Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 98

Salm.

98 Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd: canys efe a wnaeth bethau rhyfedd: ei ddeheulaw a’i fraich sanctaidd a barodd iddo fuddugoliaeth. Hysbysodd yr Arglwydd ei iachawdwriaeth: datguddiodd ei gyfiawnder yng ngolwg y cenhedloedd. Cofiodd ei drugaredd a’i wirionedd i dŷ Israel: holl derfynau y ddaear a welsant iachawdwriaeth ein Duw ni. Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear: llefwch, ac ymlawenhewch, a chenwch. Cenwch i’r Arglwydd gyda’r delyn; gyda’r delyn, a llef salm. Ar utgyrn a sain cornet, cenwch yn llafar o flaen yr Arglwydd y Brenin. Rhued y môr a’i gyflawnder; y byd a’r rhai a drigant o’i fewn. Cured y llifeiriaint eu dwylo; a chydganed y mynyddoedd O flaen yr Arglwydd; canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd â chyfiawnder, a’r bobloedd ag uniondeb.

2 Samuel 21:1-14

21 A bu newyn yn nyddiau Dafydd dair blynedd olynol. A Dafydd a ymofynnodd gerbron yr Arglwydd. A’r Arglwydd a ddywedodd, Oherwydd Saul, ac oherwydd ei dŷ gwaedlyd ef, y mae hyn; oblegid lladd ohono ef y Gibeoniaid. A’r brenin a alwodd am y Gibeoniaid, ac a ymddiddanodd â hwynt; (a’r Gibeoniaid hynny nid oeddynt o feibion Israel, ond o weddill yr Amoriaid; a meibion Israel a dyngasai iddynt hwy: eto Saul a geisiodd eu lladd hwynt, o’i serch i feibion Israel a Jwda.) A Dafydd a ddywedodd wrth y Gibeoniaid, Beth a wnaf i chwi? ac â pha beth y gwnaf gymod, fel y bendithioch chwi etifeddiaeth yr Arglwydd? A’r Gibeoniaid a ddywedasant wrtho, Ni fynnwn ni nac arian nac aur gan Saul, na chan ei dŷ ef; ac ni fynnwn ni ladd neb yn Israel. Ac efe a ddywedodd, Yr hyn a ddywedoch chwi, a wnaf i chwi. A hwy a ddywedasant wrth y brenin, Y gŵr a’n difethodd ni, ac a fwriadodd i’n herbyn ni, i’n dinistrio ni rhag aros yn un o derfynau Israel, Rhodder i ni saith o wŷr o’i feibion ef, fel y crogom ni hwynt i’r Arglwydd yn Gibea Saul, dewisedig yr Arglwydd. A dywedodd y brenin, Myfi a’u rhoddaf. Ond y brenin a arbedodd Meffiboseth, mab Jonathan, mab Saul, oherwydd llw yr Arglwydd yr hwn oedd rhyngddynt hwy, rhwng Dafydd a Jonathan mab Saul. Ond y brenin a gymerth ddau fab Rispa merch Aia, y rhai a ymddûg hi i Saul, sef Armoni a Meffiboseth; a phum mab Michal merch Saul, y rhai a blantodd hi i Adriel mab Barsilai y Maholathiad: Ac efe a’u rhoddes hwynt yn llaw y Gibeoniaid; a hwy a’u crogasant hwy yn y mynydd gerbron yr Arglwydd: a’r saith hyn a gydgwympasant, ac a roddwyd i farwolaeth yn y dyddiau cyntaf o’r cynhaeaf, yn nechreuad cynhaeaf yr haidd.

10 A Rispa merch Aia a gymerth sachliain, a hi a’i hestynnodd ef iddi ar y graig, o ddechrau y cynhaeaf nes diferu dwfr arnynt hwy o’r nefoedd, ac ni adawodd hi i ehediaid y nefoedd orffwys arnynt hwy y dydd, na bwystfil y maes liw nos. 11 A mynegwyd i Dafydd yr hyn a wnaethai Rispa merch Aia, gordderchwraig Saul.

12 A Dafydd a aeth ac a ddug esgyrn Saul, ac esgyrn Jonathan ei fab, oddi wrth berchenogion Jabes Gilead, y rhai a’u lladratasent hwy o heol Beth‐sar yr hon y crogasai y Philistiaid hwynt ynddi, y dydd y lladdodd y Philistiaid Saul yn Gilboa. 13 Ac efe a ddug i fyny oddi yno esgyrn Saul, ac esgyrn Jonathan ei fab: a hwy a gasglasant esgyrn y rhai a grogasid. 14 A hwy a gladdasant esgyrn Saul a Jonathan ei fab yng ngwlad Benjamin, yn Sela, ym meddrod Cis ei dad: a hwy a wnaethant yr hyn oll a orchmynasai y brenin. A bu Duw fodlon i’r wlad ar ôl hyn.

2 Thesaloniaid 1:3-12

Diolch a ddylem i Dduw yn wastadol drosoch, frodyr, fel y mae yn addas, oblegid bod eich ffydd chwi yn mawr gynyddu, a chariad pob un ohonoch oll tuag at eich gilydd yn ychwanegu; Hyd onid ydym ni ein hunain yn gorfoleddu ynoch chwi yn eglwysi Duw, oherwydd eich amynedd chwi a’ch ffydd yn eich holl erlidiau a’r gorthrymderau yr ydych yn eu goddef: Yr hyn sydd argoel golau o gyfiawn farn Duw, fel y’ch cyfrifer yn deilwng i deyrnas Dduw, er mwyn yr hon yr ydych hefyd yn goddef. Canys cyfiawn yw gerbron Duw, dalu cystudd i’r rhai sydd yn eich cystuddio chwi; Ac i chwithau, y rhai a gystuddir, esmwythdra gyda ni, yn ymddangosiad yr Arglwydd Iesu o’r nef, gyda’i angylion nerthol, A thân fflamllyd, gan roddi dial i’r sawl nid adwaenant Dduw, ac nid ydynt yn ufuddhau i efengyl ein Harglwydd Iesu Grist: Y rhai a ddioddefant yn gosbedigaeth, ddinistr tragwyddol oddi gerbron yr Arglwydd, ac oddi wrth ogoniant ei gadernid ef; 10 Pan ddêl efe i’w ogoneddu yn ei saint, ac i fod yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu, (oherwydd i’n tystiolaeth ni yn eich mysg chwi gael ei chredu,) yn y dydd hwnnw. 11 Am ba achos yr ydym hefyd yn gweddïo yn wastadol drosoch, ar fod i’n Duw ni eich cyfrif chwi’n deilwng o’r alwedigaeth hon, a chyflawni holl fodlonrwydd ei ddaioni, a gwaith ffydd, yn nerthol: 12 Fel y gogonedder enw ein Harglwydd Iesu Grist ynoch chwi, a chwithau ynddo yntau, yn ôl gras ein Duw ni, a’r Arglwydd Iesu Grist.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.