Old/New Testament
1 A SOLOMON mab Dafydd a ymgadarnhaodd yn ei deyrnas, a’r Arglwydd ei Dduw oedd gydag ef, ac a’i mawrhaodd ef yn ddirfawr. 2 A Solomon a ddywedodd wrth holl Israel, wrth dywysogion y miloedd a’r cannoedd, ac wrth y barnwyr, ac wrth bob llywodraethwr yn holl Israel, sef y pennau-cenedl. 3 Felly Solomon a’r holl dyrfa gydag ef a aethant i’r uchelfa oedd yn Gibeon: canys yno yr oedd pabell cyfarfod Duw, yr hon a wnaethai Moses gwas yr Arglwydd yn yr anialwch. 4 Eithr arch Duw a ddygasai Dafydd i fyny o Ciriath-jearim, i’r lle a ddarparasai Dafydd iddi: canys efe a osodasai iddi hi babell yn Jerwsalem. 5 Hefyd, yr allor bres a wnaethai Besaleel mab Uri, mab Hur, oedd yno o flaen pabell yr Arglwydd: a Solomon a’r dyrfa a’i hargeisiodd hi. 6 A Solomon a aeth i fyny yno at yr allor bres, gerbron yr Arglwydd, yr hon oedd ym mhabell y cyfarfod, a mil o boethoffrymau a offrymodd efe arni hi.
7 Y noson honno yr ymddangosodd Duw i Solomon, ac y dywedodd wrtho ef, Gofyn yr hyn a roddaf i ti. 8 A dywedodd Solomon wrth Dduw, Ti a wnaethost fawr drugaredd â’m tad Dafydd, ac a wnaethost i mi deyrnasu yn ei le ef. 9 Yn awr, O Arglwydd Dduw, sicrhaer dy air wrth fy nhad Dafydd; canys gwnaethost i mi deyrnasu ar bobl mor lluosog â llwch y ddaear. 10 Yn awr dyro i mi ddoethineb a gwybodaeth, fel yr elwyf allan, ac y delwyf i mewn o flaen y bobl hyn: canys pwy a ddichon farnu dy bobl luosog hyn? 11 A dywedodd Duw wrth Solomon, Oherwydd bod hyn yn dy feddwl di, ac na ofynnaist na chyfoeth, na golud, na gogoniant, nac einioes dy elynion, ac na ofynnaist lawer o ddyddiau chwaith; eithr gofyn ohonot i ti ddoethineb, a gwybodaeth, fel y bernit fy mhobl y’th osodais yn frenin arnynt: 12 Doethineb a gwybodaeth a roddwyd i ti, cyfoeth hefyd, a golud, a gogoniant, a roddaf i ti, y rhai ni bu eu cyffelyb gan y brenhinoedd a fu o’th flaen di, ac ni bydd y cyffelyb i neb ar dy ôl di.
13 A Solomon a ddaeth o’r uchelfa oedd yn Gibeon, i Jerwsalem, oddi gerbron pabell y cyfarfod, ac a deyrnasodd ar Israel. 14 A Solomon a gasglodd gerbydau a marchogion; ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau, a deuddeng mil o wŷr meirch, ac efe a’u gosododd hwynt yn ninasoedd y cerbydau, ac yn Jerwsalem gyda’r brenin. 15 A’r brenin a wnaeth yr arian a’r aur yn Jerwsalem cyn amled â’r cerrig, a chedrwydd a roddes efe fel y sycamorwydd o amldra, y rhai sydd yn tyfu yn y doldir. 16 A meirch a ddygid i Solomon o’r Aifft, ac edafedd llin: marchnadwyr y brenin a gymerent yr edafedd llin dan bris. 17 Canys deuent i fyny, a dygent o’r Aifft gerbyd am chwe chan darn o arian; a march am gant a hanner; ac felly y dygent i holl frenhinoedd yr Hethiaid, ac i frenhinoedd Syria gyda hwynt.
2 A SOLOMON a roes ei fryd ar adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd, a brenhindy iddo ei hun. 2 A Solomon a rifodd ddeng mil a thrigain o gludwyr, a phedwar ugain mil o gymynwyr yn y mynydd, ac yn oruchwylwyr arnynt hwy dair mil a chwe chant.
3 A Solomon a anfonodd at Hiram brenin Tyrus, gan ddywedyd, Megis y gwnaethost â Dafydd fy nhad, ac yr anfonaist iddo gedrwydd i adeiladu iddo dŷ i drigo ynddo, felly gwna â minnau. 4 Wele fi yn adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd fy Nuw, i’w gysegru iddo, ac i arogldarthu arogl-darth llysieuog ger ei fron ef, ac i’r gwastadol osodiad bara, a’r poethoffrymau bore a hwyr, ar y Sabothau, ac ar y newyddloerau, ac ar osodedig wyliau yr Arglwydd ein Duw ni. Hyd byth y mae hyn ar Israel. 5 A’r tŷ a adeiladaf fi fydd mawr: canys mwy yw ein Duw ni na’r holl dduwiau. 6 A phwy sydd abl i adeiladu iddo ef dŷ, gan na all y nefoedd, ie, nefoedd y nefoedd ei amgyffred? a phwy ydwyf fi, fel yr adeiladwn iddo ef dŷ, ond yn unig i arogldarthu ger ei fron ef? 7 Felly yn awr anfon i mi ŵr cywraint, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres, ac mewn haearn, ac mewn porffor, ac ysgarlad, a glas, ac yn medru cerfio cerfiadau gyda’r rhai celfydd sydd gyda mi yn Jwda ac yn Jerwsalem, y rhai a ddarparodd fy nhad Dafydd. 8 Anfon hefyd i mi goed cedr, a ffynidwydd, ac algumimwydd, o Libanus: canys myfi a wn y medr dy weision di naddu coed Libanus: ac wele, fy ngweision innau a fyddant gyda’th weision dithau; 9 A hynny i ddarparu i mi lawer o goed: canys y tŷ yr ydwyf fi ar ei adeiladu fydd mawr a rhyfeddol. 10 Ac wele, i’th weision, i’r seiri a naddant y coed, y rhoddaf ugain mil corus o wenith wedi ei guro, ac ugain mil o haidd, ac ugain mil bath o win, ac ugain mil bath o olew.
11 A Hiram brenin Tyrus a atebodd mewn ysgrifen, ac a’i hanfonodd at Solomon, O gariad yr Arglwydd ar ei bobl, y rhoddes efe dydi yn frenin arnynt hwy. 12 Dywedodd Hiram hefyd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a wnaeth nef a daear, yr hwn a roddes i’r brenin Dafydd fab doeth, gwybodus o synnwyr a deall, i adeiladu tŷ i’r Arglwydd, a brenhindy iddo ei hun. 13 Ac yn awr mi a anfonais ŵr celfydd, cywraint, a deallus, o’r eiddo fy nhad Hiram: 14 Mab gwraig o ferched Dan, a’i dad yn ŵr o Tyrus, yn medru gweithio mewn aur, ac mewn arian, mewn pres, mewn haearn, mewn cerrig, ac mewn coed, mewn porffor, ac mewn glas, ac mewn lliain main, ac mewn ysgarlad; ac i gerfio pob cerfiad, ac i ddychmygu pob dychymyg a roddir ato ef, gyda’th rai cywraint di, a rhai cywraint fy arglwydd Dafydd dy dad. 15 Ac yn awr, y gwenith, a’r haidd, yr olew, a’r gwin, y rhai a ddywedodd fy arglwydd, anfoned hwynt i’w weision: 16 A ni a gymynwn goed o Libanus, yn ôl dy holl raid, ac a’u dygwn hwynt i ti yn gludeiriau ar hyd y môr i Jopa: dwg dithau hwynt i fyny i Jerwsalem.
17 A Solomon a rifodd yr holl wŷr dieithr oedd yn nhir Israel, wedi y rhifiad â’r hon y rhifasai Dafydd ei dad ef hwynt: a chaed tair ar ddeg a saith ugain o filoedd a chwe chant. 18 Ac efe a wnaeth ohonynt hwy ddeng mil a thrigain yn gludwyr, a phedwar ugain mil yn naddwyr yn y mynydd, a thair mil a chwe chant yn oruchwylwyr i roi y bobl ar waith.
3 A Solomon a ddechreuodd adeiladu tŷ yr Arglwydd yn Jerwsalem ym mynydd Moreia, lle yr ymddangosasai yr Arglwydd i Dafydd ei dad ef, yn y lle a ddarparasai Dafydd, yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad. 2 Ac efe a ddechreuodd adeiladu ar yr ail ddydd o’r ail fis, yn y bedwaredd flwyddyn o’i deyrnasiad.
3 A dyma fesurau sylfaeniad Solomon wrth adeiladu tŷ Dduw. Yr hyd oedd o gufyddau wrth y mesur cyntaf yn drigain cufydd; a’r lled yn ugain cufydd. 4 A’r porth oedd wrth dalcen y tŷ oedd un hyd â lled y tŷ, yn ugain cufydd, a’i uchder yn chwech ugain cufydd; ac efe a wisgodd hwn o fewn ag aur pur. 5 A’r tŷ mawr a fyrddiodd efe â ffynidwydd, y rhai a wisgodd efe ag aur dilin, ac a gerfiodd balmwydd a chadwynau ar hyd-ddo ef. 6 Ac efe a addurnodd y tŷ â meini gwerthfawr yn hardd; a’r aur oedd aur Parfaim. 7 Ie, efe a wisgodd y tŷ, y trawstiau, y rhiniogau, a’i barwydydd, a’i ddorau, ag aur, ac a gerfiodd geriwbiaid ar y parwydydd. 8 Ac efe a wnaeth dŷ y cysegr sancteiddiolaf; ei hyd oedd un hyd â lled y tŷ, yn ugain cufydd, a’i led yn ugain cufydd: ac efe a’i gwisgodd ef ag aur da, sef â chwe chan talent. 9 Ac yr oedd pwys yr hoelion o ddeg sicl a deugain o aur; y llofftydd hefyd a wisgodd efe ag aur.
10 Ac efe a wnaeth yn nhŷ y cysegr sancteiddiolaf ddau geriwb o waith cywraint, ac a’u gwisgodd hwynt ag aur. 11 Ac adenydd y ceriwbiaid oedd ugain cufydd eu hyd: y naill adain o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y tŷ; a’r adain arall o bum cufydd yn cyrhaeddyd at adain y ceriwb arall. 12 Ac adain y ceriwb arall o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y tŷ; a’r adain arall o bum cufydd, ynghyd ag adain y ceriwb arall. 13 Adenydd y ceriwbiaid hyn a ledwyd yn ugain cufydd: ac yr oeddynt hwy yn sefyll ar eu traed, a’u hwynebau tuag i mewn.
14 Ac efe a wnaeth y wahanlen o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, ac a weithiodd geriwbiaid ar hynny. 15 Gwnaeth hefyd ddwy golofn o flaen y tŷ, yn bymtheg cufydd ar hugain o hyd, a’r cnap ar ben pob un ohonynt oedd bum cufydd. 16 Ac efe a wnaeth gadwyni fel yn y gafell, ac a’u rhoddodd ar ben y colofnau; ac efe a wnaeth gant o bomgranadau, ac a’u rhoddodd ar y cadwynau. 17 A chyfododd y colofnau o flaen y deml, un o’r tu deau, ac un o’r tu aswy; ac a alwodd enw y ddeau, Jachin; ac enw yr aswy, Boas.
10 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy’r drws i gorlan y defaid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, lleidr ac ysbeiliwr yw. 2 Ond yr hwn sydd yn myned i mewn drwy’r drws, bugail y defaid ydyw. 3 I hwn y mae’r drysor yn agoryd, ac y mae’r defaid yn gwrando ar ei lais ef: ac y mae efe yn galw ei ddefaid ei hun erbyn eu henw, ac yn eu harwain hwy allan. 4 Ac wedi iddo yrru allan ei ddefaid ei hun, y mae efe yn myned o’u blaen hwy: a’r defaid sydd yn ei ganlyn ef, oblegid y maent yn adnabod ei lais ef. 5 Ond y dieithr nis canlynant, eithr ffoant oddi wrtho: oblegid nad adwaenant lais dieithriaid. 6 Y ddameg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt: ond hwy ni wybuant pa bethau ydoedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru wrthynt. 7 Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrthynt drachefn, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Myfi yw drws y defaid. 8 Cynifer oll ag a ddaethant o’m blaen i, lladron ac ysbeilwyr ŷnt: eithr ni wrandawodd y defaid arnynt. 9 Myfi yw’r drws: os â neb i mewn trwof fi, efe a fydd cadwedig; ac efe a â i mewn ac allan, ac a gaiff borfa. 10 Nid yw lleidr yn dyfod ond i ladrata, ac i ladd, ac i ddistrywio: myfi a ddeuthum fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaethach. 11 Myfi yw’r bugail da. Y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid. 12 Eithr y gwas cyflog, a’r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadael y defaid, ac yn ffoi: a’r blaidd sydd yn eu hysglyfio hwy, ac yn tarfu’r defaid. 13 Y mae’r gwas cyflog yn ffoi, oblegid mai gwas cyflog yw, ac nid oes ofal arno am y defaid. 14 Myfi yw’r bugail da; ac a adwaen yr eiddof fi, ac a’m hadwaenir gan yr eiddof fi. 15 Fel yr edwyn y Tad fyfi, felly yr adwaen innau’r Tad: ac yr ydwyf yn rhoddi fy einioes dros y defaid. 16 A defaid eraill sydd gennyf, y rhai nid ŷnt o’r gorlan hon: y rhai hynny hefyd sydd raid i mi eu cyrchu, a’m llais i a wrandawant; a bydd un gorlan, ac un bugail. 17 Am hyn y mae’r Tad yn fy ngharu i, am fy mod i yn dodi fy einioes, fel y cymerwyf hi drachefn. 18 Nid oes neb yn ei dwyn oddi arnaf fi: ond myfi sydd yn ei dodi hi i lawr ohonof fy hun. Y mae gennyf feddiant i’w dodi hi i lawr, ac y mae gennyf feddiant i’w chymryd hi drachefn. Y gorchymyn hwn a dderbyniais i gan fy Nhad.
19 Yna y bu drachefn ymrafael ymysg yr Iddewon, am yr ymadroddion hyn. 20 A llawer ohonynt a ddywedasant, Y mae cythraul ganddo, ac y mae efe yn ynfydu: paham y gwrandewch chwi arno ef? 21 Eraill a ddywedasant, Nid yw’r rhai hyn eiriau un â chythraul ynddo. A all cythraul agoryd llygaid y deillion?
22 Ac yr oedd y gysegr‐ŵyl yn Jerwsalem, a’r gaeaf oedd hi. 23 Ac yr oedd yr Iesu yn rhodio yn y deml, ym mhorth Solomon.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.