Revised Common Lectionary (Complementary)
5 Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gymorth iddo, sydd â’i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw: 6 Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, y môr, a’r hyn oll y sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd: 7 Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i’r rhai gorthrymedig, yn rhoddi bara i’r newynog. Yr Arglwydd sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd. 8 Yr Arglwydd sydd yn agoryd llygaid y deillion: yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn. 9 Yr Arglwydd sydd yn cadw y dieithriaid: efe a gynnal yr amddifad a’r weddw; ac a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol. 10 Yr Arglwydd a deyrnasa byth, sef dy Dduw di, Seion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr Arglwydd.
13 Felly Boas a gymerodd Ruth; a hi a fu iddo yn wraig: ac efe a aeth i mewn ati hi; a’r Arglwydd a roddodd iddi hi feichiogi, a hi a ymddûg fab. 14 A’r gwragedd a ddywedasant wrth Naomi, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn ni’th adawodd di heb gyfathrachwr heddiw, fel y gelwid ei enw ef yn Israel. 15 Ac efe fydd i ti yn adferwr einioes, ac yn ymgeleddwr i’th benwynni: canys dy waudd, yr hon a’th gâr di, a blantodd iddo ef, a hon sydd well i ti na saith o feibion. 16 A Naomi a gymerth y plentyn, ac a’i gosododd ef yn ei mynwes, ac a fu famaeth iddo. 17 A’i chymdogesau a roddasant iddo enw, gan ddywedyd, Ganwyd mab i Naomi; ac a alwasant ei enw ef Obed: hwn oedd dad Jesse, tad Dafydd.
11 A chan fod yn rhaid i hyn i gyd ymollwng, pa ryw fath ddynion a ddylech chwi fod mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb, 12 Yn disgwyl ac yn brysio at ddyfodiad dydd Duw, yn yr hwn y nefoedd gan losgi a ymollyngant, a’r defnyddiau gan wir wres a doddant? 13 Eithr nefoedd newydd, a daear newydd, yr ydym ni, yn ôl ei addewid ef, yn eu disgwyl, yn y rhai y mae cyfiawnder yn cartrefu. 14 Oherwydd paham, anwylyd, gan eich bod yn disgwyl y pethau hyn, gwnewch eich gorau ar eich cael ganddo ef mewn tangnefedd, yn ddifrycheulyd, ac yn ddiargyhoedd. 15 A chyfrifwch hir amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth; megis ag yr ysgrifennodd ein hannwyl frawd Paul atoch chwi, yn ôl y doethineb a rodded iddo ef; 16 Megis yn ei holl epistolau hefyd, yn llefaru ynddynt am y pethau hyn: yn y rhai y mae rhyw bethau anodd eu deall, y rhai y mae’r annysgedig a’r anwastad yn eu gŵyrdroi, megis yr ysgrythurau eraill, i’w dinistr eu hunain. 17 Chwychwi gan hynny, anwylyd, a chwi yn gwybod y pethau hyn o’r blaen, ymgedwch rhag eich arwain ymaith trwy amryfusedd yr annuwiol, a chwympo ohonoch oddi wrth eich sicrwydd eich hun. 18 Eithr cynyddwch mewn gras a gwybodaeth ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist. Iddo ef y byddo gogoniant yr awr hon ac yn dragwyddol. Amen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.