Revised Common Lectionary (Complementary)
Gweddi Dafydd.
17 Clyw, Arglwydd, gyfiawnder, ystyria fy lefain, gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll. 2 Deued fy marn oddi ger dy fron: edryched dy lygaid ar uniondeb. 3 Profaist fy nghalon; gofwyaist fi y nos; chwiliaist fi, ac ni chei ddim: bwriedais na throseddai fy ngenau. 4 Tuag at am weithredoedd dynion, wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr ysbeilydd. 5 Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau, fel na lithro fy nhraed. 6 Mi a elwais arnat; canys gwrandewi arnaf fi, O Dduw: gostwng dy glust ataf, ac erglyw fy ymadrodd. 7 Dangos dy ryfedd drugareddau,O Achubydd y rhai a ymddiriedant ynot, rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheulaw. 8 Cadw fi fel cannwyll llygad: cudd fi dan gysgod dy adenydd, 9 Rhag yr annuwiolion, y rhai a’m gorthrymant, rhag fy ngelynion marwol, y rhai a’m hamgylchant.
13 A dywedodd Moses wrth Dduw, Wele, pan ddelwyf fi at feibion Israel, a dywedyd wrthynt, Duw eich tadau a’m hanfonodd atoch; os dywedant wrthyf, Beth yw ei enw ef? beth a ddywedaf fi wrthynt? 14 A Duw a ddywedodd wrth Moses, YDWYF YR HWN YDWYF: dywedodd hefyd, Fel hyn yr adroddi wrth feibion Israel; YDWYF a’m hanfonodd atoch. 15 A Duw a ddywedodd drachefn wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; Arglwydd Dduw eich tadau, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob, a’m hanfonodd atoch: dyma fy enw byth, a dyma fy nghoffadwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth. 16 Dos a chynnull henuriaid Israel, a dywed wrthynt, Arglwydd Dduw eich tadau, Duw Abraham, Isaac, a Jacob, a ymddangosodd i mi, gan ddywedyd, Gan ymweled yr ymwelais â chwi, a gwelais yr hyn a wnaed i chwi yn yr Aifft. 17 A dywedais, Mi a’ch dygaf chwi i fyny o adfyd yr Aifft, i wlad y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid; i wlad yn llifeirio o laeth a mêl. 18 A hwy a wrandawant ar dy lais; a thi a ddeui, ti a henuriaid Israel, at frenin yr Aifft, a dywedwch wrtho, Arglwydd Dduw yr Hebreaid a gyfarfu â ni; ac yn awr gad i ni fyned, atolwg, daith tri diwrnod i’r anialwch, fel yr aberthom i’r Arglwydd ein Duw.
19 A mi a wn na edy brenin yr Aifft i chwi fyned, ond mewn llaw gadarn. 20 Am hynny mi a estynnaf fy llaw, ac a drawaf yr Aifft â’m holl ryfeddodau, y rhai a wnaf yn ei chanol; ac wedi hynny efe a’ch gollwng chwi ymaith.
20 A Digwyddodd ar un o’r dyddiau hynny, ac efe yn dysgu’r bobl yn y deml, ac yn pregethu’r efengyl, ddyfod arno yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, gyda’r henuriaid, 2 A llefaru wrtho, gan ddywedyd, Dywed i ni, Trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? neu pwy yw’r hwn a roddodd i ti yr awdurdod hon? 3 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynnaf i chwithau un gair; a dywedwch i mi: 4 Bedydd Ioan, ai o’r nef yr ydoedd, ai o ddynion? 5 Eithr hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O’r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech ef? 6 Ac os dywedwn, O ddynion; yr holl bobl a’n llabyddiant ni: canys y maent hwy yn cwbl gredu fod Ioan yn broffwyd. 7 A hwy a atebasant, nas gwyddent o ba le. 8 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ac nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.