Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Asaff.
50 Duw y duwiau, sef yr Arglwydd, a lefarodd, ac a alwodd y ddaear, o godiad haul hyd ei fachludiad. 2 Allan o Seion, perffeithrwydd tegwch, y llewyrchodd Duw. 3 Ein Duw ni a ddaw, ac ni bydd distaw: tân a ysa o’i flaen ef, a thymestl ddirfawr fydd o’i amgylch. 4 Geilw ar y nefoedd oddi uchod, ac ar y ddaear, i farnu ei bobl. 5 Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi, y rhai a wnaethant gyfamod â mi trwy aberth. 6 A’r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef: canys Duw ei hun sydd Farnwr. Sela. 7 Clywch, fy mhobl, a mi a lefaraf; O Israel, a mi a dystiolaethaf i’th erbyn: Duw, sef dy Dduw di, ydwyf fi. 8 Nid am dy aberthau y’th geryddaf, na’th boethoffrymau, am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad. 9 Ni chymeraf fustach o’th dŷ, na bychod o’th gorlannau. 10 Canys holl fwystfilod y coed ydynt eiddof fi, a’r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd. 11 Adwaen holl adar y mynyddoedd: a gwyllt anifeiliaid y maes ydynt eiddof fi. 12 Os bydd newyn arnaf, ni ddywedaf i ti: canys y byd a’i gyflawnder sydd eiddof fi. 13 A fwytâf fi gig teirw? neu a yfaf fi waed bychod? 14 Abertha foliant i Dduw; a thâl i’r Goruchaf dy addunedau: 15 A galw arnaf fi yn nydd trallod: mi a’th waredaf, a thi a’m gogoneddi. 16 Ond wrth yr annuwiol y dywedodd Duw, Beth sydd i ti a fynegech ar fy neddfau, neu a gymerech ar fy nghyfamod yn dy enau? 17 Gan dy fod yn casáu addysg, ac yn taflu fy ngeiriau i’th ôl. 18 Pan welaist leidr, cytunaist ag ef; a’th gyfran oedd gyda’r godinebwyr. 19 Gollyngaist dy safn i ddrygioni, a’th dafod a gydbletha ddichell. 20 Eisteddaist a dywedaist yn erbyn dy frawd: rhoddaist enllib i fab dy fam. 21 Hyn a wnaethost, a mi a dewais: tybiaist dithau fy mod yn gwbl fel ti dy hun: ond mi a’th argyhoeddaf, ac a’u trefnaf o flaen dy lygaid. 22 Deellwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio Duw; rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwaredydd. 23 Yr hwn a abertho foliant, a’m gogonedda i: a’r neb a osodo ei ffordd yn iawn, dangosaf iddo iachawdwriaeth Duw.
12 Canys mi a adwaen eich anwireddau lawer, a’ch pechodau cryfion: y maent yn blino y cyfiawn, yn cymryd iawn, ac yn troi heibio y tlawd yn y porth. 13 Am hynny y neb a fyddo gall a ostega yr amser hwnnw: canys amser drwg yw. 14 Ceisiwch ddaioni, ac nid drygioni; fel y byddoch fyw: ac felly yr Arglwydd, Duw y lluoedd, fydd gyda chwi, fel y dywedasoch. 15 Casewch ddrygioni, a hoffwch ddaioni, a gosodwch farn yn y porth: fe allai y bydd Arglwydd Dduw y lluoedd yn raslon i weddill Joseff. 16 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw y lluoedd, yr Arglwydd; Ym mhob heol y bydd cwynfan, ac ym mhob priffordd y dywedant, O! O! a galwant yr arddwr i alaru; a’r neb a fedro alaru, i gwynfan. 17 Ac ym mhob gwinllan y bydd cwynfan: canys tramwyaf trwy dy ganol di, medd yr Arglwydd. 18 Gwae y neb sydd yn dymuno dydd yr Arglwydd! beth yw hwnnw i chwi? tywyllwch, ac nid goleuni yw dydd yr Arglwydd. 19 Megis pe ffoai gŵr rhag llew, ac arth yn cyfarfod ag ef; a myned i’r tŷ, a phwyso ei law ar y pared, a’i frathu o sarff. 20 Oni bydd dydd yr Arglwydd yn dywyllwch, ac nid yn oleuni? yn dywyll iawn, ac heb lewyrch ynddo?
21 Caseais a ffieiddiais eich gwyliau, ac nid aroglaf yn eich cymanfaoedd. 22 Canys er i chwi offrymu i mi boethoffrymau, a’ch offrymau bwyd, ni fyddaf fodlon iddynt; ac nid edrychaf ar hedd‐offrwm eich pasgedigion. 23 Symud oddi wrthyf drwst dy ganiadau: canys ni wrandawaf beroriaeth dy nablau. 24 Ond rheded barn fel dyfroedd, a chyfiawnder fel ffrwd gref.
11 Ac a hwy yn gwrando ar y pethau hyn, efe a chwanegodd, ac a ddywedodd ddameg, am ei fod efe yn agos i Jerwsalem, ac am iddynt dybied yr ymddangosai teyrnas Dduw yn y fan. 12 Am hynny y dywedodd efe, Rhyw ŵr bonheddig a aeth i wlad bell i dderbyn teyrnas iddo’i hun, ac i ddychwelyd. 13 Ac wedi galw ei ddeg gwas, efe a roddes iddynt ddeg punt, ac a ddywedodd wrthynt, Marchnatewch hyd oni ddelwyf. 14 Eithr ei ddinaswyr a’i casasant ef, ac a ddanfonasant genadwri ar ei ôl ef, gan ddywedyd, Ni fynnwn ni hwn i deyrnasu arnom. 15 A bu, pan ddaeth efe yn ei ôl, wedi derbyn y deyrnas, erchi ohono ef alw’r gweision hyn ato, i’r rhai y rhoddasai efe yr arian, fel y gwybyddai beth a elwasai bob un wrth farchnata. 16 A daeth y cyntaf, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt a enillodd ddeg punt. 17 Yntau a ddywedodd wrtho, Da, was da: am i ti fod yn ffyddlon yn y lleiaf, bydded i ti awdurdod ar ddeg dinas. 18 A’r ail a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt di a wnaeth bum punt. 19 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth hwnnw, Bydd dithau ar bum dinas. 20 Ac un arall a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, wele dy bunt, yr hon oedd gennyf wedi ei dodi mewn napgyn: 21 Canys mi a’th ofnais, am dy fod yn ŵr tost: yr wyt ti yn cymryd i fyny y peth ni roddaist i lawr, ac yn medi y peth ni heuaist. 22 Yntau a ddywedodd wrtho, O’th enau dy hun y’th farnaf, tydi was drwg. Ti a wyddit fy mod i yn ŵr tost, yn cymryd i fyny y peth ni roddais i lawr, ac yn medi y peth ni heuais: 23 A phaham na roddaist fy arian i i’r bwrdd cyfnewid, fel, pan ddaethwn, y gallaswn ei gael gyda llog? 24 Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, Dygwch oddi arno ef y bunt, a rhoddwch i’r hwn sydd â deg punt ganddo; 25 (A hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, y mae ganddo ef ddeg punt;) 26 Canys yr wyf fi yn dywedyd i chwi, mai i bob un y mae ganddo, y rhoddir iddo; eithr oddi ar yr hwn nid oes ganddo, y dygir oddi arno, ie, yr hyn sydd ganddo. 27 A hefyd fy ngelynion hynny, y rhai ni fynasent i mi deyrnasu arnynt, dygwch hwynt yma, a lleddwch ger fy mron i.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.