Revised Common Lectionary (Complementary)
49 Gwrandewch arnaf, ynysoedd; ac ystyriwch, bobl o bell; Yr Arglwydd a’m galwodd o’r groth; o ymysgaroedd fy mam y gwnaeth goffa am fy enw. 2 Gosododd hefyd fy ngenau fel cleddyf llym, yng nghysgod ei law y’m cuddiodd; a gwnaeth fi yn saeth loyw, cuddiodd fi yn ei gawell saethau; 3 Ac a ddywedodd wrthyf, Fy ngwas i ydwyt ti, Israel, yr hwn yr ymogoneddaf ynot. 4 Minnau a ddywedais, Yn ofer y llafuriais, yn ofer ac am ddim y treuliais fy nerth; er hynny y mae fy marn gyda’r Arglwydd, a’m gwaith gyda’m Duw.
5 Ac yn awr, medd yr Arglwydd yr hwn a’m lluniodd o’r groth yn was iddo, i ddychwelyd Jacob ato ef, Er nad ymgasglodd Israel, eto gogoneddus fyddaf fi yng ngolwg yr Arglwydd, a’m Duw fydd fy nerth. 6 Ac efe a ddywedodd, Gwael yw dy fod yn was i mi, i gyfodi llwythau Jacob, ac i adferu rhai cadwedig Israel: mi a’th roddaf hefyd yn oleuni i’r Cenhedloedd, fel y byddych yn iachawdwriaeth i mi hyd eithaf y ddaear. 7 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Gwaredydd Israel, a’i Sanct, wrth y dirmygedig o enaid, wrth yr hwn sydd ffiaidd gan y genedl, wrth was llywodraethwyr; Brenhinoedd a welant, ac a gyfodant; tywysogion hefyd a ymgrymant, er mwyn yr Arglwydd, yr hwn sydd ffyddlon, Sanct Israel, ac efe a’th ddewisodd di.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
40 Disgwyliais yn ddyfal am yr Arglwydd; ac efe a ymostyngodd ataf, ac a glybu fy llefain. 2 Cyfododd fi hefyd o’r pydew erchyll, allan o’r pridd tomlyd; ac a osododd fy nhraed ar graig, gan hwylio fy ngherddediad. 3 A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd o foliant i’n Duw ni: llawer a welant hyn, ac a ofnant, ac a ymddiriedant yn yr Arglwydd. 4 Gwyn ei fyd y gŵr a osodo yr Arglwydd yn ymddiried iddo; ac ni thry at feilchion, nac at y rhai a ŵyrant at gelwydd. 5 Lluosog y gwnaethost ti, O Arglwydd fy Nuw, dy ryfeddodau, a’th amcanion tuag atom: ni ellir yn drefnus eu cyfrif hwynt i ti: pe mynegwn, a phe traethwn hwynt, amlach ydynt nag y gellir eu rhifo. 6 Aberth ac offrwm nid ewyllysiaist; agoraist fy nghlustiau: poethoffrwm a phech‐aberth nis gofynnaist. 7 Yna y dywedais, Wele yr ydwyf yn dyfod: yn rhol y llyfr yr ysgrifennwyd amdanaf. 8 Da gennyf wneuthur dy ewyllys, O fy Nuw: a’th gyfraith sydd o fewn fy nghalon. 9 Pregethais gyfiawnder yn y gynulleidfa fawr: wele, nid ateliais fy ngwefusau; ti, Arglwydd, a’i gwyddost. 10 Ni chuddiais dy gyfiawnder o fewn fy nghalon; traethais dy ffyddlondeb, a’th iachawdwriaeth: ni chelais dy drugaredd na’th wirionedd yn y gynulleidfa luosog. 11 Tithau, Arglwydd, nac atal dy drugareddau oddi wrthyf: cadwed dy drugaredd a’th wirionedd fi byth.
1 Paul, wedi ei alw i fod yn apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a’r brawd Sosthenes, 2 At eglwys Dduw yr hon sydd yng Nghorinth, at y rhai a sancteiddiwyd yng Nghrist Iesu, a alwyd yn saint, gyda phawb ag sydd yn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist, ym mhob man, o’r eiddynt hwy a ninnau: 3 Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist. 4 Yr ydwyf yn diolch i’m Duw bob amser drosoch chwi, am y gras Duw a rodded i chwi yng Nghrist Iesu; 5 Am eich bod ym mhob peth wedi eich cyfoethogi ynddo ef, mewn pob ymadrodd, a phob gwybodaeth; 6 Megis y cadarnhawyd tystiolaeth Crist ynoch: 7 Fel nad ydych yn ôl mewn un dawn, yn disgwyl am ddatguddiad ein Harglwydd Iesu Grist: 8 Yr hwn hefyd a’ch cadarnha chwi hyd y diwedd, yn ddiargyhoedd, yn nydd ein Harglwydd Iesu Grist. 9 Ffyddlon yw Duw, trwy yr hwn y’ch galwyd i gymdeithas ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni.
29 Trannoeth Ioan a ganfu yr Iesu yn dyfod ato; ac efe a ddywedodd, Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynnu ymaith bechodau’r byd. 30 Hwn yw efe am yr hwn y dywedais i, Ar fy ôl i y mae gŵr yn dyfod, yr hwn a aeth o’m blaen i: canys yr oedd efe o’m blaen i. 31 Ac myfi nid adwaenwn ef: eithr fel yr amlygid ef i Israel, i hynny y deuthum i, gan fedyddio â dwfr. 32 Ac Ioan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Mi a welais yr Ysbryd yn disgyn megis colomen, o’r nef, ac efe a arhosodd arno ef. 33 A myfi nid adwaenwn ef; eithr yr hwn a’m hanfonodd i fedyddio â dwfr, efe a ddywedodd wrthyf, Ar yr hwn y gwelych yr Ysbryd yn disgyn, ac yn aros arno, hwnnw yw’r un sydd yn bedyddio â’r Ysbryd Glân. 34 A mi a welais, ac a dystiolaethais mai hwn yw Mab Duw.
35 Trannoeth drachefn y safodd Ioan, a dau o’i ddisgyblion: 36 A chan edrych ar yr Iesu yn rhodio, efe a ddywedodd, Wele Oen Duw. 37 A’r ddau ddisgybl a’i clywsant ef yn llefaru, ac a ganlynasant yr Iesu. 38 Yna yr Iesu a droes; a phan welodd hwynt yn canlyn, efe a ddywedodd wrthynt, Beth yr ydych chwi yn ei geisio? A hwy a ddywedasant wrtho ef, Rabbi, (yr hyn o’i gyfieithu yw, Athro,) pa le yr wyt ti yn trigo? 39 Efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch, a gwelwch. A hwy a ddaethant, ac a welsant lle yr oedd efe yn trigo, ac a arosasant gydag ef y diwrnod hwnnw: ac yr oedd hi ynghylch y ddegfed awr. 40 Andreas, brawd Simon Pedr, oedd un o’r ddau a glywsent hynny gan Ioan, ac a’i dilynasent ef. 41 Hwn yn gyntaf a gafodd ei frawd ei hun Simon, ac a ddywedodd wrtho, Nyni a gawsom y Meseias; yr hyn o’i ddeongl yw, Y Crist. 42 Ac efe a’i dug ef at yr Iesu. A’r Iesu wedi edrych arno ef, a ddywedodd, Ti yw Simon mab Jona: ti a elwir Ceffas, yr hwn a gyfieithir, Carreg.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.