); Isaiah 49:13-23 (God comforts the suffering); Matthew 18:1-14 (Become like a child) (Beibl William Morgan)
Revised Common Lectionary (Complementary)
148 Molwch yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd o’r nefoedd: molwch ef yn yr uchelderau. 2 Molwch ef, ei holl angylion: molwch ef, ei holl luoedd. 3 Molwch ef, haul a lleuad: molwch ef, yr holl sêr goleuni. 4 Molwch ef, nef y nefoedd; a’r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd. 5 Molant enw yr Arglwydd: oherwydd efe a orchmynnodd, a hwy a grewyd. 6 A gwnaeth iddynt barhau byth yn dragywydd: gosododd ddeddf, ac nis troseddir hi. 7 Molwch yr Arglwydd o’r ddaear, y dreigiau, a’r holl ddyfnderau: 8 Tân a chenllysg, eira a tharth; gwynt ystormus, yn gwneuthur ei air ef: 9 Y mynyddoedd a’r bryniau oll; y coed ffrwythlon a’r holl gedrwydd: 10 Y bwystfilod a phob anifail; yr ymlusgiaid ac adar asgellog: 11 Brenhinoedd y ddaear a’r holl bobloedd; tywysogion a holl farnwyr y byd: 12 Gwŷr ieuainc a gwyryfon hefyd; hynafgwyr a llanciau: 13 Molant enw yr Arglwydd: oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafadwy; ei ardderchowgrwydd ef sydd uwchlaw daear a nefoedd. 14 Ac efe sydd yn dyrchafu corn ei bobl, moliant ei holl saint; sef meibion Israel, pobl agos ato. Molwch yr Arglwydd.
13 Cenwch, nefoedd; a gorfoledda, ddaear; bloeddiwch ganu, y mynyddoedd: canys yr Arglwydd a gysurodd ei bobl, ac a drugarha wrth ei drueiniaid. 14 Eto dywedodd Seion, Yr Arglwydd a’m gwrthododd, a’m Harglwydd a’m hanghofiodd. 15 A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fel na thosturio wrth fab ei chroth? ie, hwy a allant anghofio, eto myfi nid anghofiaf di. 16 Wele, ar gledr fy nwylo y’th argreffais; dy furiau sydd ger fy mron bob amser. 17 Dy blant a frysiant; y rhai a’th ddinistriant, ac a’th ddistrywiant, a ânt allan ohonot.
18 Dyrcha dy lygaid oddi amgylch, ac edrych: y rhai hyn oll a ymgasglant, ac a ddeuant atat. Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, diau y gwisgi hwynt oll fel harddwisg, ac y rhwymi hwynt amdanat fel priodferch. 19 Canys dy ddiffeithwch a’th anialwch, a’th dir dinistriol, yn ddiau fydd yn awr yn rhy gyfyng gan breswylwyr; a’r rhai a’th lyncant a ymbellhânt. 20 Plant dy ddiepiledd a ddywedant eto lle y clywych, Cyfyng yw y lle hwn i mi; dod le i mi, fel y preswyliwyf. 21 Yna y dywedi yn dy galon, Pwy a genhedlodd y rhai hyn i mi, a mi yn ddiepil, ac yn unig, yn gaeth, ac ar grwydr? a phwy a fagodd y rhai hyn? Wele, myfi a adawyd fy hunan; o ba le y daeth y rhai hyn? 22 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele, cyfodaf fy llaw at y cenhedloedd, a dyrchafaf fy maner at y bobloedd; a dygant dy feibion yn eu mynwes, a dygir dy ferched ar ysgwyddau. 23 Brenhinoedd hefyd fydd dy dadmaethod, a’u breninesau dy famaethod; crymant i ti â’u hwynebau tua’r llawr, a llyfant lwch dy draed; a chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd: canys ni chywilyddir y rhai a ddisgwyliant wrthyf fi.
18 Ar yr awr honno y daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd? 2 A’r Iesu a alwodd ato fachgennyn, ac a’i gosododd yn eu canol hwynt; 3 Ac a ddywedodd, Yn wir y dywedaf i chwi, Oddieithr eich troi chwi, a’ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd. 4 Pwy bynnag gan hynny a’i gostyngo ei hunan fel y bachgennyn hwn, hwnnw yw’r mwyaf yn nheyrnas nefoedd. 5 A phwy bynnag a dderbynio gyfryw fachgennyn yn fy enw i, a’m derbyn i. 6 A phwy bynnag a rwystro un o’r rhai bychain hyn a gredant ynof fi, da fyddai iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a’i foddi yn eigion y môr.
7 Gwae’r byd oblegid rhwystrau! canys anghenraid yw dyfod rhwystrau; er hynny gwae’r dyn hwnnw drwy’r hwn y daw’r rhwystr! 8 Am hynny os dy law neu dy droed a’th rwystra, tor hwynt ymaith, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn gloff, neu yn anafus, nag a chennyt ddwy law, neu ddau droed, dy daflu i’r tân tragwyddol. 9 Ac os dy lygad a’th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti yn unllygeidiog fyned i mewn i’r bywyd, nag a dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern. 10 Edrychwch na ddirmygoch yr un o’r rhai bychain hyn: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod eu hangylion hwy yn y nefoedd bob amser yn gweled wyneb fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. 11 Canys daeth Mab y dyn i gadw’r hyn a gollasid. 12 Beth dybygwch chwi? O bydd gan ddyn gant o ddefaid, a myned o un ohonynt ar ddisberod; oni ad efe y namyn un cant, a myned i’r mynyddoedd, a cheisio’r hon a aeth ar ddisberod? 13 Ac os bydd iddo ei chael hi, yn wir meddaf i chwi, y mae yn llawenhau am honno mwy nag am y namyn un cant y rhai nid aethant ar ddisberod. 14 Felly nid yw ewyllys eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd, gyfrgolli’r un o’r rhai bychain hyn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.