Revised Common Lectionary (Complementary)
22 Ac efe a gyfododd y noson honno, ac a gymerth ei ddwy wraig, a’i ddwy lawforwyn, a’i un mab ar ddeg, ac a aeth dros ryd Jabboc. 23 Ac a’u cymerth hwynt, ac a’u trosglwyddodd trwy’r afon: felly efe a drosglwyddodd yr hyn oedd ganddo.
24 A Jacob a adawyd ei hunan: yna yr ymdrechodd gŵr ag ef nes codi’r wawr. 25 A phan welodd na byddai drech nag ef, efe a gyffyrddodd â chyswllt ei forddwyd ef; fel y llaesodd cyswllt morddwyd Jacob, wrth ymdrech ohono ag ef. 26 A’r angel a ddywedodd, Gollwng fi ymaith; oblegid y wawr a gyfododd. Yntau a atebodd, Ni’th ollyngaf, oni’m bendithi. 27 Hefyd efe a ddywedodd wrtho, Beth yw dy enw? Ac efe a atebodd, Jacob. 28 Yntau a ddywedodd, Mwyach ni elwir dy enw di Jacob, ond Israel: oblegid cefaist nerth gyda Duw fel tywysog, a chyda dynion, ac a orchfygaist. 29 A Jacob a ymofynnodd, ac a ddywedodd, Mynega, atolwg, dy enw. Ac yntau a atebodd, I ba beth y gofynni hyn am fy enw i? Ac yno efe a’i bendithiodd ef. 30 A Jacob a alwodd enw y fan Peniel: oblegid gwelais Dduw wyneb yn wyneb, a dihangodd fy einioes. 31 A’r haul a gyfodasai arno fel yr oedd yn myned dros Penuel, ac yr oedd efe yn gloff o’i glun.
Caniad y graddau.
121 Dyrchafaf fy llygaid i’r mynyddoedd, o’r lle y daw fy nghymorth. 2 Fy nghymorth a ddaw oddi wrth yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear. 3 Ni ad efe i’th droed lithro: ac ni huna dy geidwad. 4 Wele, ni huna ac ni chwsg ceidwad Israel. 5 Yr Arglwydd yw dy geidwad: yr Arglwydd yw dy gysgod ar dy ddeheulaw. 6 Ni’th dery yr haul y dydd, na’r lleuad y nos. 7 Yr Arglwydd a’th geidw rhag pob drwg: efe a geidw dy enaid. 8 Yr Arglwydd a geidw dy fynediad a’th ddyfodiad, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.
14 Eithr aros di yn y pethau a ddysgaist, ac a ymddiriedwyd i ti amdanynt, gan wybod gan bwy y dysgaist; 15 Ac i ti er yn fachgen wybod yr ysgrythur lân, yr hon sydd abl i’th wneuthur di yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy’r ffydd sydd yng Nghrist Iesu. 16 Yr holl ysgrythur sydd wedi ei rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw, ac sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder: 17 Fel y byddo dyn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio i bob gweithred dda.
4 Yr ydwyf fi gan hynny yn gorchymyn gerbron Duw, a’r Arglwydd Iesu Grist, yr hwn a farna’r byw a’r meirw yn ei ymddangosiad a’i deyrnas; 2 Pregetha’r gair; bydd daer mewn amser, allan o amser; argyhoedda, cerydda, annog gyda phob hirymaros ac athrawiaeth. 3 Canys daw’r amser pryd na ddioddefont athrawiaeth iachus; eithr yn ôl eu chwantau eu hunain y pentyrrant iddynt eu hunain athrawon, gan fod eu clustiau yn merwino; 4 Ac oddi wrth y gwirionedd y troant ymaith eu clustiau, ac at chwedlau y troant. 5 Eithr gwylia di ym mhob peth, dioddef adfyd, gwna waith efengylwr, cyflawna dy weinidogaeth.
18 Ac efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt, fod yn rhaid gweddïo yn wastad, ac heb ddiffygio; 2 Gan ddywedyd, Yr oedd rhyw farnwr mewn rhyw ddinas, yr hwn nid ofnai Dduw, ac ni pharchai ddyn. 3 Yr oedd hefyd yn y ddinas honno wraig weddw; a hi a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, Dial fi ar fy ngwrthwynebwr. 4 Ac efe nis gwnâi dros amser: eithr wedi hynny efe a ddywedodd ynddo ei hun, Er nad ofnaf Dduw, ac na pharchaf ddyn; 5 Eto am fod y weddw hon yn peri i mi flinder, mi a’i dialaf hi; rhag iddi yn y diwedd ddyfod a’m syfrdanu i. 6 A’r Arglwydd a ddywedodd, Gwrandewch beth a ddywed y barnwr anghyfiawn. 7 Ac oni ddial Duw ei etholedigion, sydd yn llefain arno ddydd a nos, er ei fod yn hir oedi drostynt? 8 Yr wyf yn dywedyd i chwi, y dial efe hwynt ar frys. Eithr Mab y dyn, pan ddêl, a gaiff efe ffydd ar y ddaear?
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.