Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd, Al‐taschith, Michtam Dafydd, pan ffodd rhag Saul i’r ogof.
57 Trugarha wrthyf, O Dduw, trugarha wrthyf: canys ynot y gobeithiodd fy enaid; ie, yng nghysgod dy adenydd y gobeithiaf, hyd onid êl yr aflwydd hwn heibio. 2 Galwaf ar Dduw Goruchaf; ar Dduw a gwblha â mi. 3 Efe a enfyn o’r nefoedd, ac a’m gwared oddi wrth warthrudd yr hwn a’m llyncai. Sela. Denfyn Duw ei drugaredd a’i wirionedd. 4 Fy enaid sydd ymysg llewod: gorwedd yr wyf ymysg dynion poethion, sef meibion dynion, y rhai y mae eu dannedd yn waywffyn a saethau, a’u tafod yn gleddyf llym. 5 Ymddyrcha, Dduw, uwch y nefoedd; a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear. 6 Darparasant rwyd i’m traed; crymwyd fy enaid; cloddiasant bydew o’m blaen; syrthiasant yn ei ganol. Sela. 7 Parod yw fy nghalon, O Dduw, parod yw fy nghalon: canaf a chanmolaf. 8 Deffro, fy ngogoniant; deffro, nabl a thelyn: deffroaf yn fore. 9 Clodforaf di, Arglwydd, ymysg y bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd. 10 Canys mawr yw dy drugaredd hyd y nefoedd, a’th wirionedd hyd y cymylau. 11 Ymddyrcha, Dduw, uwch y nefoedd; a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear.
2 Ac yr oedd gŵr ym Maon, a’i gyfoeth yn Carmel; a’r gŵr oedd fawr iawn, ac iddo ef yr oedd tair mil o ddefaid, a mil o eifr: ac yr oedd efe yn cneifio ei ddefaid yn Carmel. 3 Ac enw y gŵr oedd Nabal; ac enw ei wraig Abigail: a’r wraig oedd yn dda ei deall, ac yn deg ei gwedd: a’r gŵr oedd galed, a drwg ei weithredoedd; a Chalebiad oedd efe.
4 A chlybu Dafydd yn yr anialwch, fod Nabal yn cneifio ei ddefaid. 5 A Dafydd a anfonodd ddeg o lanciau; a Dafydd a ddywedodd wrth y llanciau, Cerddwch i fyny i Carmel, ac ewch at Nabal, a chyferchwch well iddo yn fy enw i. 6 Dywedwch fel hyn hefyd wrtho ef sydd yn byw mewn llwyddiant, Caffech di heddwch, a’th dŷ heddwch, a’r hyn oll sydd eiddot ti heddwch. 7 Ac yn awr clywais fod rhai yn cneifio i ti: yn awr y bugeiliaid sydd gennyt a fuant gyda ni, ni wnaethom sarhad arnynt hwy, ac ni bu ddim yn eisiau iddynt, yr holl ddyddiau y buant hwy yn Carmel. 8 Gofyn i’th lanciau, a hwy a fynegant i ti: gan hynny caed y llanciau hyn ffafr yn dy olwg di; canys ar ddiwrnod da y daethom ni; dyro, atolwg, yr hyn a ddelo i’th law, i’th weision, ac i’th fab Dafydd. 9 Ac wedi dyfod llanciau Dafydd, hwy a ddywedasant wrth Nabal yn ôl yr holl eiriau hynny yn enw Dafydd, ac a dawsant.
10 A Nabal a atebodd weision Dafydd, ac a ddywedodd, Pwy yw Dafydd? a phwy yw mab Jesse? llawer sydd o weision heddiw yn torri ymaith bob un oddi wrth ei feistr. 11 A gymeraf fi fy mara a’m dwfr, a’m cig a leddais i’m cneifwyr, a’u rhoddi i wŷr nis gwn o ba le y maent? 12 Felly llanciau Dafydd a droesant i’w ffordd, ac a ddychwelasant, ac a ddaethant, ac a fynegasant iddo ef yr holl eiriau hynny. 13 A Dafydd a ddywedodd wrth ei wŷr, Gwregyswch bob un ei gleddyf. Ac ymwregysodd pob un ei gleddyf: ymwregysodd Dafydd hefyd ei gleddyf: ac ynghylch pedwar cant o wŷr a aeth i fyny ar ôl Dafydd, a dau gant a drigasant gyda’r dodrefn.
14 Ac un o’r llanciau a fynegodd i Abigail gwraig Nabal, gan ddywedyd, Wele, Dafydd a anfonodd genhadau o’r anialwch i gyfarch gwell i’n meistr ni; ond efe a’u difenwodd hwynt. 15 A’r gwŷr fu dda iawn wrthym ni; ac ni wnaed sarhad arnom ni, ac ni bu i ni ddim yn eisiau yr holl ddyddiau y rhodiasom gyda hwynt, pan oeddem yn y maes. 16 Mur oeddynt hwy i ni nos a dydd, yr holl ddyddiau y buom gyda hwynt yn cadw y defaid. 17 Yn awr gan hynny gwybydd, ac ystyria beth a wnelych: canys paratowyd drwg yn erbyn ein meistr ni, ac yn erbyn ei holl dŷ ef: canys efe sydd fab i Belial, fel na ellir ymddiddan ag ef.
18 Yna Abigail a frysiodd, ac a gymerth ddau cant o fara, a dwy gostrelaid o win, a phump o ddefaid wedi eu gwneuthur yn barod, a phum hobaid o gras ŷd, a chan swp o resin, a dau can teisen o ffigys, ac a’u gosododd ar asynnod. 19 A hi a ddywedodd wrth ei gweision, Cerddwch o’m blaen i; wele fi yn dyfod ar eich ôl: ond wrth Nabal ei gŵr nid ynganodd hi. 20 Ac a hi yn marchogaeth ar asyn, ac yn dyfod i waered ar hyd ystlys y mynydd; yna, wele Dafydd a’i wŷr yn dyfod i waered i’w herbyn; a hi a gyfarfu â hwynt. 21 A dywedasai Dafydd, Diau gadw ohonof fi yn ofer yr hyn oll oedd gan hwn yn yr anialwch, fel na bu dim yn eisiau o’r hyn oll oedd ganddo ef: canys efe a dalodd i mi ddrwg dros dda. 22 Felly y gwnelo Duw i elynion Dafydd, ac ychwaneg, os gadawaf o’r hyn oll sydd ganddo ef, erbyn goleuni y bore, un gwryw.
6 A feiddia neb ohonoch, a chanddo fater yn erbyn arall, ymgyfreithio o flaen y rhai anghyfiawn, ac nid o flaen y saint? 2 Oni wyddoch chwi y barna’r saint y byd? ac os trwoch chwi y bernir y byd, a ydych chwi yn anaddas i farnu’r pethau lleiaf? 3 Oni wyddoch chwi y barnwn ni angylion? pa faint mwy y pethau a berthyn i’r bywyd hwn? 4 Gan hynny, od oes gennych farnedigaethau am bethau a berthyn i’r bywyd hwn, dodwch ar y fainc y rhai gwaelaf yn yr eglwys. 5 Er cywilydd i chwi yr ydwyf yn dywedyd. Felly, onid oes yn eich plith gymaint ag un doeth, yr hwn a fedro farnu rhwng ei frodyr? 6 Ond bod brawd yn ymgyfreithio â brawd, a hynny gerbron y rhai di‐gred? 7 Yr awron gan hynny y mae yn hollol ddiffyg yn eich plith, am eich bod yn ymgyfreithio â’ch gilydd. Paham nad ydych yn hytrach yn dioddef cam? paham nad ydych yn hytrach mewn colled? 8 Eithr chwychwi sydd yn gwneuthur cam, a cholled, a hynny i’r brodyr. 9 Oni wyddoch chwi na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw? Na thwyller chwi: ni chaiff na godinebwyr, nac eilun‐addolwyr, na thorwyr priodas, na masweddwyr, na gwrywgydwyr, 10 Na lladron, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr, na chribddeilwyr, etifeddu teyrnas Dduw. 11 A hyn fu rai ohonoch chwi: eithr chwi a olchwyd, eithr chwi a sancteiddiwyd, eithr chwi a gyfiawnhawyd, yn enw yr Arglwydd Iesu, a thrwy Ysbryd ein Duw ni.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.