Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 104:24-34

24 Mor lluosog yw dy weithredoedd, O Arglwydd! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb: llawn yw y ddaear o’th gyfoeth. 25 Felly y mae y môr mawr, llydan: yno y mae ymlusgiaid heb rifedi, bwystfilod bychain a mawrion. 26 Yno yr â y llongau: yno y mae y lefiathan, yr hwn a luniaist i chwarae ynddo. 27 Y rhai hyn oll a ddisgwyliant wrthyt; am roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd. 28 A roddech iddynt, a gasglant: agori dy law, a diwellir hwynt â daioni. 29 Ti a guddi dy wyneb, hwythau a drallodir: dygi ymaith eu hanadl, a threngant, a dychwelant i’w llwch. 30 Pan ollyngych dy ysbryd, y crëir hwynt; ac yr adnewyddi wyneb y ddaear. 31 Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragywydd: yr Arglwydd a lawenycha yn ei weithredoedd. 32 Efe a edrych ar y ddaear, a hi a gryna: efe a gyffwrdd â’r mynyddoedd, a hwy a fygant. 33 Canaf i’r Arglwydd tra fyddwyf fyw: canaf i’m Duw tra fyddwyf. 34 Bydd melys fy myfyrdod amdano: mi a lawenychaf yn yr Arglwydd.

Salmau 104:35

35 Darfydded y pechaduriaid o’r tir, na fydded yr annuwiolion mwy. Fy enaid, bendithia di yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.

Eseia 44:1-4

44 Ac yn awr gwrando, Jacob fy ngwas, ac Israel yr hwn a ddewisais. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn a’th wnaeth, ac a’th luniodd o’r groth, efe a’th gynorthwya: Nac ofna, fy ngwas Jacob; a thi, Jeswrwn, yr hwn a ddewisais. Canys tywalltaf ddyfroedd ar y sychedig, a ffrydiau ar y sychdir: tywalltaf fy Ysbryd ar dy had, a’m bendith ar dy hiliogaeth: A hwy a dyfant megis ymysg glaswellt, fel helyg wrth ffrydiau dyfroedd.

Galatiaid 6:7-10

Na thwyller chwi; ni watwarir Duw: canys beth bynnag a heuo dyn, hynny hefyd a fed efe. Oblegid yr hwn sydd yn hau i’w gnawd ei hun, o’r cnawd a fed lygredigaeth: eithr yr hwn sydd yn hau i’r Ysbryd, o’r Ysbryd a fed fywyd tragwyddol. Eithr yn gwneuthur daioni na ddiogwn: canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiffygiwn. 10 Am hynny tra ydym yn cael amser cyfaddas, gwnawn dda i bawb, ond yn enwedig i’r rhai sydd o deulu’r ffydd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.