Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Eseia 9:1-4

Eto ni bydd y tywyllwch yn ôl yr hyn a fu yn y gofid; megis yn yr amser cyntaf y cyffyrddodd yn ysgafn â thir Sabulon a thir Nafftali, ac wedi hynny yn ddwysach y cystuddiodd hi wrth ffordd y môr, tu hwnt i’r Iorddonen, yn Galilea y cenhedloedd. Y bobl a rodiasant mewn tywyllwch, a welsant oleuni mawr: y rhai sydd yn aros yn nhir cysgod angau y llewyrchodd goleuni arnynt. Amlheaist y genhedlaeth, ni chwanegaist lawenydd; llawenychasant ger dy fron megis y llawenydd amser cynhaeaf, ac megis y llawenychant wrth rannu ysbail. Canys drylliaist iau ei faich ef, a ffon ei ysgwydd ef, gwialen ei orthrymwr, megis yn nydd Midian.

Salmau 27:1

Salm Dafydd.

27 Yr Arglwydd yw fy ngoleuni a’m hiachawdwriaeth; rhag pwy yr ofnaf? yr Arglwydd yw nerth fy mywyd; rhag pwy y dychrynaf?

Salmau 27:4-9

Un peth a ddeisyfais i gan yr Arglwydd, hynny a geisiaf; sef caffael trigo yn nhŷ yr Arglwydd holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar brydferthwch yr Arglwydd, ac i ymofyn yn ei deml. Canys yn y dydd blin y’m cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei babell y’m cuddia; ar graig y’m cyfyd i. Ac yn awr y dyrcha efe fy mhen goruwch fy ngelynion o’m hamgylch: am hynny yr aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd; canaf, ie, canmolaf yr Arglwydd. Clyw, O Arglwydd, fy lleferydd pan lefwyf: trugarha hefyd wrthyf, a gwrando arnaf. Pan ddywedaist, Ceisiwch fy wyneb; fy nghalon a ddywedodd wrthyt, Dy wyneb a geisiaf, O Arglwydd. Na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; na fwrw ymaith dy was mewn soriant: fy nghymorth fuost; na ad fi, ac na wrthod fi, O Dduw fy iachawdwriaeth.

1 Corinthiaid 1:10-18

10 Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, ddywedyd o bawb ohonoch chwi yr un peth, ac na byddo ymbleidio yn eich plith; eithr bod ohonoch wedi eich cyfan gysylltu yn yr un meddwl, ac yn yr un farn. 11 Canys fe ddangoswyd i mi amdanoch chwi, fy mrodyr, gan y rhai sydd o dŷ Chlöe, fod cynhennau yn eich plith chwi. 12 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, bod pob un ohonoch yn dywedyd, Yr ydwyf fi yn eiddo Paul; minnau yn eiddo Apolos; minnau yn eiddo Ceffas; minnau yn eiddo Crist. 13 A rannwyd Crist? ai Paul a groeshoeliwyd drosoch? neu ai yn enw Paul y’ch bedyddiwyd chwi? 14 Yr ydwyf yn diolch i Dduw, na fedyddiais i neb ohonoch, ond Crispus a Gaius; 15 Fel na ddywedo neb fedyddio ohonof fi yn fy enw fy hun. 16 Mi a fedyddiais hefyd dylwyth Steffanas: heblaw hynny nis gwn a fedyddiais i neb arall. 17 Canys nid anfonodd Crist fi i fedyddio, ond i efengylu; nid mewn doethineb ymadrodd, fel na wnelid croes Crist yn ofer. 18 Canys yr ymadrodd am y groes, i’r rhai colledig, ynfydrwydd yw; eithr i ni’r rhai cadwedig, nerth Duw ydyw.

Mathew 4:12-23

12 A phan glybu’r Iesu draddodi Ioan, efe a aeth i Galilea. 13 A chan ado Nasareth, efe a aeth ac a arhosodd yng Nghapernaum, yr hon sydd wrth y môr, yng nghyffiniau Sabulon a Neffthali: 14 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, 15 Tir Sabulon, a thir Neffthali, wrth ffordd y môr, tu hwnt i’r Iorddonen, Galilea’r Cenhedloedd: 16 Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch, a welodd oleuni mawr; ac i’r rhai a eisteddent ym mro a chysgod angau, y cyfododd goleuni iddynt.

17 O’r pryd hwnnw y dechreuodd yr Iesu bregethu, a dywedyd, Edifarhewch: canys nesaodd teyrnas nefoedd.

18 A’r Iesu yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu ddau frodyr, Simon, yr hwn a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i’r môr; canys pysgodwyr oeddynt: 19 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ôl i, a mi a’ch gwnaf yn bysgodwyr dynion. 20 A hwy yn y fan, gan adael y rhwydau, a’i canlynasant ef. 21 Ac wedi myned rhagddo oddi yno, efe a welodd ddau frodyr eraill, Iago fab Sebedeus, ac Ioan ei frawd, mewn llong gyda Sebedeus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau; ac a’u galwodd hwy. 22 Hwythau yn ebrwydd, gan adael y llong a’u tad, a’i canlynasant ef.

23 A’r Iesu a aeth o amgylch holl Galilea, gan ddysgu yn eu synagogau, a phregethu efengyl y deyrnas, ac iacháu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.