Revised Common Lectionary (Complementary)
5 A’r nefoedd, O Arglwydd, a foliannant dy ryfeddod; a’th wirionedd yng nghynulleidfa y saint. 6 Canys pwy yn y nef a gystedlir â’r Arglwydd? pwy a gyffelybir i’r Arglwydd ymysg meibion y cedyrn? 7 Duw sydd ofnadwy iawn yng nghynulleidfa y saint, ac i’w arswydo yn ei holl amgylchoedd. 8 O Arglwydd Dduw y lluoedd, pwy sydd fel tydi, yn gadarn Iôr? a’th wirionedd o’th amgylch? 9 Ti wyt yn llywodraethu ymchwydd y môr: pan gyfodo ei donnau, ti a’u gostegi. 10 Ti a ddrylliaist yr Aifft, fel un lladdedig: trwy nerth dy fraich y gwasgeraist dy elynion. 11 Y nefoedd ydynt eiddot ti, a’r ddaear sydd eiddot ti: ti a seiliaist y byd a’i gyflawnder. 12 Ti a greaist ogledd a deau: Tabor a Hermon a lawenychant yn dy enw. 13 Y mae i ti fraich a chadernid: cadarn yw dy law, ac uchel yw dy ddeheulaw. 14 Cyfiawnder a barn yw trigfa dy orseddfainc: trugaredd a gwirionedd a ragflaenant dy wyneb. 15 Gwyn eu byd y bobl a adwaenant yr hyfrydlais: yn llewyrch dy wyneb, O Arglwydd, y rhodiant hwy. 16 Yn dy enw di y gorfoleddant beunydd; ac yn dy gyfiawnder yr ymddyrchafant. 17 Canys godidowgrwydd eu cadernid hwynt ydwyt ti; ac yn dy ewyllys da y dyrchefir ein corn ni. 18 Canys yr Arglwydd yw ein tarian; a Sanct Israel yw ein Brenin. 19 Yna yr ymddiddenaist mewn gweledigaeth â’th Sanct, ac a ddywedaist, Gosodais gymorth ar un cadarn: dyrchefais un etholedig o’r bobl. 20 Cefais Dafydd fy ngwasanaethwr: eneiniais ef â’m holew sanctaidd: 21 Yr hwn y sicrheir fy llaw gydag ef: a’m braich a’i nertha ef. 22 Ni orthryma y gelyn ef; a’r mab anwir nis cystuddia ef. 23 Ac mi a goethaf ei elynion o’i flaen; a’i gaseion a drawaf. 24 Fy ngwirionedd hefyd a’m trugaredd fydd gydag ef; ac yn fy enw y dyrchefir ei gorn ef. 25 A gosodaf ei law yn y môr, a’i ddeheulaw yn yr afonydd. 26 Efe a lefa arnaf, Ti yw fy Nhad, fy Nuw, a Chraig fy iachawdwriaeth. 27 Minnau a’i gwnaf yntau yn gynfab, goruwch brenhinoedd y ddaear. 28 Cadwaf iddo fy nhrugaredd yn dragywydd; a’m cyfamod fydd sicr iddo. 29 Gosodaf hefyd ei had yn dragywydd; a’i orseddfainc fel dyddiau y nefoedd. 30 Os ei feibion a adawant fy nghyfraith, ac ni rodiant yn fy marnedigaethau; 31 Os fy neddfau a halogant, a’m gorchmynion ni chadwant: 32 Yna mi a ymwelaf â’u camwedd â gwialen, ac â’u hanwiredd â ffrewyllau. 33 Ond ni thorraf fy nhrugaredd oddi wrtho, ac ni phallaf o’m gwirionedd. 34 Ni thorraf fy nghyfamod, ac ni newidiaf yr hyn a ddaeth allan o’m genau. 35 Tyngais unwaith i’m sancteiddrwydd, na ddywedwn gelwydd i Dafydd. 36 Bydd ei had ef yn dragywydd, a’i orseddfainc fel yr haul ger fy mron i. 37 Sicrheir ef yn dragywydd fel y lleuad, ac fel tyst ffyddlon yn y nef. Sela.
35 A Duw a ddywedodd wrth Jacob, Cyfod, esgyn i Bethel, a thrig yno; a gwna yno allor i Dduw, yr hwn a ymddangosodd i ti pan ffoaist o ŵydd Esau dy frawd. 2 Yna Jacob a ddywedodd wrth ei deulu, ac wrth y rhai oll oedd gydag ef, Bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich plith chwi, ac ymlanhewch, a newidiwch eich dillad; 3 A chyfodwn, ac esgynnwn i Bethel: ac yno y gwnaf allor i Dduw, yr hwn a’m gwrandawodd yn nydd fy nghyfyngder, ac a fu gyda myfi yn y ffordd a gerddais. 4 A hwy a roddasant at Jacob yr holl dduwiau dieithr y rhai oedd yn eu llaw hwynt, a’r clustlysau oedd yn eu clustiau: a Jacob a’u cuddiodd hwynt dan y dderwen oedd yn ymyl Sichem. 5 A hwy a gychwynasant: ac ofn Duw oedd ar y dinasoedd y rhai oedd o’u hamgylch hwynt, ac nid erlidiasant ar ôl meibion Jacob.
6 A Jacob a ddaeth i Lus, yng ngwlad Canaan, hon yw Bethel, efe a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef; 7 Ac a adeiladodd yno allor, ac a enwodd y lle El‐bethel, oblegid yno yr ymddangosasai Duw iddo ef, pan ffoesai efe o ŵydd ei frawd. 8 A marw a wnaeth Debora mamaeth Rebeca; a hi a gladdwyd islaw Bethel, dan dderwen: a galwyd enw honno Alhon‐bacuth.
9 Hefyd Duw a ymddangosodd eilwaith i Jacob, pan ddaeth efe o Mesopotamia; ac a’i bendithiodd ef. 10 A Duw a ddywedodd wrtho, Dy enw di yw Jacob: ni elwir dy enw di Jacob mwy, ond Israel a fydd dy enw di: ac efe a alwodd ei enw ef Israel. 11 Hefyd Duw a ddywedodd wrtho, Myfi yw Duw Hollalluog: cynydda, ac amlha; cenedl a chynulleidfa cenhedloedd a fydd ohonot ti; a brenhinoedd a ddaw allan o’th lwynau di. 12 A’r wlad yr hon a roddais i Abraham, ac i Isaac, a roddaf i ti, ac i’th had ar dy ôl di y rhoddaf y wlad. 13 A Duw a esgynnodd oddi wrtho ef, yn y fan lle y llefarasai efe wrtho. 14 A Jacob a osododd golofn yn y fan lle yr ymddiddanasai efe ag ef, sef colofn faen: ac efe a dywalltodd arni ddiod‐offrwm, ac a dywalltodd olew arni. 15 A Jacob a alwodd enw y fan lle yr ymddiddanodd Duw ag ef, Bethel.
44 A Phedr eto yn llefaru’r geiriau hyn, syrthiodd yr Ysbryd Glân ar bawb a oedd yn clywed y gair. 45 A’r rhai o’r enwaediad a oeddynt yn credu, cynifer ag a ddaethent gyda Phedr, a synasant, am dywallt dawn yr Ysbryd Glân ar y Cenhedloedd hefyd. 46 Canys yr oeddynt yn eu clywed hwy yn llefaru â thafodau, ac yn mawrygu Duw. Yna yr atebodd Pedr, 47 A all neb luddias dwfr, fel na fedyddier y rhai hyn, y rhai a dderbyniasant yr Ysbryd Glân fel ninnau? 48 Ac efe a orchmynnodd eu bedyddio hwynt yn enw yr Arglwydd. Yna y deisyfasant arno aros dros ennyd o ddyddiau.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.