Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
29 Moeswch i’r Arglwydd, chwi feibion cedyrn, moeswch i’r Arglwydd ogoniant a nerth. 2 Moeswch i’r Arglwydd ogoniant ei enw: addolwch yr Arglwydd ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd. 3 Llef yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd: Duw y gogoniant a darana; yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd mawrion. 4 Llef yr Arglwydd sydd mewn grym: llef yr Arglwydd sydd mewn prydferthwch. 5 Llef yr Arglwydd sydd yn dryllio y cedrwydd: ie, dryllia yr Arglwydd gedrwydd Libanus. 6 Efe a wna iddynt lamu fel llo; Libanus a Sirion fel llwdn unicorn. 7 Llef yr Arglwydd a wasgara y fflamau tân. 8 Llef yr Arglwydd a wna i’r anialwch grynu: yr Arglwydd a wna i anialwch Cades grynu. 9 Llef yr Arglwydd a wna i’r ewigod lydnu, ac a ddinoetha y coedydd: ac yn ei deml pawb a draetha ei ogoniant ef. 10 Yr Arglwydd sydd yn eistedd ar y llifeiriant; ie, yr Arglwydd a eistedd yn Frenin yn dragywydd. 11 Yr Arglwydd a ddyry nerth i’w bobl: yr Arglwydd a fendithia ei bobl â thangnefedd.
3 A’r bachgen Samuel a wasanaethodd yr Arglwydd gerbron Eli. A gair yr Arglwydd oedd werthfawr yn y dyddiau hynny; nid oedd weledigaeth eglur. 2 A’r pryd hwnnw, pan oedd Eli yn gorwedd yn ei fangre, wedi i’w lygaid ef ddechrau tywyllu, fel na allai weled; 3 A chyn i lamp Duw ddiffoddi yn nheml yr Arglwydd, lle yr oedd arch Duw, a Samuel oedd wedi gorwedd i gysgu: 4 Yna y galwodd yr Arglwydd ar Samuel. Dywedodd yntau, Wele fi. 5 Ac efe a redodd at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. Yntau a ddywedodd, Ni elwais i; dychwel a gorwedd. Ac efe a aeth ac a orweddodd. 6 A’r Arglwydd a alwodd eilwaith, Samuel. A Samuel a gyfododd, ac a aeth at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. Yntau a ddywedodd, Na elwais, fy mab; dychwel a gorwedd. 7 Ac nid adwaenai Samuel eto yr Arglwydd, ac nid eglurasid iddo ef air yr Arglwydd eto. 8 A’r Arglwydd a alwodd Samuel drachefn y drydedd waith. Ac efe a gyfododd, ac a aeth at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. A deallodd Eli mai yr Arglwydd a alwasai ar y bachgen. 9 Am hynny Eli a ddywedodd wrth Samuel, Dos, gorwedd: ac os geilw efe arnat, dywed, Llefara, Arglwydd; canys y mae dy was yn clywed. Felly Samuel a aeth ac a orweddodd yn ei le.
9 A Saul eto yn chwythu bygythiau a chelanedd yn erbyn disgyblion yr Arglwydd, a aeth at yr archoffeiriad, 2 Ac a ddeisyfodd ganddo lythyrau i Ddamascus, at y synagogau; fel os câi efe neb o’r ffordd hon, na gwŷr na gwragedd, y gallai efe eu dwyn hwy yn rhwym i Jerwsalem. 3 Ac fel yr oedd efe yn ymdaith, bu iddo ddyfod yn agos i Ddamascus: ac yn ddisymwth llewyrchodd o’i amgylch oleuni o’r nef. 4 Ac efe a syrthiodd ar y ddaear, ac a glybu lais yn dywedyd wrtho, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i? 5 Yntau a ddywedodd, Pwy wyt ti, Arglwydd? A’r Arglwydd a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid: caled yw i ti wingo yn erbyn y symbylau. 6 Yntau gan grynu, ac â braw arno, a ddywedodd, Arglwydd, beth a fynni di i mi ei wneuthur? A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos i’r ddinas, ac fe a ddywedir i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur. 7 A’r gwŷr oedd yn cyd‐deithio ag ef a safasant yn fud, gan glywed y llais, ac heb weled neb. 8 A Saul a gyfododd oddi ar y ddaear; a phan agorwyd ei lygaid, ni welai efe neb: eithr hwy a’i tywysasant ef erbyn ei law, ac a’i dygasant ef i mewn i Ddamascus. 9 Ac efe a fu dridiau heb weled, ac ni wnaeth na bwyta nac yfed.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.