Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
20 Gwrandawed yr Arglwydd arnat yn nydd cyfyngder: enw Duw Jacob a’th ddiffynno. 2 Anfoned i ti gymorth o’r cysegr, a nerthed di o Seion. 3 Cofied dy holl offrymau, a bydded fodlon i’th boethoffrwm. Sela. 4 Rhodded i ti wrth fodd dy galon; a chyflawned dy holl gyngor. 5 Gorfoleddwn yn dy iachawdwriaeth di, a dyrchafwn faner yn enw ein Duw: cyflawned yr Arglwydd dy holl ddymuniadau. 6 Yr awr hon y gwn y gwared yr Arglwydd ei eneiniog: efe a wrendy arno o nefoedd ei sancteiddrwydd, yn nerth iechyd ei ddeheulaw ef. 7 Ymddiried rhai mewn cerbydau, a rhai mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr Arglwydd ein Duw. 8 Hwy a gwympasant, ac a syrthiasant; ond nyni a gyfodasom, ac a safasom. 9 Achub, Arglwydd: gwrandawed y Brenin arnom yn y dydd y llefom.
12 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, Dos allan o’th wlad, ac oddi wrth dy genedl, ac o dŷ dy dad, i’r wlad a ddangoswyf i ti. 2 A mi a’th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a’th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw; a thi a fyddi yn fendith. 3 Bendithiaf hefyd dy fendithwyr, a’th felltithwyr a felltigaf: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti. 4 Yna yr aeth Abram, fel y llefarasai yr Arglwydd wrtho; a Lot a aeth gydag ef: ac Abram oedd fab pymtheng mlwydd a thrigain pan aeth efe allan o Haran. 5 Ac Abram a gymerodd Sarai ei wraig, a Lot mab ei frawd, a’u holl olud a gasglasent hwy, a’r eneidiau a enillasent yn Haran, ac a aethant allan i fyned i wlad Canaan; ac a ddaethant i wlad Canaan.
6 Ac Abram a dramwyodd trwy’r tir hyd le Sichem, hyd wastadedd More: a’r Canaaneaid oedd yn y wlad y pryd hwnnw. 7 A’r Arglwydd a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn: yntau a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd, yr hwn a ymddangosasai iddo.
11 Ffydd yn wir yw sail y pethau yr ydys yn eu gobeithio, a sicrwydd y pethau nid ydys yn eu gweled. 2 Oblegid trwyddi hi y cafodd yr henuriaid air da. 3 Wrth ffydd yr ydym yn deall wneuthur y bydoedd trwy air Duw, yn gymaint nad o bethau gweledig y gwnaed y pethau a welir. 4 Trwy ffydd yr offrymodd Abel i Dduw aberth rhagorach na Chain; trwy yr hon y cafodd efe dystiolaeth ei fod yn gyfiawn, gan i Dduw ddwyn tystiolaeth i’w roddion ef: a thrwyddi hi y mae efe, wedi marw, yn llefaru eto. 5 Trwy ffydd y symudwyd Enoch, fel na welai farwolaeth; ac ni chaed ef, am ddarfod i Dduw ei symud ef: canys cyn ei symud, efe a gawsai dystiolaeth, ddarfod iddo ryngu bodd Duw. 6 Eithr heb ffydd amhosibl yw rhyngu ei fodd ef: oblegid rhaid yw i’r neb sydd yn dyfod at Dduw, gredu ei fod ef, a’i fod yn obrwywr i’r rhai sydd yn ei geisio ef. 7 Trwy ffydd, Noe, wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau nis gwelsid eto, gyda pharchedig ofn a ddarparodd arch i achub ei dŷ: trwy’r hon y condemniodd efe y byd, ac a wnaethpwyd yn etifedd y cyfiawnder sydd o ffydd. 8 Trwy ffydd, Abraham, pan ei galwyd, a ufuddhaodd, gan fyned i’r man yr oedd efe i’w dderbyn yn etifeddiaeth; ac a aeth allan, heb wybod i ba le yr oedd yn myned. 9 Trwy ffydd yr ymdeithiodd efe yn nhir yr addewid, megis mewn tir dieithr, gan drigo mewn lluestai gydag Isaac a Jacob, cyd‐etifeddion o’r un addewid: 10 Canys disgwyl yr ydoedd am ddinas ag iddi sylfeini, saer ac adeiladydd yr hon yw Duw. 11 Trwy ffydd Sara hithau yn amhlantadwy, a dderbyniodd nerth i ymddŵyn had; ac wedi amser oedran, a esgorodd; oblegid ffyddlon y barnodd hi yr hwn a addawsai. 12 Oherwydd paham hefyd y cenhedlwyd o un, a hwnnw yn gystal â marw, cynifer â sêr y nef mewn lliaws, ac megis y tywod ar lan y môr, y sydd yn aneirif.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.