Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
27 Yr Arglwydd yw fy ngoleuni a’m hiachawdwriaeth; rhag pwy yr ofnaf? yr Arglwydd yw nerth fy mywyd; rhag pwy y dychrynaf? 2 Pan nesaodd y rhai drygionus, sef fy ngwrthwynebwyr a’m gelynion, i’m herbyn, i fwyta fy nghnawd, hwy a dramgwyddasant ac a syrthiasant. 3 Pe gwersyllai llu i’m herbyn, nid ofna fy nghalon: pe cyfodai cad i’m herbyn, yn hyn mi a fyddaf hyderus. 4 Un peth a ddeisyfais i gan yr Arglwydd, hynny a geisiaf; sef caffael trigo yn nhŷ yr Arglwydd holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar brydferthwch yr Arglwydd, ac i ymofyn yn ei deml. 5 Canys yn y dydd blin y’m cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei babell y’m cuddia; ar graig y’m cyfyd i. 6 Ac yn awr y dyrcha efe fy mhen goruwch fy ngelynion o’m hamgylch: am hynny yr aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd; canaf, ie, canmolaf yr Arglwydd.
1 Ac yr oedd rhyw ŵr o Ramathaim-Soffim, o fynydd Effraim, a’i enw Elcana, mab Jeroham, mab Elihu, mab Tohu, mab Suff, Effratëwr: 2 A dwy wraig oedd iddo; enw y naill oedd Hanna, ac enw y llall Peninna: ac i Peninna yr ydoedd plant, ond i Hanna nid oedd plant. 3 A’r gŵr hwn a âi i fyny o’i ddinas bob blwyddyn i addoli, ac i aberthu i Arglwydd y lluoedd, yn Seilo; a dau fab Eli, Hoffni a Phinees, oedd offeiriaid i’r Arglwydd yno.
4 Bu hefyd, y diwrnod yr aberthodd Elcana, roddi ohono ef i Peninna ei wraig, ac i’w meibion a’i merched oll, rannau. 5 Ond i Hanna y rhoddes efe un rhan hardd: canys efe a garai Hanna, ond yr Arglwydd a gaeasai ei chroth hi; 6 A’i gwrthwynebwraig a’i cyffrôdd hi i’w chythruddo, am i’r Arglwydd gau ei bru hi. 7 Ac felly y gwnaeth efe bob blwyddyn, pan esgynnai hi i dŷ yr Arglwydd, hi a’i cythruddai hi felly; fel yr wylai, ac na fwytâi. 8 Yna Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi, Hanna, paham yr wyli? a phaham na fwytei? a phaham y mae yn flin ar dy galon? onid wyf fi well i ti na deg o feibion?
9 Felly Hanna a gyfododd, wedi iddynt fwyta ac yfed yn Seilo. (Ac Eli yr offeiriad oedd yn eistedd ar fainc wrth bost teml yr Arglwydd.) 10 Ac yr oedd hi yn chwerw ei henaid, ac a weddïodd ar yr Arglwydd, a chan wylo hi a wylodd. 11 Hefyd hi a addunodd adduned, ac a ddywedodd, O Arglwydd y lluoedd, os gan edrych yr edrychi ar gystudd dy lawforwyn, ac a’m cofi i, ac nid anghofi dy lawforwyn, ond rhoddi i’th lawforwyn fab: yna y rhoddaf ef i’r Arglwydd holl ddyddiau ei einioes, ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef. 12 A bu, fel yr oedd hi yn parhau yn gweddïo gerbron yr Arglwydd, i Eli ddal sylw ar ei genau hi. 13 A Hanna oedd yn llefaru yn ei chalon, yn unig ei gwefusau a symudent; a’i llais ni chlywid: am hynny Eli a dybiodd ei bod hi yn feddw. 14 Ac Eli a ddywedodd wrthi hi, Pa hyd y byddi feddw? bwrw ymaith dy win oddi wrthyt. 15 A Hanna a atebodd, ac a ddywedodd, Nid felly, fy arglwydd; gwraig galed arni ydwyf fi: gwin hefyd na diod gadarn nid yfais; eithr tywelltais fy enaid gerbron yr Arglwydd. 16 Na chyfrif dy lawforwyn yn ferch Belial: canys o amldra fy myfyrdod, a’m blinder, y lleferais hyd yn hyn. 17 Yna yr atebodd Eli, ac a ddywedodd, Dos mewn heddwch: a Duw Israel a roddo dy ddymuniad yr hwn a ddymunaist ganddo ef. 18 A hi a ddywedodd, Caffed dy lawforwyn ffafr yn dy olwg. Felly yr aeth y wraig i’w thaith, ac a fwytaodd; ac ni bu athrist mwy.
19 A hwy a gyfodasant yn fore, ac a addolasant gerbron yr Arglwydd; ac a ddychwelasant, ac a ddaethant i’w tŷ i Rama. Ac Elcana a adnabu Hanna ei wraig; a’r Arglwydd a’i cofiodd hi. 20 A bu, pan ddaeth yr amser o amgylch, wedi beichiogi o Hanna, esgor ohoni ar fab; a hi a alwodd ei enw ef Samuel: Canys gan yr Arglwydd y dymunais ef, eb hi.
11 Eithr yr ydwyf yn hysbysu i chwi, frodyr, am yr efengyl a bregethwyd gennyf fi, nad yw hi ddynol. 12 Canys nid gan ddyn y derbyniais i hi, nac y’m dysgwyd; eithr trwy ddatguddiad Iesu Grist. 13 Canys chwi a glywsoch fy ymarweddiad i gynt yn y grefydd Iddewig, i mi allan o fesur erlid eglwys Dduw, a’i hanrheithio hi; 14 Ac i mi gynyddu yn y grefydd Iddewig yn fwy na llawer o’m cyfoedion yn fy nghenedl fy hun, gan fod yn fwy awyddus i draddodiadau fy nhadau. 15 Ond pan welodd Duw yn dda, yr hwn a’m neilltuodd i o groth fy mam, ac a’m galwodd i trwy ei ras, 16 I ddatguddio ei Fab ef ynof fi, fel y pregethwn ef ymhlith y cenhedloedd; yn y fan nid ymgynghorais â chig a gwaed: 17 Ac nid euthum yn fy ôl i Jerwsalem at y rhai oedd o’m blaen i yn apostolion; ond mi a euthum i Arabia, a thrachefn y dychwelais i Ddamascus. 18 Yna ar ôl tair blynedd y deuthum yn fy ôl i Jerwsalem i ymweled â Phedr; ac a arhosais gydag ef bymtheng niwrnod. 19 Eithr neb arall o’r apostolion nis gwelais, ond Iago brawd yr Arglwydd. 20 A’r pethau yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, wele, gerbron Duw, nad wyf yn dywedyd celwydd. 21 Wedi hynny y deuthum i wledydd Syria a Cilicia; 22 Ac yr oeddwn heb fy adnabod wrth fy wyneb yn eglwysi Jwdea y rhai oedd yng Nghrist: 23 Ond yn unig hwy a glywsent, fod yr hwn oedd gynt yn ein herlid ni, yr awron yn pregethu’r ffydd, yr hon gynt a anrheithiasai. 24 A hwy a ogoneddasant Dduw ynof fi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.