Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd, Al‐taschith, Michtam Dafydd, pan ffodd rhag Saul i’r ogof.
57 Trugarha wrthyf, O Dduw, trugarha wrthyf: canys ynot y gobeithiodd fy enaid; ie, yng nghysgod dy adenydd y gobeithiaf, hyd onid êl yr aflwydd hwn heibio. 2 Galwaf ar Dduw Goruchaf; ar Dduw a gwblha â mi. 3 Efe a enfyn o’r nefoedd, ac a’m gwared oddi wrth warthrudd yr hwn a’m llyncai. Sela. Denfyn Duw ei drugaredd a’i wirionedd. 4 Fy enaid sydd ymysg llewod: gorwedd yr wyf ymysg dynion poethion, sef meibion dynion, y rhai y mae eu dannedd yn waywffyn a saethau, a’u tafod yn gleddyf llym. 5 Ymddyrcha, Dduw, uwch y nefoedd; a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear. 6 Darparasant rwyd i’m traed; crymwyd fy enaid; cloddiasant bydew o’m blaen; syrthiasant yn ei ganol. Sela. 7 Parod yw fy nghalon, O Dduw, parod yw fy nghalon: canaf a chanmolaf. 8 Deffro, fy ngogoniant; deffro, nabl a thelyn: deffroaf yn fore. 9 Clodforaf di, Arglwydd, ymysg y bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd. 10 Canys mawr yw dy drugaredd hyd y nefoedd, a’th wirionedd hyd y cymylau. 11 Ymddyrcha, Dduw, uwch y nefoedd; a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear.
36 Ac Abigail a ddaeth at Nabal; ac wele, yr oedd gwledd ganddo ef yn ei dŷ, fel gwledd brenin: a chalon Nabal oedd lawen ynddo ef; canys meddw iawn oedd efe: am hynny nid ynganodd hi wrtho ef air, na bychan na mawr, nes goleuo y bore. 37 A’r bore pan aeth ei feddwdod allan o Nabal, mynegodd ei wraig iddo ef y geiriau hynny; a’i galon ef a fu farw o’i fewn, ac efe a aeth fel carreg. 38 Ac ynghylch pen y deng niwrnod y trawodd yr Arglwydd Nabal, fel y bu efe farw.
39 A phan glybu Dafydd farw Nabal, efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a ddadleuodd achos fy sarhad i oddi ar law Nabal, ac a ataliodd ei was rhag drwg: canys yr Arglwydd a drodd ddrygioni Nabal ar ei ben ei hun. Dafydd hefyd a anfonodd i ymddiddan ag Abigail, am ei chymryd hi yn wraig iddo. 40 A phan ddaeth gweision Dafydd at Abigail i Carmel, hwy a lefarasant wrthi, gan ddywedyd, Dafydd a’n hanfonodd ni atat ti, i’th gymryd di yn wraig iddo. 41 A hi a gyfododd, ac a ymgrymodd ar ei hwyneb hyd lawr; ac a ddywedodd, Wele dy forwyn yn wasanaethferch i olchi traed gweision fy arglwydd. 42 Abigail hefyd a frysiodd, ac a gyfododd, ac a farchogodd ar asyn, a phump o’i llancesau yn ei chanlyn: a hi a aeth ar ôl cenhadau Dafydd, ac a aeth yn wraig iddo ef.
39 Ac wedi iddo fyned allan, efe a aeth, yn ôl ei arfer, i fynydd yr Olewydd; a’i ddisgyblion hefyd a’i canlynasant ef. 40 A phan ddaeth efe i’r man, efe a ddywedodd wrthynt, Gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth. 41 Ac efe a dynnodd oddi wrthynt tuag ergyd carreg; ac wedi iddo fyned ar ei liniau, efe a weddïodd, 42 Gan ddywedyd, O Dad, os ewyllysi droi heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: er hynny nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler. 43 Ac angel o’r nef a ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef. 44 Ac efe mewn ymdrech meddwl, a weddïodd yn ddyfalach: a’i chwys ef oedd fel defnynnau gwaed yn disgyn ar y ddaear. 45 A phan gododd efe o’i weddi, a dyfod at ei ddisgyblion, efe a’u cafodd hwynt yn cysgu gan dristwch; 46 Ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn cysgu? codwch, a gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.