Revised Common Lectionary (Complementary)
Caniad y graddau.
123 Atat ti y dyrchafaf fy llygaid, ti yr hwn a breswyli yn y nefoedd. 2 Wele, fel y mae llygaid gweision ar law eu meistriaid, neu fel y mae llygaid llawforwyn ar law ei meistres; felly y mae ein llygaid ni ar yr Arglwydd ein Duw, hyd oni thrugarhao efe wrthym ni. 3 Trugarha wrthym, Arglwydd, trugarha wrthym; canys llanwyd ni â dirmyg yn ddirfawr. 4 Yn ddirfawr y llanwyd ein henaid â gwatwargerdd y rhai goludog, ac â diystyrwch y beilchion.
20 Yna Soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd, 2 Am hynny y mae fy meddyliau yn peri i mi ateb: ac am hyn y mae brys arnaf. 3 Yr ydwyf yn clywed cerydd gwaradwyddus i mi; ac y mae ysbryd fy neall yn peri i mi ateb. 4 Oni wyddost ti hyn erioed, er pan osodwyd dyn ar y ddaear, 5 Mai byr yw gorfoledd yr annuwiolion, a llawenydd y rhagrithwyr dros funud awr? 6 Pe dyrchafai ei odidowgrwydd ef i’r nefoedd, a chyrhaeddyd o’i ben ef hyd y cymylau; 7 Efe a gollir yn dragywydd fel ei dom: y rhai a’i gwelsant a ddywedant, Pa le y mae efe? 8 Efe a eheda ymaith megis breuddwyd, ac ni cheir ef: ac efe a ymlidir fel gweledigaeth nos. 9 Y llygad a’i gwelodd, ni wêl ef mwy: a’i le ni chenfydd mwy ohono. 10 Ei feibion a gais fodloni’r tlodion: a’i ddwylo a roddant adref eu golud hwynt. 11 Ei esgyrn sydd yn llawn o bechod ei ieuenctid, yr hwn a orwedd gydag ef yn y pridd.
16 Canys nid gan ddilyn chwedlau cyfrwys, yr hysbysasom i chwi nerth a dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, eithr wedi gweled ei fawredd ef â’n llygaid. 17 Canys efe a dderbyniodd gan Dduw Dad barch a gogoniant, pan ddaeth y cyfryw lef ato oddi wrth y mawr-ragorol Ogoniant, Hwn yw fy annwyl Fab i, yn yr hwn y’m bodlonwyd. 18 A’r llef yma, yr hon a ddaeth o’r nef, a glywsom ni, pan oeddem gydag ef yn y mynydd sanctaidd. 19 Ac y mae gennym air sicrach y proffwydi; yr hwn da y gwnewch fod yn dal arno, megis ar gannwyll yn llewyrchu mewn lle tywyll, hyd oni wawrio’r dydd, ac oni chodo’r seren ddydd yn eich calonnau chwi: 20 Gan wybod hyn yn gyntaf, nad oes un broffwydoliaeth o’r ysgrythur o ddehongliad priod. 21 Canys nid trwy ewyllys dyn y daeth gynt broffwydoliaeth; eithr dynion sanctaidd Duw a lefarasant megis y cynhyrfwyd hwy gan yr Ysbryd Glân.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.