Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Asaff.
50 Duw y duwiau, sef yr Arglwydd, a lefarodd, ac a alwodd y ddaear, o godiad haul hyd ei fachludiad. 2 Allan o Seion, perffeithrwydd tegwch, y llewyrchodd Duw. 3 Ein Duw ni a ddaw, ac ni bydd distaw: tân a ysa o’i flaen ef, a thymestl ddirfawr fydd o’i amgylch. 4 Geilw ar y nefoedd oddi uchod, ac ar y ddaear, i farnu ei bobl. 5 Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi, y rhai a wnaethant gyfamod â mi trwy aberth. 6 A’r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef: canys Duw ei hun sydd Farnwr. Sela. 7 Clywch, fy mhobl, a mi a lefaraf; O Israel, a mi a dystiolaethaf i’th erbyn: Duw, sef dy Dduw di, ydwyf fi. 8 Nid am dy aberthau y’th geryddaf, na’th boethoffrymau, am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad. 9 Ni chymeraf fustach o’th dŷ, na bychod o’th gorlannau. 10 Canys holl fwystfilod y coed ydynt eiddof fi, a’r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd. 11 Adwaen holl adar y mynyddoedd: a gwyllt anifeiliaid y maes ydynt eiddof fi. 12 Os bydd newyn arnaf, ni ddywedaf i ti: canys y byd a’i gyflawnder sydd eiddof fi. 13 A fwytâf fi gig teirw? neu a yfaf fi waed bychod? 14 Abertha foliant i Dduw; a thâl i’r Goruchaf dy addunedau: 15 A galw arnaf fi yn nydd trallod: mi a’th waredaf, a thi a’m gogoneddi. 16 Ond wrth yr annuwiol y dywedodd Duw, Beth sydd i ti a fynegech ar fy neddfau, neu a gymerech ar fy nghyfamod yn dy enau? 17 Gan dy fod yn casáu addysg, ac yn taflu fy ngeiriau i’th ôl. 18 Pan welaist leidr, cytunaist ag ef; a’th gyfran oedd gyda’r godinebwyr. 19 Gollyngaist dy safn i ddrygioni, a’th dafod a gydbletha ddichell. 20 Eisteddaist a dywedaist yn erbyn dy frawd: rhoddaist enllib i fab dy fam. 21 Hyn a wnaethost, a mi a dewais: tybiaist dithau fy mod yn gwbl fel ti dy hun: ond mi a’th argyhoeddaf, ac a’u trefnaf o flaen dy lygaid. 22 Deellwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio Duw; rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwaredydd. 23 Yr hwn a abertho foliant, a’m gogonedda i: a’r neb a osodo ei ffordd yn iawn, dangosaf iddo iachawdwriaeth Duw.
7 Ac yn y bedwaredd flwyddyn i’r brenin Dareius y daeth gair yr Arglwydd at Sechareia, ar y pedwerydd dydd o’r nawfed mis, sef Cisleu; 2 Pan anfonasent Sereser, a Regemmelech, a’u gwŷr, i dŷ Dduw, i weddïo gerbron yr Arglwydd, 3 Ac i ddywedyd wrth yr offeiriaid oedd yn nhŷ Arglwydd y lluoedd, ac wrth y proffwydi, gan ddywedyd, A wylaf fi y pumed mis, gan ymneilltuo, fel y gwneuthum weithian gymaint o flynyddoedd?
4 Yna gair Arglwydd y lluoedd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 5 Dywed wrth holl bobl y tir, ac wrth yr offeiriaid, gan lefaru, Pan oeddech yn ymprydio ac yn galaru y pumed a’r seithfed mis, y deng mlynedd a thrigain hynny, ai i mi yr ymprydiasoch chwi ympryd, i mi? 6 A phan fwytasoch, a phan yfasoch, onid oeddech yn bwyta i chwi eich hunain, ac yn yfed i chwi eich hunain? 7 Oni ddylech wrando y geiriau a gyhoeddodd yr Arglwydd trwy law y proffwydi gynt, pan oedd Jerwsalem yn gyfannedd, ac yn llwyddiannus, a’i dinasoedd o’i hamgylch, a phobl yn cyfanheddu y deheudir a’r dyffryndir?
8 A daeth gair yr Arglwydd at Sechareia, gan ddywedyd, 9 Fel hyn y llefara Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, Bernwch farn gywir, gwnewch drugaredd a thosturi bob un i’w frawd: 10 Ac na orthrymwch y weddw a’r amddifad, y dieithr a’r anghenog; ac na feddyliwch ddrwg bob un i’w gilydd yn eich calonnau. 11 Er hyn gwrthodasant wrando, a rhoddasant ysgwydd anhydyn, a thrymhasant eu clustiau rhag clywed. 12 Gwnaethant hefyd eu calonnau yn adamant, rhag clywed y gyfraith a’r geiriau a anfonodd Arglwydd y lluoedd trwy ei ysbryd, yn llaw y proffwydi gynt: am hynny y daeth digofaint mawr oddi wrth Arglwydd y lluoedd. 13 A bu, megis y galwodd efe, ac na wrandawent hwy; felly y galwasant hwy, ac nis gwrandawn innau, medd Arglwydd y lluoedd. 14 Ond gwasgerais hwynt â chorwynt i blith yr holl genhedloedd y rhai nid adwaenent; a’r tir a anghyfanheddwyd ar eu hôl hwynt, fel nad oedd a’i tramwyai nac a ddychwelai: felly y gosodasant y wlad ddymunol yn ddiffeithwch.
5 Ewyllysio gan hynny yr ydwyf eich coffáu chwi, gan eich bod unwaith yn gwybod hyn; i’r Arglwydd, wedi iddo waredu’r bobl o dir yr Aifft, ddistrywio eilwaith y rhai ni chredasant. 6 Yr angylion hefyd, y rhai ni chadwasant eu dechreuad, eithr a adawsant eu trigfa eu hun, a gadwodd efe mewn cadwynau tragwyddol dan dywyllwch, i farn y dydd mawr. 7 Megis y mae Sodom a Gomorra, a’r dinasoedd o’u hamgylch mewn cyffelyb fodd â hwynt, wedi puteinio, a myned ar ôl cnawd arall, wedi eu gosod yn esampl, gan ddioddef dialedd tân tragwyddol. 8 Yr un ffunud hefyd y mae’r breuddwydwyr hyn yn halogi’r cnawd, yn diystyru llywodraeth, ac yn cablu’r rhai sydd mewn awdurdod. 9 Eithr Michael yr archangel, pan oedd efe, wrth ymddadlau â diafol, yn ymresymu ynghylch corff Moses, ni feiddiodd ddwyn barn gablaidd arno, eithr efe a ddywedodd, Cerydded yr Arglwydd dydi. 10 Eithr y rhai hyn sydd yn cablu’r pethau nis gwyddant: a pha bethau bynnag y maent yn anianol, fel anifeiliaid direswm, yn eu gwybod, yn y rhai hynny ymlygru y maent. 11 Gwae hwynt-hwy! oblegid hwy a gerddasant yn ffordd Cain, ac a’u collwyd trwy dwyll gwobr Balaam, ac a’u difethwyd yng ngwrthddywediad Core. 12 Y rhai hyn sydd frychau yn eich cariad-wleddoedd chwi, yn cydwledda â chwi, yn ddi-ofn yn eu pesgi eu hunain: cymylau di-ddwfr ydynt, a gylcharweinir gan wyntoedd; prennau diflanedig heb ffrwyth, dwywaith yn feirw, wedi eu diwreiddio; 13 Tonnau cynddeiriog y môr, yn ewynnu allan eu cywilydd eu hunain; sêr gwibiog, i’r rhai y cadwyd niwl y tywyllwch yn dragywydd. 14 Ac Enoch hefyd, y seithfed o Adda, a broffwydodd am y rhai hyn, gan ddywedyd, Wele, y mae’r Arglwydd yn dyfod gyda myrddiwn o’i saint, 15 I wneuthur barn yn erbyn pawb, ac i lwyr argyhoeddi’r holl rai annuwiol ohonynt am holl weithredoedd eu hannuwioldeb, y rhai a wnaethant hwy yn annuwiol, ac am yr holl eiriau caledion, y rhai a lefarodd pechaduriaid annuwiol yn ei erbyn ef. 16 Y rhai hyn sydd rwgnachwyr, tuchanwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau eu hunain; ac y mae eu genau yn llefaru geiriau chwyddedig, yn mawrygu wynebau dynion er mwyn budd. 17 Eithr chwi, O rai annwyl, cofiwch y geiriau a ragddywedwyd gan apostolion ein Harglwydd Iesu Grist; 18 Ddywedyd ohonynt i chwi, y bydd yn yr amser diwethaf watwarwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau annuwiol eu hunain. 19 Y rhai hyn yw’r rhai sydd yn eu didoli eu hunain, yn anianol, heb fod yr Ysbryd ganddynt. 20 Eithr chwychwi, anwylyd, gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd, a gweddïo yn yr Ysbryd Glân, 21 Ymgedwch yng nghariad Duw, gan ddisgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragwyddol.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.