Revised Common Lectionary (Complementary)
146 Molwch yr Arglwydd. Fy enaid, mola di yr Arglwydd. 2 Molaf yr Arglwydd yn fy myw: canaf i’m Duw tra fyddwyf. 3 Na hyderwch ar dywysogion, nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iachawdwriaeth ynddo. 4 Ei anadl a â allan, efe a ddychwel i’w ddaear: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef. 5 Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gymorth iddo, sydd â’i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw: 6 Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, y môr, a’r hyn oll y sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd: 7 Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i’r rhai gorthrymedig, yn rhoddi bara i’r newynog. Yr Arglwydd sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd. 8 Yr Arglwydd sydd yn agoryd llygaid y deillion: yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn. 9 Yr Arglwydd sydd yn cadw y dieithriaid: efe a gynnal yr amddifad a’r weddw; ac a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol. 10 Yr Arglwydd a deyrnasa byth, sef dy Dduw di, Seion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr Arglwydd.
2 Y tlawd a’r cyfoethog a gydgyfarfyddant: yr Arglwydd yw gwneuthurwr y rhai hyn oll. 3 Y call a genfydd y drwg, ac a ymgûdd: ond y ffyliaid a ânt rhagddynt, ac a gosbir. 4 Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr Arglwydd, yw cyfoeth, ac anrhydedd, a bywyd. 5 Drain a maglau sydd yn ffordd y cyndyn: y neb a gadwo ei enaid, a fydd bell oddi wrthynt hwy. 6 Hyfforddia blentyn ym mhen ei ffordd; a phan heneiddio nid ymedy â hi. 7 Y cyfoethog a arglwyddiaetha ar y tlawd; a gwas fydd yr hwn a gaffo fenthyg i’r gŵr a roddo fenthyg. 8 Y neb a heuo anwiredd a fed flinder; a gwialen ei ddigofaint ef a balla. 9 Yr hael ei lygad a fendithir: canys efe a rydd o’i fara i’r tlawd. 10 Bwrw allan y gwatwarwr, a’r gynnen a â allan; ie, yr ymryson a’r gwarth a dderfydd. 11 Y neb a garo lendid calon, am ras ei wefusau a gaiff y brenin yn garedig iddo. 12 Llygaid yr Arglwydd a gadwant wybodaeth; ac efe a ddinistria eiriau y troseddwr. 13 Medd y diog, Y mae llew allan; fo’m lleddir yng nghanol yr heolydd. 14 Ffos ddofn yw genau gwragedd dieithr: y neb y byddo yr Arglwydd yn ddig wrtho, a syrth yno. 15 Ffolineb sydd yn rhwym yng nghalon plentyn; ond gwialen cerydd a’i gyr ymhell oddi wrtho. 16 Y neb a orthrymo y tlawd er ychwanegu ei gyfoeth, a’r neb a roddo i’r cyfoethog, a ddaw i dlodi yn ddiamau.
8 Nid trwy orchymyn yr ydwyf yn dywedyd, ond oblegid diwydrwydd rhai eraill, a chan brofi gwirionedd eich cariad chwi. 9 Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, iddo ef, ac yntau’n gyfoethog, fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef. 10 Ac yr ydwyf yn rhoddi cyngor yn hyn: canys hyn sydd dda i chwi, y rhai a ragddechreuasoch, nid yn unig wneuthur, ond hefyd ewyllysio er y llynedd. 11 Ac yn awr gorffennwch wneuthur hefyd; fel megis ag yr oedd y parodrwydd i ewyllysio, felly y byddo i gwblhau hefyd o’r hyn sydd gennych. 12 Canys os bydd parodrwydd meddwl o’r blaen, yn ôl yr hyn sydd gan un, y mae yn gymeradwy, nid yn ôl yr hyn nid oes ganddo. 13 Ac nid fel y byddai esmwythdra i eraill, a chystudd i chwithau; 14 Eithr o gymhwystra: y pryd hwn bydded eich helaethrwydd chwi yn diwallu eu diffyg hwy, fel y byddo eu helaethrwydd hwythau yn diwallu eich diffyg chwithau; fel y byddo cymhwystra: 15 Megis y mae yn ysgrifenedig, Yr hwn a gasglodd lawer, nid oedd ganddo weddill; ac a gasglodd ychydig, nid oedd arno eisiau.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.