Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 12

I’r Pencardd ar Seminith, Salm Dafydd.

12 Achub, Arglwydd; canys darfu y trugarog: oherwydd pallodd y ffyddloniaid o blith meibion dynion. Oferedd a ddywedant bob un wrth ei gymydog: â gwefus wenieithgar, ac â chalon ddauddyblyg, y llefarant. Torred yr Arglwydd yr holl wefusau gweneithus,a’r tafod a person ddywedo fawrhydi: Y rhai a ddywedant, Â’n tafod y gorfyddwn; ein gwefusau a sydd eiddom ni: pwy sydd arglwydd arnom ni? Oherwydd anrhaith y rhai cystuddiedig, oherwydd uchenaid y tlodion, y cyfodaf yn awr, medd yr Arglwydd; rhoddaf mewn iachawdwriaeth yr hwn y magler iddo. Geiriau yr Arglwydd ydynt eiriau purion; fel arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd, wedi ei buro seithwaith. Ti, Arglwydd, a’u cedwi hwynt: cedwi hwynt rhag y genhedlaeth hon yn dragywydd. Yr annuwiolion a rodiant o amgylch, pan ddyrchafer y gwaelaf o feibion dynion.

Diarhebion 21:10-16

10 Enaid yr annuwiol a ddeisyf ddrwg: nid grasol yw ei gymydog yn ei olwg ef. 11 Pan gosber gwatwarwr, y bydd yr ehud gallach: a phan ddysger y doeth, efe a dderbyn wybodaeth. 12 Call y mae y cyfiawn yn ystyried am dŷ yr annuwiol: ond y mae Duw yn difetha y rhai annuwiol am eu drygioni. 13 Y neb a gaeo ei glust rhag llef y tlawd, a lefain ei hunan, ac nis gwrandewir ef. 14 Rhodd yn y dirgel a dyr ddigofaint; a gwobr yn y fynwes, lid cryf. 15 Llawen gan y cyfiawn wneuthur barn: ond dinistr fydd i weithwyr anwiredd. 16 Dyn yn myned ar gyfeiliorn oddi ar ffordd deall, a orffwys yng nghynulleidfa y meirw.

Luc 20:45-21:4

45 Ac a’r holl bobl yn clywed, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, 46 Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a ewyllysiant rodio mewn dillad llaesion, ac a garant gyfarchiadau yn y marchnadoedd, a’r prif gadeiriau yn y synagogau, a’r prif eisteddleoedd yn y gwleddoedd; 47 Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farn fwy.

21 Ac wedi iddo edrych i fyny, efe a ganfu y rhai goludog yn bwrw eu rhoddion i’r drysorfa. Ac efe a ganfu hefyd ryw wraig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy hatling. Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, fwrw o’r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na hwynt oll: Canys y rhai hyn oll o’r hyn oedd weddill ganddynt a fwriasant at offrymau Duw: eithr hon o’i phrinder a fwriodd i mewn yr holl fywyd a oedd ganddi.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.