Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
2 Brenhinoedd 5:1-3

A Naaman, tywysog llu brenin Syria, oedd ŵr mawr yng ngolwg ei arglwydd, ac yn anrhydeddus; canys trwyddo ef y rhoddasai yr Arglwydd ymwared i Syria: ac yr oedd efe yn ŵr cadarn nerthol, ond yr oedd yn wahanglwyfus. A’r Syriaid a aethent allan yn finteioedd, ac a gaethgludasent o wlad Israel lances fechan; a honno oedd yn gwasanaethu gwraig Naaman. A hi a ddywedodd wrth ei meistres, O na byddai fy arglwydd o flaen y proffwyd sydd yn Samaria! canys efe a’i hiachâi ef o’i wahanglwyf.

2 Brenhinoedd 5:7-15

A phan ddarllenodd brenin Israel y llythyr, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ddywedodd, Ai Duw ydwyf fi, i farwhau, ac i fywhau, pan anfonai efe ataf fi i iacháu gŵr o’i wahanglwyf? gwybyddwch gan hynny, atolwg, a gwelwch mai ceisio achos y mae efe i’m herbyn i.

A phan glybu Eliseus gŵr Duw rwygo o frenin Israel ei ddillad, efe a anfonodd at y brenin, gan ddywedyd, Paham y rhwygaist dy ddillad? deued yn awr ataf fi, ac efe a gaiff wybod fod proffwyd yn Israel. Yna Naaman a ddaeth â’i feirch ac â’i gerbydau, ac a safodd wrth ddrws tŷ Eliseus. 10 Ac Eliseus a anfonodd ato ef gennad, gan ddywedyd, Dos ac ymolch saith waith yn yr Iorddonen; a’th gnawd a ddychwel i ti, a thithau a lanheir. 11 Ond Naaman a ddigiodd, ac a aeth ymaith; ac a ddywedodd, Wele, mi a feddyliais ynof fy hun, gan ddyfod y deuai efe allan, ac y safai efe, ac y galwai ar enw yr Arglwydd ei Dduw, ac y gosodai ei law ar y fan, ac yr iachâi y gwahanglwyfus. 12 Onid gwell Abana a Pharpar, afonydd Damascus, na holl ddyfroedd Israel? oni allaf ymolchi ynddynt hwy, ac ymlanhau? Felly efe a drodd, ac a aeth ymaith mewn dicter. 13 A’i weision a nesasant, ac a lefarasant wrtho, ac a ddywedasant, Fy nhad, pe dywedasai y proffwyd beth mawr wrthyt ti, onis gwnelsit? pa faint mwy, gan iddo ddywedyd wrthyt, Ymolch, a bydd lân? 14 Ac yna efe a aeth i waered, ac a ymdrochodd saith waith yn yr Iorddonen, yn ôl gair gŵr Duw: a’i gnawd a ddychwelodd fel cnawd dyn bach, ac efe a lanhawyd.

15 Ac efe a ddychwelodd at ŵr Duw, efe a’i holl fintai, ac a ddaeth ac a safodd ger ei fron ef; ac a ddywedodd, Wele, yn awr y gwn nad oes Duw trwy yr holl ddaear, ond yn Israel: am hynny cymer yn awr, atolwg, rodd gan dy was.

Salmau 111

111 Molwch yr Arglwydd. Clodforaf yr Arglwydd â’m holl galon, yng nghymanfa y rhai uniawn, ac yn y gynulleidfa. Mawr yw gweithredoedd yr Arglwydd, wedi eu ceisio gan bawb a’u hoffant. Gogoniant a harddwch yw ei waith ef; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth. Gwnaeth gofio ei ryfeddodau: graslon a thrugarog yw yr Arglwydd. Rhoddodd ymborth i’r rhai a’i hofnant ef: efe a gofia ei gyfamod yn dragywydd. Mynegodd i’w bobl gadernid ei weithredoedd, i roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd. Gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddwylo ef: ei holl orchmynion ydynt sicr: Wedi eu sicrhau byth ac yn dragywydd, a’u gwneuthur mewn gwirionedd ac uniawnder. Anfonodd ymwared i’w bobl: gorchmynnodd ei gyfamod yn dragwyddol: sancteiddiol ac ofnadwy yw ei enw ef. 10 Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd: deall da sydd gan y rhai a wnânt ei orchmynion ef: y mae ei foliant ef yn parhau byth.

2 Timotheus 2:8-15

Cofia gyfodi Iesu Grist o had Dafydd, o feirw, yn ôl fy efengyl i: Yn yr hon yr ydwyf yn goddef cystudd hyd rwymau, fel drwgweithredwr; eithr gair Duw nis rhwymir. 10 Am hynny yr ydwyf yn goddef pob peth er mwyn yr etholedigion, fel y gallont hwythau gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, gyda gogoniant tragwyddol. 11 Gwir yw’r gair: Canys os buom feirw gydag ef, byw fyddwn hefyd gydag ef: 12 Os dioddefwn, ni a deyrnaswn gydag ef: os gwadwn ef, yntau hefyd a’n gwad ninnau: 13 Os ŷm ni heb gredu, eto y mae efe yn aros yn ffyddlon: nis gall efe ei wadu ei hun. 14 Dwg y pethau hyn ar gof, gan orchymyn gerbron yr Arglwydd, na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, ond i ddadymchwelyd y gwrandawyr. 15 Bydd ddyfal i’th osod dy hun yn brofedig gan Dduw, yn weithiwr di-fefl, yn iawn gyfrannu gair y gwirionedd.

Luc 17:11-19

11 Bu hefyd, ac efe yn myned i Jerwsalem, fyned ohono ef trwy ganol Samaria a Galilea. 12 A phan oedd efe yn myned i mewn i ryw dref, cyfarfu ag ef ddeg o wŷr gwahangleifion, y rhai a safasant o hirbell: 13 A hwy a godasant eu llef, gan ddywedyd, Iesu Feistr, trugarha wrthym. 14 A phan welodd efe hwynt, efe a ddywedodd wrthynt, Ewch a dangoswch eich hunain i’r offeiriaid. A bu, fel yr oeddynt yn myned, fe a’u glanhawyd hwynt. 15 Ac un ohonynt, pan welodd ddarfod ei iacháu, a ddychwelodd, gan foliannu Duw â llef uchel. 16 Ac efe a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed ef, gan ddiolch iddo. A Samariad oedd efe. 17 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd, Oni lanhawyd y deg? ond pa le y mae y naw? 18 Ni chaed a ddychwelasant i roi gogoniant i Dduw, ond yr estron hwn. 19 Ac efe a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos ymaith: dy ffydd a’th iachaodd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.