Revised Common Lectionary (Complementary)
Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.
122 Llawenychais pan ddywedent wrthyf, Awn i dŷ yr Arglwydd. 2 Ein traed a safant o fewn dy byrth di, O Jerwsalem. 3 Jerwsalem a adeiladwyd fel dinas wedi ei chydgysylltu ynddi ei hun. 4 Yno yr esgyn y llwythau, llwythau yr Arglwydd, yn dystiolaeth i Israel, i foliannu enw yr Arglwydd. 5 Canys yno y gosodwyd gorseddfeinciau barn, gorseddfeinciau tŷ Dafydd. 6 Dymunwch heddwch Jerwsalem: llwydded y rhai a’th hoffant. 7 Heddwch fyddo o fewn dy ragfur, a ffyniant yn dy balasau. 8 Er mwyn fy mrodyr a’m cyfeillion y dywedaf yn awr, Heddwch fyddo i ti. 9 Er mwyn tŷ yr Arglwydd ein Duw, y ceisiaf i ti ddaioni.
15 Eto yr awr hon, O Arglwydd ein Duw, yr hwn a ddygaist dy bobl allan o wlad yr Aifft â llaw gref, ac a wnaethost i ti enw megis heddiw, nyni a bechasom, ni a wnaethom anwiredd.
16 O Arglwydd, yn ôl dy holl gyfiawnderau, atolwg, troer dy lidiowgrwydd a’th ddicter oddi wrth dy ddinas Jerwsalem, dy fynydd sanctaidd; oherwydd am ein pechodau, ac am anwireddau ein tadau, y mae Jerwsalem a’th bobl yn waradwydd i bawb o’n hamgylch. 17 Ond yr awr hon gwrando, O ein Duw ni, ar weddi dy was, ac ar ei ddeisyfiadau, a llewyrcha dy wyneb ar dy gysegr anrheithiedig, er mwyn yr Arglwydd. 18 Gostwng dy glust, O fy Nuw, a chlyw; agor dy lygaid, a gwêl ein hanrhaith ni, a’r ddinas y gelwir dy enw di arni: oblegid nid oherwydd ein cyfiawnderau ein hun yr ydym ni yn tywallt ein gweddïau ger dy fron, eithr oherwydd dy aml drugareddau di. 19 Clyw, Arglwydd; arbed, Arglwydd; ystyr, O Arglwydd, a gwna; nac oeda, er dy fwyn dy hun, O fy Nuw: oherwydd dy enw di a alwyd ar y ddinas hon, ac ar dy bobl.
4 O ba le y mae rhyfeloedd ac ymladdau yn eich plith chwi? onid oddi wrth hyn, sef eich melyschwantau y rhai sydd yn rhyfela yn eich aelodau? 2 Chwenychu yr ydych, ac nid ydych yn cael: cenfigennu yr ydych ac eiddigeddu, ac nid ydych yn gallu cyrhaeddyd: ymladd a rhyfela yr ydych, ond nid ydych yn cael, am nad ydych yn gofyn. 3 Gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn, oherwydd eich bod yn gofyn ar gam, fel y galloch eu treulio ar eich melyschwantau. 4 Chwi odinebwyr a godinebwragedd, oni wyddoch chwi fod cyfeillach y byd yn elyniaeth i Dduw? pwy bynnag gan hynny a ewyllysio fod yn gyfaill i’r byd, y mae’n elyn i Dduw. 5 A ydych chwi yn tybied fod yr ysgrythur yn dywedyd yn ofer, At genfigen y mae chwant yr ysbryd a gartrefa ynom ni? 6 Eithr rhoddi gras mwy y mae: oherwydd paham y mae yn dywedyd, Y mae Duw yn gwrthwynebu’r beilchion, ond yn rhoddi gras i’r rhai gostyngedig. 7 Ymddarostyngwch gan hynny i Dduw. Gwrthwynebwch ddiafol, ac efe a ffy oddi wrthych. 8 Nesewch at Dduw, ac efe a nesâ atoch chwi. Glanhewch eich dwylo, chwi bechaduriaid; a phurwch eich calonnau, chwi â’r meddwl dauddyblyg. 9 Ymofidiwch, a galerwch, ac wylwch: troer eich chwerthin chwi yn alar, a’ch llawenydd yn dristwch. 10 Ymddarostyngwch gerbron yr Arglwydd, ac efe a’ch dyrchafa chwi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.