Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm Dafydd.
61 Clyw, O Dduw, fy llefain; gwrando ar fy ngweddi. 2 O eithaf y ddaear y llefaf atat, pan lesmeirio fy nghalon: arwain fi i graig a fyddo uwch na mi. 3 Canys buost yn noddfa i mi, ac yn dŵr cadarn rhag y gelyn. 4 Preswyliaf yn dy babell byth: a’m hymddiried fydd dan orchudd dy adenydd. Sela. 5 Canys ti, Dduw, a glywaist fy addunedau: rhoddaist etifeddiaeth i’r rhai a ofnant dy enw. 6 Ti a estynni oes y Brenin; ei flynyddoedd fyddant fel cenedlaethau lawer. 7 Efe a erys byth gerbron Duw; darpar drugaredd a gwirionedd, fel y cadwont ef. 8 Felly y canmolaf dy enw yn dragywydd, fel y talwyf fy addunedau beunydd.
15 Ac efe a ddychwelodd at ŵr Duw, efe a’i holl fintai, ac a ddaeth ac a safodd ger ei fron ef; ac a ddywedodd, Wele, yn awr y gwn nad oes Duw trwy yr holl ddaear, ond yn Israel: am hynny cymer yn awr, atolwg, rodd gan dy was. 16 Ond efe a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, ni chymeraf. Ac efe a gymhellodd arno ei chymryd; eto efe a’i gwrthododd. 17 A Naaman a ddywedodd, Oni roddir yn awr i’th was lwyth cwpl o fulod o ddaear? canys ni offryma dy was mwyach boethoffrwm nac aberth i dduwiau eraill, ond i’r Arglwydd. 18 Yn y peth hyn yr Arglwydd a faddeuo i’th was; pan elo fy arglwydd i dŷ Rimmon i addoli yno, a phwyso ar fy llaw i, a phan ymgrymwyf finnau yn nhŷ Rimmon; pan ymgrymwyf yn nhŷ Rimmon, maddeued yr Arglwydd i’th was yn y peth hyn. 19 Ac efe a ddywedodd wrtho, Dos mewn heddwch. Ac efe a aeth oddi wrtho ef encyd o ffordd.
24 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn trosto, Ffestus a ddywedodd â llef uchel, Paul, yr wyt ti yn ynfydu; llawer o ddysg sydd yn dy yrru di yn ynfyd. 25 Ac efe a ddywedodd, Nid wyf fi yn ynfydu, O ardderchocaf Ffestus; eithr geiriau gwirionedd a sobrwydd yr wyf fi yn eu hadrodd. 26 Canys y brenin a ŵyr oddi wrth y pethau hyn, wrth yr hwn yr wyf fi yn llefaru yn hy: oherwydd nid wyf yn tybied fod dim o’r pethau hyn yn guddiedig rhagddo; oblegid nid mewn congl y gwnaed hyn. 27 O frenin Agripa, A wyt ti yn credu i’r proffwydi? Mi a wn dy fod yn credu. 28 Ac Agripa a ddywedodd wrth Paul, Yr wyt ti o fewn ychydig i’m hennill i fod yn Gristion. 29 A Phaul a ddywedodd, Mi a ddymunwn gan Dduw, o fewn ychydig, ac yn gwbl oll, fod nid tydi yn unig, ond pawb hefyd a’r sydd yn fy ngwrando heddiw, yn gyfryw ag wyf fi, ond y rhwymau hyn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.