Revised Common Lectionary (Complementary)
146 Molwch yr Arglwydd. Fy enaid, mola di yr Arglwydd. 2 Molaf yr Arglwydd yn fy myw: canaf i’m Duw tra fyddwyf. 3 Na hyderwch ar dywysogion, nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iachawdwriaeth ynddo. 4 Ei anadl a â allan, efe a ddychwel i’w ddaear: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef. 5 Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gymorth iddo, sydd â’i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw: 6 Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, y môr, a’r hyn oll y sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd: 7 Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i’r rhai gorthrymedig, yn rhoddi bara i’r newynog. Yr Arglwydd sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd. 8 Yr Arglwydd sydd yn agoryd llygaid y deillion: yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn. 9 Yr Arglwydd sydd yn cadw y dieithriaid: efe a gynnal yr amddifad a’r weddw; ac a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol. 10 Yr Arglwydd a deyrnasa byth, sef dy Dduw di, Seion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr Arglwydd.
3 Gŵr tlawd yn gorthrymu tlodion, sydd debyg i lifddwfr yr hwn ni ad luniaeth. 4 Y rhai a ymadawant â’r gyfraith, a ganmolant yr annuwiol: ond y neb a gadwant y gyfraith, a ymladd â hwynt. 5 Dynion annuwiol ni ddeallant farn: ond y neb a geisiant yr Arglwydd, a ddeallant bob peth. 6 Gwell yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb, na’r traws ei ffyrdd, er ei fod yn gyfoethog. 7 Y neb a gadwo y gyfraith, sydd fab deallus: ond y neb a fyddo gydymaith i loddestwyr, a gywilyddia ei dad. 8 Y neb a chwanego ei gyfoeth trwy usuriaeth ac ocraeth, sydd yn casglu i’r neb a fydd trugarog wrth y tlawd. 9 Y neb a dry ei glust ymaith rhag gwrando’r gyfraith, fydd ffiaidd ei weddi hefyd. 10 Y neb a ddeno y cyfiawn i ffordd ddrwg, a syrth yn ei bydew ei hun: ond y cyfiawn a feddianna ddaioni.
2 A chwithau a fywhaodd efe, pan oeddech feirw mewn camweddau a phechodau; 2 Yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ôl helynt y byd hwn, yn ôl tywysog llywodraeth yr awyr, yr ysbryd sydd yr awron yn gweithio ym mhlant anufudd‐dod; 3 Ymysg y rhai hefyd y bu ein hymarweddiad ni oll gynt, yn chwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau y cnawd a’r meddyliau; ac yr oeddem ni wrth naturiaeth yn blant digofaint, megis eraill. 4 Eithr Duw, yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, oherwydd ei fawr gariad trwy yr hwn y carodd efe ni, 5 Ie, pan oeddem feirw mewn camweddau, a’n cydfywhaodd ni gyda Christ, (trwy ras yr ydych yn gadwedig;) 6 Ac a’n cydgyfododd, ac a’n gosododd i gydeistedd yn y nefolion leoedd yng Nghrist Iesu: 7 Fel y gallai ddangos yn yr oesoedd a ddeuai, ragorol olud ei ras ef, trwy ei gymwynasgarwch i ni yng Nghrist Iesu. 8 Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd; a hynny nid ohonoch eich hunain: rhodd Duw ydyw: 9 Nid o weithredoedd, fel nad ymffrostiai neb. 10 Canys ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a ragddarparodd Duw, fel y rhodiem ni ynddynt.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.