Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Jeremeia 31:7-14

Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd; Cenwch orfoledd i Jacob, a chrechwenwch ymhlith rhai pennaf y cenhedloedd: cyhoeddwch, molwch, a dywedwch, O Arglwydd, cadw dy bobl, gweddill Israel. Wele, mi a’u harweiniaf hwynt o dir y gogledd, ac a’u casglaf hwynt o ystlysau y ddaear, y dall a’r cloff, y feichiog a’r hon sydd yn esgor, ar unwaith gyda hwynt: cynulleidfa fawr a ddychwelant yma. Mewn wylofain y deuant, ac mewn tosturiaethau y dygaf hwynt: gwnaf iddynt rodio wrth ffrydiau dyfroedd mewn ffordd union yr hon ni thripiant ynddi: oblegid myfi sydd dad i Israel, ac Effraim yw fy nghyntaf‐anedig.

10 Gwrandewch air yr Arglwydd, O genhedloedd, a mynegwch yn yr ynysoedd o bell, a dywedwch, Yr hwn a wasgarodd Israel, a’i casgl ef, ac a’i ceidw fel bugail ei braidd. 11 Oherwydd yr Arglwydd a waredodd Jacob, ac a’i hachubodd ef o law yr hwn oedd drech nag ef. 12 Am hynny y deuant, ac y canant yn uchelder Seion; a hwy a redant at ddaioni yr Arglwydd, am wenith, ac am win, ac am olew, ac am epil y defaid a’r gwartheg: a’u henaid fydd fel gardd ddyfradwy; ac ni ofidiant mwyach. 13 Yna y llawenycha y forwyn yn y dawns, a’r gwŷr ieuainc a’r hynafgwyr ynghyd: canys myfi a droaf eu galar yn llawenydd, ac a’u diddanaf hwynt, ac a’u llawenychaf o’u tristwch. 14 A mi a ddiwallaf enaid yr offeiriaid â braster, a’m pobl a ddigonir â’m daioni, medd yr Arglwydd.

Error: Book name not found: Sir for the version: Beibl William Morgan
Salmau 147:12-20

12 Jerwsalem, mola di yr Arglwydd: Seion, molianna dy Dduw. 13 Oherwydd efe a gadarnhaodd farrau dy byrth: efe a fendithiodd dy blant o’th fewn. 14 Yr hwn sydd yn gwneuthur dy fro yn heddychol, ac a’th ddiwalla di â braster gwenith. 15 Yr hwn sydd yn anfon ei orchymyn ar y ddaear: a’i air a red yn dra buan. 16 Yr hwn sydd yn rhoddi eira fel gwlân; ac a daena rew fel lludw. 17 Yr hwn sydd yn bwrw ei iâ fel tameidiau: pwy a erys gan ei oerni ef? 18 Efe a enfyn ei air, ac a’u tawdd hwynt: â’i wynt y chwyth efe, a’r dyfroedd a lifant. 19 Y mae efe yn mynegi ei eiriau i Jacob, ei ddeddfau a’i farnedigaethau i Israel. 20 Ni wnaeth efe felly ag un genedl; ac nid adnabuant ei farnedigaethau ef. Molwch yr Arglwydd.

Error: Book name not found: Wis for the version: Beibl William Morgan
Effesiaid 1:3-14

Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a’n bendithiodd ni â phob bendith ysbrydol yn y nefolion leoedd yng Nghrist: Megis yr etholodd efe ni ynddo ef cyn seiliad y byd, fel y byddem yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron ef mewn cariad: Wedi iddo ein rhagluniaethu ni i fabwysiad trwy Iesu Grist iddo ei hun, yn ôl bodlonrwydd ei ewyllys ef, Er mawl gogoniant ei ras ef, trwy yr hwn y gwnaeth ni yn gymeradwy yn yr Anwylyd: Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau, yn ôl cyfoeth ei ras ef; Trwy yr hwn y bu efe helaeth i ni ym mhob doethineb a deall, Gwedi iddo hysbysu i ni ddirgelwch ei ewyllys, yn ôl ei fodlonrwydd ei hun, yr hon a arfaethasai efe ynddo ei hun: 10 Fel yng ngoruchwyliaeth cyflawnder yr amseroedd, y gallai grynhoi ynghyd yng Nghrist yr holl bethau sydd yn y nefoedd, ac ar y ddaear, ynddo ef: 11 Yn yr hwn y’n dewiswyd hefyd, wedi ein rhagluniaethu yn ôl arfaeth yr hwn sydd yn gweithio pob peth wrth gyngor ei ewyllys ei hun: 12 Fel y byddem ni er mawl i’w ogoniant ef, y rhai o’r blaen a obeithiasom yng Nghrist. 13 Yn yr hwn y gobeithiasoch chwithau hefyd, wedi i chwi glywed gair y gwirionedd, efengyl eich iachawdwriaeth: yn yr hwn hefyd, wedi i chwi gredu, y’ch seliwyd trwy Lân Ysbryd yr addewid; 14 Yr hwn yw ernes ein hetifeddiaeth ni, hyd bryniad y pwrcas, i fawl ei ogoniant ef.

Ioan 1:1-9

Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a’r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw. Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth; ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim a’r a wnaethpwyd. Ynddo ef yr oedd bywyd; a’r bywyd oedd oleuni dynion. A’r goleuni sydd yn llewyrchu yn y tywyllwch; a’r tywyllwch nid oedd yn ei amgyffred.

Yr ydoedd gŵr wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a’i enw Ioan. Hwn a ddaeth yn dystiolaeth, fel y tystiolaethai am y Goleuni, fel y credai pawb trwyddo ef. Nid efe oedd y Goleuni, eithr efe a anfonasid fel y tystiolaethai am y Goleuni. Hwn ydoedd y gwir Oleuni, yr hwn sydd yn goleuo pob dyn a’r y sydd yn dyfod i’r byd.

Ioan 1:10-18

10 Yn y byd yr oedd efe, a’r byd a wnaethpwyd trwyddo ef; a’r byd nid adnabu ef. 11 At ei eiddo ei hun y daeth, a’r eiddo ei hun nis derbyniasant ef. 12 Ond cynifer ag a’i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt allu i fod yn feibion i Dduw, sef i’r sawl a gredant yn ei enw ef: 13 Y rhai ni aned o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gŵr, eithr o Dduw. 14 A’r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni, (ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr Unig‐anedig oddi wrth y Tad,) yn llawn gras a gwirionedd.

15 Ioan a dystiolaethodd amdano ef, ac a lefodd, gan ddywedyd, Hwn oedd yr un y dywedais amdano, Yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, a aeth o’m blaen i: canys yr oedd efe o’m blaen i. 16 Ac o’i gyflawnder ef y derbyniasom ni oll, a gras am ras. 17 Canys y gyfraith a roddwyd trwy Moses, ond y gras a’r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist. 18 Ni welodd neb Dduw erioed: yr unig‐anedig Fab, yr hwn sydd ym mynwes y Tad, hwnnw a’i hysbysodd ef.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.