Revised Common Lectionary (Complementary)
7 Clyw, O Arglwydd, fy lleferydd pan lefwyf: trugarha hefyd wrthyf, a gwrando arnaf. 8 Pan ddywedaist, Ceisiwch fy wyneb; fy nghalon a ddywedodd wrthyt, Dy wyneb a geisiaf, O Arglwydd. 9 Na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; na fwrw ymaith dy was mewn soriant: fy nghymorth fuost; na ad fi, ac na wrthod fi, O Dduw fy iachawdwriaeth. 10 Pan yw fy nhad a’m mam yn fy ngwrthod, yr Arglwydd a’m derbyn. 11 Dysg i mi dy ffordd, Arglwydd, ac arwain fi ar hyd llwybrau uniondeb, oherwydd fy ngelynion. 12 Na ddyro fi i fyny i ewyllys fy ngelynion: canys gau dystion, a rhai a adroddant drawster, a gyfodasant i’m herbyn. 13 Diffygiaswn, pe na chredaswn weled daioni yr Arglwydd yn nhir y rhai byw. 14 Disgwyl wrth yr Arglwydd: ymwrola, ac efe a nertha dy galon: disgwyl, meddaf, wrth yr Arglwydd.
49 Yna y galwodd Jacob ar ei feibion, ac a ddywedodd, Ymgesglwch, fel y mynegwyf i chwi yr hyn a ddigwydda i chwi yn y dyddiau diwethaf. 2 Ymgesglwch, a chlywch, meibion Jacob; ie, gwrandewch ar Israel eich tad.
8 Tithau, Jwda, dy frodyr a’th glodforant di: dy law fydd yng ngwar dy elynion; meibion dy dad a ymgrymant i ti. 9 Cenau llew wyt ti, Jwda; o’r ysglyfaeth y daethost i fyny, fy mab: ymgrymodd, gorweddodd fel llew, ac fel hen lew: pwy a’i cyfyd ef? 10 Nid ymedy’r deyrnwialen o Jwda, na deddfwr oddi rhwng ei draed ef, hyd oni ddêl Seilo; ac ato ef y bydd cynulliad pobloedd. 11 Yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden, a llwdn ei asyn wrth y bêr winwydden: golchodd ei wisg mewn gwin, a’i ddillad yng ngwaed y grawnwin. 12 Coch fydd ei lygaid gan win, a gwyn fydd ei ddannedd gan laeth.
13 Sabulon a breswylia ym mhorth‐leoedd y môr; ac efe a fydd yn borthladd llongau, a’i derfyn fydd hyd Sidon.
21 Nafftali fydd ewig wedi ei gollwng, yn rhoddi geiriau teg.
22 Joseff fydd gangen ffrwythlon, cangen ffrwythlon wrth ffynnon, ceinciau yn cerdded ar hyd mur. 23 A’r saethyddion fuant chwerw wrtho ef, ac a saethasant, ac a’i casasant ef. 24 Er hynny arhodd ei fwa ef yn gryf, a breichiau ei ddwylo a gryfhasant, trwy ddwylo grymus Dduw Jacob: oddi yno y mae y bugail, maen Israel: 25 Trwy Dduw dy dad, yr hwn a’th gynorthwya, a’r Hollalluog, yr hwn a’th fendithia â bendithion y nefoedd oddi uchod, â bendithion y dyfnder yn gorwedd isod, â bendithion y bronnau a’r groth. 26 Rhagorodd bendithion dy dad ar fendithion fy rhieni, hyd derfyn bryniau tragwyddoldeb: byddant ar ben Joseff, ac ar gorun yr hwn a neilltuwyd oddi wrth ei frodyr.
67 A’i dad ef Sachareias a gyflawnwyd o’r Ysbryd Glân, ac a broffwydodd, gan ddywedyd, 68 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel: canys efe a ymwelodd, ac a wnaeth ymwared i’w bobl; 69 Ac efe a ddyrchafodd gorn iachawdwriaeth i ni, yn nhŷ Dafydd ei wasanaethwr; 70 Megis y llefarodd trwy enau ei sanctaidd broffwydi, y rhai oedd o ddechreuad y byd: 71 Fel y byddai i ni ymwared rhag ein gelynion, ac o law pawb o’n caseion; 72 I gwblhau’r drugaredd â’n tadau, ac i gofio ei sanctaidd gyfamod: 73 Y llw a dyngodd efe wrth ein tad Abraham, ar roddi i ni, 74 Gwedi ein rhyddhau o law ein gelynion, ei wasanaethu ef yn ddi‐ofn, 75 Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef, holl dyddiau ein bywyd. 76 A thithau, fachgennyn, a elwir yn broffwyd i’r Goruchaf: canys ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef; 77 I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i’w bobl, trwy faddeuant o’u pechodau, 78 Oherwydd tiriondeb trugaredd ein Duw; trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o’r uchelder, 79 I lewyrchu i’r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.