Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
141 Arglwydd, yr wyf yn gweiddi arnat: brysia ataf; clyw fy llais, pan lefwyf arnat. 2 Cyfeirier fy ngweddi ger dy fron fel arogl‐darth, a dyrchafiad fy nwylo fel yr offrwm prynhawnol. 3 Gosod, Arglwydd, gadwraeth o flaen fy ngenau: cadw ddrws fy ngwefusau. 4 Na ostwng fy nghalon at ddim drwg, i fwriadu gweithredoedd drygioni gyda gwŷr a weithredant anwiredd: ac na ad i mi fwyta o’u danteithion hwynt. 5 Cured y cyfiawn fi yn garedig, a cherydded fi: na thorred eu holew pennaf hwynt fy mhen: canys fy ngweddi fydd eto yn eu drygau hwynt. 6 Pan dafler eu barnwyr i lawr mewn lleoedd caregog, clywant fy ngeiriau; canys melys ydynt. 7 Y mae ein hesgyrn ar wasgar ar fin y bedd, megis un yn torri neu yn hollti coed ar y ddaear. 8 Eithr arnat ti, O Arglwydd Dduw, y mae fy llygaid: ynot ti y gobeithiais; na ad fy enaid yn ddiymgeledd. 9 Cadw fi rhag y fagl a osodasant i mi, a hoenynnau gweithredwyr anwiredd. 10 Cydgwymped y rhai annuwiol yn eu rhwydau eu hun, tra yr elwyf fi heibio.
43 Ac efe a’m dug i’r porth, sef y porth sydd yn edrych tua’r dwyrain. 2 Ac wele ogoniant Duw Israel yn dyfod o ffordd y dwyrain; a’i lais fel sŵn dyfroedd lawer, a’r ddaear yn disgleirio o’i ogoniant ef. 3 Ac yr oedd yn ôl gwelediad y weledigaeth a welais, sef yn ôl y weledigaeth a welais pan ddeuthum i ddifetha y ddinas: a’r gweledigaethau oedd fel y weledigaeth a welswn wrth afon Chebar: yna y syrthiais ar fy wyneb. 4 A gogoniant yr Arglwydd a ddaeth i’r tŷ ar hyd ffordd y porth sydd â’i wyneb tua’r dwyrain. 5 Felly yr ysbryd a’m cododd, ac a’m dug i’r cyntedd nesaf i mewn; ac wele, llanwasai gogoniant yr Arglwydd y tŷ. 6 Clywn ef hefyd yn llefaru wrthyf o’r tŷ; ac yr oedd y gŵr yn sefyll yn fy ymyl.
7 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, dyma le fy ngorseddfa, a lle gwadnau fy nhraed, lle y trigaf ymysg meibion Israel yn dragywydd; a’m henw sanctaidd ni haloga tŷ Israel mwy, na hwynt‐hwy, na’u brenhinoedd, trwy eu puteindra, na thrwy gyrff meirw eu brenhinoedd yn eu huchel leoedd. 8 Wrth osod eu rhiniog wrth fy rhiniog i, a’u gorsin wrth fy ngorsin i, a phared rhyngof fi a hwynt, hwy a halogasant fy enw sanctaidd â’u ffieidd‐dra y rhai a wnaethant: am hynny mi a’u hysais hwy yn fy llid. 9 Pellhânt yr awr hon eu puteindra, a chelanedd eu brenhinoedd oddi wrthyf fi, a mi a drigaf yn eu mysg hwy yn dragywydd.
10 Ti fab dyn, dangos y tŷ i dŷ Israel, fel y cywilyddiont am eu hanwireddau; a mesurant y portreiad. 11 Ac os cywilyddiant am yr hyn oll a wnaethant, hysbysa iddynt ddull y tŷ, a’i osodiad, a’i fynediadau allan, a’i ddyfodiadau i mewn, a’i holl ddull, a’i holl ddeddfau, a’i holl ddull, a’i holl gyfreithiau; ac ysgrifenna o flaen eu llygaid hwynt, fel y cadwont ei holl ddull ef, a’i holl ddeddfau, ac y gwnelont hwynt. 12 Dyma gyfraith y tŷ; Ar ben y mynydd y bydd ei holl derfyn ef, yn gysegr sancteiddiolaf o amgylch ogylch. Wele, dyma gyfraith y tŷ.
37 Jerwsalem, Jerwsalem, yr hon wyt yn lladd y proffwydi, ac yn llabyddio’r rhai a ddanfonir atat, pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd, megis y casgl iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech! 38 Wele, yr ydys yn gadael eich tŷ i chwi yn anghyfannedd. 39 Canys meddaf i chwi, Ni’m gwelwch ar ôl hyn, hyd oni ddywedoch, Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd.
24 A’r Iesu a aeth allan, ac a ymadawodd o’r deml: a’i ddisgyblion a ddaethant ato, i ddangos iddo adeiladau’r deml. 2 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni welwch chwi hyn oll? Yn wir meddaf i chwi, Ni adewir yma garreg ar garreg, a’r ni ddatodir.
3 Ac efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, y disgyblion a ddaethant ato o’r neilltu, gan ddywedyd, Mynega i ni, pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd o’th ddyfodiad, ac o ddiwedd y byd? 4 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Edrychwch rhag i neb eich twyllo chwi. 5 Canys daw llawer yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer. 6 A chwi a gewch glywed am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd: gwelwch na chyffroer chwi: canys rhaid yw bod hyn oll; eithr nid yw’r diwedd eto. 7 Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: ac fe fydd newyn, a nodau, a daeargrynfâu mewn mannau. 8 A dechreuad gofidiau yw hyn oll. 9 Yna y’ch traddodant chwi i’ch gorthrymu, ac a’ch lladdant: a chwi a gaseir gan yr holl genhedloedd er mwyn fy enw i. 10 Ac yna y rhwystrir llawer, ac y bradychant ei gilydd, ac y casânt ei gilydd. 11 A gau broffwydi lawer a godant, ac a dwyllant lawer. 12 Ac oherwydd yr amlha anwiredd, fe a oera cariad llawer. 13 Eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig. 14 A’r efengyl hon am y deyrnas a bregethir trwy’r holl fyd, er tystiolaeth i’r holl genhedloedd: ac yna y daw’r diwedd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.