Revised Common Lectionary (Complementary)
7 Clyw, O Arglwydd, fy lleferydd pan lefwyf: trugarha hefyd wrthyf, a gwrando arnaf. 8 Pan ddywedaist, Ceisiwch fy wyneb; fy nghalon a ddywedodd wrthyt, Dy wyneb a geisiaf, O Arglwydd. 9 Na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; na fwrw ymaith dy was mewn soriant: fy nghymorth fuost; na ad fi, ac na wrthod fi, O Dduw fy iachawdwriaeth. 10 Pan yw fy nhad a’m mam yn fy ngwrthod, yr Arglwydd a’m derbyn. 11 Dysg i mi dy ffordd, Arglwydd, ac arwain fi ar hyd llwybrau uniondeb, oherwydd fy ngelynion. 12 Na ddyro fi i fyny i ewyllys fy ngelynion: canys gau dystion, a rhai a adroddant drawster, a gyfodasant i’m herbyn. 13 Diffygiaswn, pe na chredaswn weled daioni yr Arglwydd yn nhir y rhai byw. 14 Disgwyl wrth yr Arglwydd: ymwrola, ac efe a nertha dy galon: disgwyl, meddaf, wrth yr Arglwydd.
12 A’r Midianiaid, a’r Amaleciaid, a holl feibion y dwyrain, oedd yn gorwedd yn y dyffryn fel locustiaid o amldra; a’u camelod oedd heb rif, fel y tywod sydd ar fin y môr o amldra. 13 A phan ddaeth Gedeon, wele ŵr yn mynegi i’w gyfaill freuddwyd, ac yn dywedyd, Wele, breuddwyd a freuddwydiais; ac wele dorth o fara haidd yn ymdreiglo i wersyll y Midianiaid, a hi a ddaeth hyd at babell, ac a’i trawodd fel y syrthiodd, a hi a’i hymchwelodd, fel y syrthiodd y babell. 14 A’i gyfaill a atebodd ac a ddywedodd, Nid yw hyn ddim ond cleddyf Gedeon mab Joas, gŵr o Israel: Duw a roddodd Midian a’i holl fyddin yn ei law ef.
15 A phan glybu Gedeon adroddiad y breuddwyd, a’i ddirnad, efe a addolodd, ac a ddychwelodd i wersyll Israel; ac a ddywedodd, Cyfodwch: canys rhoddodd yr Arglwydd fyddin y Midianiaid yn eich llaw chwi. 16 Ac efe a rannodd y tri channwr yn dair byddin, ac a roddodd utgyrn yn llaw pawb ohonynt, a phiserau gwag, a lampau yng nghanol y piserau. 17 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Edrychwch arnaf fi, a gwnewch yr un ffunud: ac wele, pan ddelwyf i gwr y gwersyll, yna fel y gwnelwyf fi, gwnewch chwithau. 18 Pan utganwyf fi mewn utgorn, myfi a’r holl rai sydd gyda mi, utgenwch chwithau mewn utgyrn o amgylch yr holl wersyll, a dywedwch, Cleddyf yr Arglwydd a Gedeon.
19 Felly Gedeon a ddaeth i mewn, a’r cannwr oedd gydag ef, i gwr y gwersyll, yn nechrau’r wyliadwriaeth ganol, a’r gwylwyr wedi eu newydd osod, ac a utganasant mewn utgyrn, ac a ddrylliasant y piserau oedd yn eu dwylo. 20 A’r tair byddin a utganasant mewn utgyrn, ac a ddrylliasant y piserau, ac a ddaliasant y lampau yn eu llaw aswy, a’r utgyrn yn eu llaw ddeau i utganu: a hwy a lefasant, Cleddyf yr Arglwydd a Gedeon. 21 A safasant bob un yn ei le, o amgylch y gwersyll: a’r holl wersyll a redodd, ac a waeddodd, ac a ffodd. 22 A’r tri chant a utganasant ag utgyrn; a’r Arglwydd a osododd gleddyf pob un yn erbyn ei gilydd, trwy’r holl wersyll: felly y gwersyll a ffodd hyd Beth‐sitta, yn Sererath, hyd fin Abel‐mehola, hyd Tabbath.
12 Am hynny, fy anwylyd, megis bob amser yr ufuddhasoch, nid fel yn fy ngŵydd yn unig, eithr yr awron yn fwy o lawer yn fy absen, gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain trwy ofn a dychryn. 13 Canys Duw yw’r hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu o’i ewyllys da ef. 14 Gwnewch bob dim heb rwgnach ac ymddadlau; 15 Fel y byddoch ddiargyhoedd a diniwed, yn blant difeius i Dduw, yng nghanol cenhedlaeth ddrygionus a throfaus, ymhlith y rhai yr ydych yn disgleirio megis goleuadau yn y byd; 16 Yn cynnal gair y bywyd; er gorfoledd i mi yn nydd Crist, na redais yn ofer, ac na chymerais boen yn ofer. 17 Ie, a phe’m hoffrymid ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, llawenhau yr wyf, a chydlawenhau â chwi oll. 18 Oblegid yr un peth hefyd byddwch chwithau lawen, a chydlawenhewch â minnau.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.