Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 148

148 Molwch yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd o’r nefoedd: molwch ef yn yr uchelderau. Molwch ef, ei holl angylion: molwch ef, ei holl luoedd. Molwch ef, haul a lleuad: molwch ef, yr holl sêr goleuni. Molwch ef, nef y nefoedd; a’r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd. Molant enw yr Arglwydd: oherwydd efe a orchmynnodd, a hwy a grewyd. A gwnaeth iddynt barhau byth yn dragywydd: gosododd ddeddf, ac nis troseddir hi. Molwch yr Arglwydd o’r ddaear, y dreigiau, a’r holl ddyfnderau: Tân a chenllysg, eira a tharth; gwynt ystormus, yn gwneuthur ei air ef: Y mynyddoedd a’r bryniau oll; y coed ffrwythlon a’r holl gedrwydd: 10 Y bwystfilod a phob anifail; yr ymlusgiaid ac adar asgellog: 11 Brenhinoedd y ddaear a’r holl bobloedd; tywysogion a holl farnwyr y byd: 12 Gwŷr ieuainc a gwyryfon hefyd; hynafgwyr a llanciau: 13 Molant enw yr Arglwydd: oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafadwy; ei ardderchowgrwydd ef sydd uwchlaw daear a nefoedd. 14 Ac efe sydd yn dyrchafu corn ei bobl, moliant ei holl saint; sef meibion Israel, pobl agos ato. Molwch yr Arglwydd.

Error: Book name not found: Wis for the version: Beibl William Morgan
Actau 7:59-8:8

59 A hwy a labyddiasant Steffan, ac efe yn galw ar Dduw, ac yn dywedyd, Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd. 60 Ac efe a ostyngodd ar ei liniau, ac a lefodd â llef uchel, Arglwydd, na ddod y pechod hwn yn eu herbyn. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a hunodd.

A Saul oedd yn cytuno i’w ladd ef. A bu yn y dyddiau hynny erlid mawr ar yr eglwys oedd yn Jerwsalem: a phawb a wasgarwyd ar hyd gwledydd Jwdea a Samaria, ond yr apostolion. A gwŷr bucheddol a ddygasant Steffan i’w gladdu, ac a wnaethant alar mawr amdano ef. Eithr Saul oedd yn anrheithio’r eglwys, gan fyned i mewn i bob tŷ, a chan lusgo allan wŷr a gwragedd, efe a’u rhoddes yng ngharchar. A’r rhai a wasgarasid a dramwyasant gan bregethu y gair. Yna Philip a aeth i waered i ddinas Samaria, ac a bregethodd Grist iddynt. A’r bobl yn gytûn a ddaliodd ar y pethau a ddywedid gan Philip, wrth glywed ohonynt, a gweled yr arwyddion yr oedd efe yn eu gwneuthur. Canys ysbrydion aflan, gan lefain â llef uchel, a aethant allan o lawer a berchenogid ganddynt; a llawer yn gleifion o’r parlys, ac yn gloffion, a iachawyd. Ac yr oedd llawenydd mawr yn y ddinas honno.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.