Revised Common Lectionary (Complementary)
7 Clyw, O Arglwydd, fy lleferydd pan lefwyf: trugarha hefyd wrthyf, a gwrando arnaf. 8 Pan ddywedaist, Ceisiwch fy wyneb; fy nghalon a ddywedodd wrthyt, Dy wyneb a geisiaf, O Arglwydd. 9 Na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; na fwrw ymaith dy was mewn soriant: fy nghymorth fuost; na ad fi, ac na wrthod fi, O Dduw fy iachawdwriaeth. 10 Pan yw fy nhad a’m mam yn fy ngwrthod, yr Arglwydd a’m derbyn. 11 Dysg i mi dy ffordd, Arglwydd, ac arwain fi ar hyd llwybrau uniondeb, oherwydd fy ngelynion. 12 Na ddyro fi i fyny i ewyllys fy ngelynion: canys gau dystion, a rhai a adroddant drawster, a gyfodasant i’m herbyn. 13 Diffygiaswn, pe na chredaswn weled daioni yr Arglwydd yn nhir y rhai byw. 14 Disgwyl wrth yr Arglwydd: ymwrola, ac efe a nertha dy galon: disgwyl, meddaf, wrth yr Arglwydd.
11 Ac angel yr Arglwydd a ddaeth, ac a eisteddodd dan dderwen oedd yn Offra, yr hon oedd eiddo Joas yr Abiesriad: a Gedeon ei fab ef oedd yn dyrnu gwenith wrth y gwinwryf, i’w guddio rhag y Midianiaid. 12 Ac angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo ef, ac a ddywedodd wrtho, Yr Arglwydd sydd gyda thi, ŵr cadarn nerthol. 13 A Gedeon a ddywedodd wrtho, O fy arglwydd, od yw yr Arglwydd gyda ni, paham y digwyddodd hyn oll i ni? a pha le y mae ei holl ryfeddodau ef, y rhai a fynegodd ein tadau i ni, gan ddywedyd, Oni ddug yr Arglwydd ni i fyny o’r Aifft? Ond yn awr yr Arglwydd a’n gwrthododd ni, ac a’n rhoddodd i law y Midianiaid. 14 A’r Arglwydd a edrychodd arno ef, ac a ddywedodd, Dos yn dy rymustra yma; a thi a waredi Israel o law y Midianiaid: oni anfonais i dydi? 15 Dywedodd yntau wrtho ef, O fy arglwydd, pa fodd y gwaredaf fi Israel? Wele fy nheulu yn dlawd ym Manasse, a minnau yn lleiaf yn nhŷ fy nhad. 16 A dywedodd yr Arglwydd wrtho ef, Diau y byddaf fi gyda thi; a thi a drewi y Midianiaid fel un gŵr. 17 Ac efe a ddywedodd wrtho, O chefais yn awr ffafr yn dy olwg, gwna erof fi arwydd mai ti sydd yn llefaru wrthyf. 18 Na chilia, atolwg, oddi yma, hyd oni ddelwyf atat, ac oni ddygwyf fy anrheg, a’i gosod ger dy fron. Dywedodd yntau, Myfi a arhosaf nes i ti ddychwelyd. 19 A Gedeon a aeth i mewn, ac a baratôdd fyn gafr, ac effa o beilliaid yn fara croyw: y cig a osododd efe mewn basged, a’r isgell a osododd efe mewn crochan; ac a’i dug ato ef dan y dderwen, ac a’i cyflwynodd. 20 Ac angel Duw a ddywedodd wrtho, Cymer y cig, a’r bara croyw, a gosod ar y graig hon, a thywallt yr isgell. Ac efe a wnaeth felly.
21 Yna angel yr Arglwydd a estynnodd flaen y ffon oedd yn ei law, ac a gyffyrddodd â’r cig, ac â’r bara croyw: a’r tân a ddyrchafodd o’r graig, ac a ysodd y cig, a’r bara croyw. Ac angel yr Arglwydd a aeth ymaith o’i olwg ef. 22 A phan welodd Gedeon mai angel yr Arglwydd oedd efe, y dywedodd Gedeon, Och, O Arglwydd Dduw! oherwydd i mi weled angel yr Arglwydd wyneb yn wyneb. 23 A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Tangnefedd i ti: nac ofna; ni byddi farw. 24 Yna Gedeon a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd, ac a’i galwodd Jehofah-shalom: hyd y dydd hwn y mae hi eto yn Offra eiddo yr Abiesriaid.
6 Na thwylled neb chwi â geiriau ofer: canys oblegid y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd‐dod. 7 Na fyddwch gan hynny gyfranogion â hwynt. 8 Canys yr oeddech chwi gynt yn dywyllwch, ond yr awron goleuni ydych yn yr Arglwydd: rhodiwch fel plant y goleuni; 9 (Canys ffrwyth yr Ysbryd sydd ym mhob daioni, a chyfiawnder, a gwirionedd;) 10 Gan brofi beth sydd gymeradwy gan yr Arglwydd. 11 Ac na fydded i chwi gydgyfeillach â gweithredoedd anffrwythlon y tywyllwch, eithr yn hytrach argyhoeddwch hwynt. 12 Canys brwnt yw adrodd y pethau a wneir ganddynt hwy yn ddirgel. 13 Eithr pob peth, wedi yr argyhoedder, a eglurir gan y goleuni: canys beth bynnag sydd yn egluro, goleuni yw. 14 Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd, Deffro di yr hwn wyt yn cysgu, a chyfod oddi wrth y meirw; a Christ a oleua i ti.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.