ein cyd-filwr, ac at yr eglwys sydd yn dy dŷ di: 3 Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist. 4 Yr wyf yn diolch i’m Duw, gan wneuthur coffa amdanat yn wastadol yn fy ngweddïau, 5 Wrth glywed dy gariad, a’r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu, a thuag at yr holl saint; 6 Fel y gwneler cyfraniad dy ffydd di yn nerthol, trwy adnabod pob peth daionus a’r sydd ynoch chwi yng Nghrist Iesu. 7 Canys y mae gennym lawer o lawenydd a diddanwch yn dy gariad di, herwydd bod ymysgaroedd y saint wedi eu llonni trwot ti, frawd. 8 Oherwydd paham, er bod gennyf hyfdra lawer yng Nghrist, i orchymyn i ti y peth sydd weddus: 9 Eto o ran cariad yr ydwyf yn hytrach yn atolwg, er fy mod yn gyfryw un â Phaul yr hynafgwr, ac yr awron hefyd yn garcharor Iesu Grist. 10 Yr ydwyf yn atolwg i ti dros fy mab Onesimus, yr hwn a genhedlais i yn fy rhwymau: 11 Yr hwn gynt a fu i ti yn anfuddiol, ond yr awron yn fuddiol i ti ac i minnau hefyd; 12 Yr hwn a ddanfonais drachefn: a derbyn dithau ef, yr hwn yw fy ymysgaroedd i: 13 Yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei ddal gyda mi, fel drosot ti y gwasanaethai efe fi yn rhwymau yr efengyl. 14 Eithr heb dy feddwl di nid ewyllysiais wneuthur dim; fel na byddai dy ddaioni di megis o anghenraid, ond o fodd. 15 Canys ysgatfydd er mwyn hyn yr ymadawodd dros amser, fel y derbynnit ef yn dragywydd; 16 Nid fel gwas bellach, eithr uwchlaw gwas, yn frawd annwyl, yn enwedig i mi; eithr pa faint mwy i ti, yn y cnawd ac yn yr Arglwydd hefyd? 17 Os wyt ti gan hynny yn fy nghymryd i yn gydymaith, derbyn ef fel myfi. 18 Ac os gwnaeth efe ddim cam â thi, neu os yw yn dy ddyled, cyfrif hynny arnaf i; 19 Myfi Paul a’i hysgrifennais â’m llaw fy hun, myfi a’i talaf: fel na ddywedwyf wrthyt, dy fod yn fy nyled i ymhellach amdanat dy hun hefyd. 20 Ie, frawd, gad i mi dy fwynhau di yn yr Arglwydd: llonna fy ymysgaroedd i yn yr Arglwydd. 21 Gan hyderu ar dy ufudd-dod yr ysgrifennais atat, gan wybod y gwnei, ie, fwy nag yr wyf yn ei ddywedyd. 22 Heblaw hyn hefyd, paratoa i mi lety: canys yr ydwyf yn gobeithio trwy eich gweddïau chwi y rhoddir fi i chwi. 23 Y mae yn dy annerch, Epaffras, fy nghyd-garcharor yng Nghrist Iesu; 24 Marc, Aristarchus, Demas, Luc, fy nghyd-weithwyr. 25 Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda’ch ysbryd chwi. Amen.
At Philemon yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda’r gwas Onesimus.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.