Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
24 Eiddo yr Arglwydd y ddaear, a’i chyflawnder; y byd, ac a breswylia ynddo. 2 Canys efe a’i seiliodd ar y moroedd, ac a’i sicrhaodd ar yr afonydd. 3 Pwy a esgyn i fynydd yr Arglwydd? a phwy a saif yn ei le sanctaidd ef? 4 Y glân ei ddwylo, a’r pur ei galon; yr hwn ni ddyrchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo. 5 Efe a dderbyn fendith gan yr Arglwydd, a chyfiawnder gan Dduw ei iachawdwriaeth. 6 Dyma genhedlaeth y rhai a’i ceisiant ef, y rhai a geisiant dy wyneb di, O Jacob. Sela. 7 O byrth, dyrchefwch eich pennau; ac ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn. 8 Pwy yw y Brenin gogoniant hwn? yr Arglwydd nerthol a chadarn, yr Arglwydd cadarn mewn rhyfel. 9 O byrth, dyrchefwch eich pennau; ac ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn. 10 Pwy yw y Brenin gogoniant hwn? Arglwydd y lluoedd, efe yw Brenin y gogoniant. Sela.
17 Dy lygaid a welant y brenin yn ei degwch: gwelant y tir pell. 18 Dy galon a fyfyria ofn; pa le y mae yr ysgrifennydd? pa le y mae y trysorwr? pa le y mae rhifwr y tyrau? 19 Ni chei weled pobl greulon, pobl o iaith ddyfnach nag a ddeallech di, neu floesg dafod, fel na ddeallech. 20 Gwêl Seion, dinas ein cyfarfod: dy lygaid a welant Jerwsalem, y breswylfa lonydd, y babell ni thynnir i lawr, ac ni syflir un o’i hoelion byth, ac ni thorrir un o’i rhaffau. 21 Eithr yr Arglwydd ardderchog fydd yno i ni, yn fangre afonydd a ffrydiau llydain: y rhwyflong nid â trwyddo, a llong odidog nid â drosto. 22 Canys yr Arglwydd yw ein barnwr, yr Arglwydd yw ein deddfwr, yr Arglwydd yw ein brenin; efe a’n ceidw.
8 A myfi Ioan a welais y pethau hyn, ac a’u clywais. A phan ddarfu i mi glywed a gweled, mi a syrthiais i lawr i addoli gerbron traed yr angel oedd yn dangos i mi’r pethau hyn. 9 Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Gwêl na wnelych: canys cyd-was ydwyf i ti, ac i’th frodyr y proffwydi, ac i’r rhai sydd yn cadw geiriau’r llyfr hwn. Addola Dduw. 10 Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Na selia eiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn: oblegid y mae’r amser yn agos. 11 Yr hwn sydd anghyfiawn, bydded anghyfiawn eto: a’r hwn sydd frwnt, bydded frwnt eto; a’r hwn sydd gyfiawn, bydded gyfiawn eto; a’r hwn sydd sanctaidd, bydded sanctaidd eto. 12 Ac wele, yr wyf yn dyfod ar frys; a’m gwobr sydd gyda mi, i roddi i bob un fel y byddo ei waith ef. 13 Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a’r diwedd, y cyntaf a’r diwethaf. 14 Gwyn eu byd y rhai sydd yn gwneuthur ei orchmynion ef, fel y byddo iddynt fraint ym mhren y bywyd, ac y gallont fyned i mewn trwy’r pyrth i’r ddinas. 15 Oddi allan y mae’r cŵn, a’r swyn-gyfareddwyr, a’r puteinwyr, a’r llofruddion, a’r eilun-addolwyr, a phob un a’r sydd yn caru ac yn gwneuthur celwydd. 16 Myfi Iesu a ddanfonais fy angel i dystiolaethu i chwi’r pethau hyn yn yr eglwysi. Myfi yw Gwreiddyn a Hiliogaeth Dafydd, a’r Seren fore eglur. 17 Ac y mae’r Ysbryd a’r briodasferch yn dywedyd, Tyred. A’r hwn sydd yn clywed, dyweded, Tyred. A’r hwn sydd â syched arno, deued. A’r hwn sydd yn ewyllysio, cymered ddwfr y bywyd yn rhad. 18 Canys yr wyf fi yn tystiolaethu i bob un sydd yn clywed geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn, Os rhydd neb ddim at y pethau hyn, Duw a rydd ato ef y plâu sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn: 19 Ac o thyn neb ymaith ddim oddi wrth eiriau llyfr y broffwydoliaeth hon, Duw a dynn ymaith ei ran ef allan o lyfr y bywyd, ac allan o’r ddinas sanctaidd, ac oddi wrth y pethau sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn. 20 Yr hwn sydd yn tystiolaethu’r pethau hyn, sydd yn dywedyd, Yn wir, yr wyf yn dyfod ar frys. Amen. Yn wir, tyred, Arglwydd Iesu. 21 Gras ein Harglwydd ni Iesu Grist fyddo gyda chwi oll. Amen.
DIWEDD
I’R UNIG DDUW Y BYDDO’R GOGONIANT
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.