Revised Common Lectionary (Complementary)
4 Canys wele y dydd yn dyfod, yn llosgi megis ffwrn; a’r holl feilchion, a holl weithredwyr anwiredd, a fyddant sofl: a’r dydd sydd yn dyfod a’u llysg hwynt, medd Arglwydd y lluoedd, fel na adawo iddynt na gwreiddyn na changen.
2 Ond Haul cyfiawnder a gyfyd i chwi, y rhai ydych yn ofni fy enw, â meddyginiaeth yn ei esgyll; a chwi a ewch allan, ac a gynyddwch megis lloi pasgedig.
Salm.
98 Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd: canys efe a wnaeth bethau rhyfedd: ei ddeheulaw a’i fraich sanctaidd a barodd iddo fuddugoliaeth. 2 Hysbysodd yr Arglwydd ei iachawdwriaeth: datguddiodd ei gyfiawnder yng ngolwg y cenhedloedd. 3 Cofiodd ei drugaredd a’i wirionedd i dŷ Israel: holl derfynau y ddaear a welsant iachawdwriaeth ein Duw ni. 4 Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear: llefwch, ac ymlawenhewch, a chenwch. 5 Cenwch i’r Arglwydd gyda’r delyn; gyda’r delyn, a llef salm. 6 Ar utgyrn a sain cornet, cenwch yn llafar o flaen yr Arglwydd y Brenin. 7 Rhued y môr a’i gyflawnder; y byd a’r rhai a drigant o’i fewn. 8 Cured y llifeiriaint eu dwylo; a chydganed y mynyddoedd 9 O flaen yr Arglwydd; canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd â chyfiawnder, a’r bobloedd ag uniondeb.
6 Ac yr ydym yn gorchymyn i chwi, frodyr, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, dynnu ohonoch ymaith oddi wrth bob brawd a’r sydd yn rhodio yn afreolus, ac nid yn ôl y traddodiad a dderbyniodd efe gennym ni. 7 Canys chwi a wyddoch eich hunain pa fodd y dylech ein dilyn ni: oblegid ni buom afreolus yn eich plith chwi; 8 Ac ni fwytasom fara neb yn rhad; ond trwy weithio mewn llafur a lludded, nos a dydd, fel na phwysem ar neb ohonoch chwi; 9 Nid oherwydd nad oes gennym awdurdod, ond fel y’n rhoddem ein hunain yn siampl i chwi i’n dilyn. 10 Canys pan oeddem hefyd gyda chwi, hyn a orchmynasom i chwi, Os byddai neb ni fynnai weithio, ni châi fwyta chwaith. 11 Canys yr ydym yn clywed fod rhai yn rhodio yn eich plith chwi yn afreolus, heb weithio dim, ond bod yn rhodresgar. 12 Ond i’r cyfryw gorchymyn yr ydym, a’u hannog trwy ein Harglwydd Iesu Grist, ar iddynt weithio trwy lonyddwch, a bwyta eu bara eu hunain. 13 A chwithau, frodyr, na ddiffygiwch yn gwneuthur daioni.
5 Ac fel yr oedd rhai yn dywedyd am y deml, ei bod hi wedi ei harddu â meini teg a rhoddion, efe a ddywedodd, 6 Y pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, daw’r dyddiau yn y rhai ni adewir maen ar faen, a’r nis datodir. 7 A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athro, pa bryd gan hynny y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo’r pethau hyn ar ddyfod? 8 Ac efe a ddywedodd, Edrychwch na thwyller chwi: canys llawer a ddeuant yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; a’r amser a nesaodd: nac ewch gan hynny ar eu hôl hwynt. 9 A phan glywoch sôn am ryfeloedd a therfysgoedd, na chymerwch fraw: canys rhaid i’r pethau hyn fod yn gyntaf: ond ni ddaw y diwedd yn y man. 10 Yna y dywedodd efe wrthynt, Cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: 11 A daeargrynfâu mawrion a fyddant yn amryw leoedd, a newyn, a heintiau; a phethau ofnadwy, ac arwyddion mawrion a fydd o’r nef. 12 Eithr o flaen hyn oll, hwy a roddant eu dwylo arnoch, ac a’ch erlidiant, gan eich traddodi i’r synagogau, ac i garcharau, wedi eich dwyn gerbron brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i. 13 Eithr fe a ddigwydd i chwi yn dystiolaeth. 14 Am hynny rhoddwch eich bryd ar na ragfyfyrioch beth a ateboch: 15 Canys myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr na dywedyd yn ei herbyn na’i gwrthsefyll. 16 A chwi a fradychir, ie, gan rieni, a brodyr, a cheraint, a chyfeillion; ac i rai ohonoch y parant farwolaeth. 17 A chas fyddwch gan bawb oherwydd fy enw i. 18 Ond ni chyll blewyn o’ch pen chwi. 19 Yn eich amynedd meddiennwch eich eneidiau.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.