Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
37 Nac ymddigia oherwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnânt anwiredd. 2 Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i’r llawr fel glaswellt, ac y gwywant fel gwyrddlysiau. 3 Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau. 4 Ymddigrifa hefyd yn yr Arglwydd; ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon. 5 Treigla dy ffordd ar yr Arglwydd, ac ymddiried ynddo; ac efe a’i dwg i ben. 6 Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni, a’th farn fel hanner dydd. 7 Distawa yn yr Arglwydd, a disgwyl wrtho: nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion. 8 Paid â digofaint, a gad ymaith gynddaredd: nac ymddigia er dim i wneuthur drwg. 9 Canys torrir ymaith y drwg ddynion: ond y rhai a ddisgwyliant wrth yr Arglwydd, hwynt‐hwy a etifeddant y tir.
7 A bu yn nyddiau Ahas mab Jotham, mab Usseia brenin Jwda, ddyfod o Resin brenin Syria, a Pheca mab Remaleia, brenin Israel, i fyny tua Jerwsalem, i ryfela arni: ond ni allodd ei gorchfygu. 2 A mynegwyd i dŷ Dafydd, gan ddywedyd, Syria a gydsyniodd ag Effraim. A’i galon ef a gyffrôdd, a chalon ei bobl, megis y cynhyrfa prennau y coed o flaen y gwynt. 3 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Eseia, Dos allan yr awr hon i gyfarfod Ahas, ti a Sear‐jasub dy fab, wrth ymyl pistyll y llyn uchaf, ym mhriffordd maes y pannwr: 4 A dywed wrtho, Ymgadw, a bydd lonydd; nac ofna, ac na feddalhaed dy galon, rhag dwy gloren y pentewynion myglyd hyn, rhag angerdd llid Resin, a Syria, a mab Remaleia: 5 Canys Syria, ac Effraim, a mab Remaleia, a ymgynghorodd gyngor drwg yn dy erbyn, gan ddywedyd, 6 Esgynnwn yn erbyn Jwda, a blinwn hi, torrwn hi hefyd atom, a gosodwn frenin yn ei chanol hi; sef mab Tabeal. 7 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ni saif, ac ni bydd hyn. 8 Canys pen Syria yw Damascus, a phen Damascus yw Resin; ac o fewn pum mlynedd a thrigain y torrir Effraim rhag bod yn bobl. 9 Hefyd pen Effraim yw Samaria, a phen Samaria yw mab Remaleia. Oni chredwch, diau ni sicrheir chwi.
29 Ac a hwy yn myned allan o Jericho, tyrfa fawr a’i canlynodd ef. 30 Ac wele, dau ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd, pan glywsant fod yr Iesu yn myned heibio, a lefasant, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym. 31 A’r dyrfa a’u ceryddodd hwynt, fel y tawent: hwythau a lefasant fwyfwy, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym. 32 A’r Iesu a safodd, ac a’u galwodd hwynt, ac a ddywedodd, Pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur ohonof i chwi? 33 Dywedasant wrtho, Arglwydd, agoryd ein llygaid ni. 34 A’r Iesu a dosturiodd wrthynt, ac a gyffyrddodd â’u llygaid: ac yn ebrwydd y cafodd eu llygaid olwg, a hwy a’i canlynasant ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.