Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Cronicl 10-12

10 A’r Philistiaid a ryfelasant yn erbyn Israel, a ffodd gwŷr Israel o flaen y Philistiaid, ac a gwympasant yn archolledig ym mynydd Gilboa. A’r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul, ac ar ôl ei feibion: a’r Philistiaid a laddasant Jonathan, ac Abinadab, a Malcisua, meibion Saul. A’r rhyfel a drymhaodd yn erbyn Saul, a’r perchen bwâu a’i cawsant ef, ac efe a archollwyd gan y saethyddion. Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyn dy gleddyf, a gwân fi ag ef, rhag dyfod y rhai dienwaededig hyn a’m gwatwar i. Ond arweinydd ei arfau ef nis gwnâi, canys ofnodd yn ddirfawr. Yna y cymerth Saul gleddyf, ac a syrthiodd arno. A phan welodd arweinydd ei arfau ef farw o Saul, syrthiodd yntau hefyd ar y cleddyf, ac a fu farw. Felly y bu farw Saul, a’i dri mab ef, a’i holl dylwyth a fuant feirw ynghyd. A phan welodd holl wŷr Israel, y rhai oedd yn y dyffryn, ffoi ohonynt hwy, a marw Saul a’i feibion; hwy a ymadawsant o’u dinasoedd, ac a ffoesant; a’r Philistiaid a ddaethant, ac a drigasant ynddynt.

A thrannoeth, pan ddaeth y Philistiaid i ddiosg y lladdedigion, hwy a gawsant Saul a’i feibion yn feirw ym mynydd Gilboa. Ac wedi iddynt ei ddiosg, hwy a gymerasant ei ben ef, a’i arfau, ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o amgylch, i ddangos i’w delwau, ac i’r bobl. 10 A hwy a osodasant ei arfau ef yn nhŷ eu duwiau, a’i benglog a grogasant hwy yn nhŷ Dagon.

11 A phan glybu holl Jabes Gilead yr hyn oll a wnaethai y Philistiaid i Saul, 12 Pob gŵr nerthol a godasant, ac a gymerasant ymaith gorff Saul, a chyrff ei feibion ef, ac a’u dygasant i Jabes, ac a gladdasant eu hesgyrn hwynt dan y dderwen yn Jabes, ac a ymprydiasant saith niwrnod.

13 Felly y bu farw Saul, am ei gamwedd a wnaethai efe yn erbyn yr Arglwydd, sef yn erbyn gair yr Arglwydd yr hwn ni chadwasai efe, ac am iddo ymgynghori â dewines, i ymofyn â hi; 14 Ac heb ymgynghori â’r Arglwydd: am hynny y lladdodd efe ef, ac y trodd y frenhiniaeth i Dafydd mab Jesse.

11 Yna holl Israel a ymgasglasant at Dafydd i Hebron, gan ddywedyd, Wele, dy asgwrn a’th gnawd di ydym ni. Doe hefyd, ac echdoe, pan ydoedd Saul yn frenin, tydi oedd yn arwain Israel i mewn ac allan: a dywedodd yr Arglwydd dy Dduw wrthyt, Ti a borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi dywysog ar fy mhobl Israel. A holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron, a Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron, gerbron yr Arglwydd; a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel, yn ôl gair yr Arglwydd trwy law Samuel.

A Dafydd a holl Israel a aeth i Jerwsalem, hon yw Jebus, ac yno y Jebusiaid oedd drigolion y tir. A thrigolion Jebus a ddywedasant wrth Dafydd, Ni ddeui i mewn yma. Eto Dafydd a enillodd dŵr Seion, yr hwn yw dinas Dafydd. A dywedodd Dafydd, Pwy bynnag a drawo y Jebusiaid yn gyntaf, efe a fydd yn bennaf, ac yn dywysog. Yna yr esgynnodd Joab mab Serfia yn gyntaf, ac a fu bennaf. A thrigodd Dafydd yn y tŵr: oherwydd hynny y galwasant ef Dinas Dafydd. Ac efe a adeiladodd y ddinas oddi amgylch, o Milo amgylch ogylch: a Joab a adgyweiriodd y rhan arall i’r ddinas. A Dafydd a aeth ac a gynyddodd fwyfwy, ac Arglwydd y lluoedd oedd gydag ef.

10 Dyma hefyd benaethiaid y cedyrn oedd gan Dafydd, yn ymgryfhau gydag ef yn ei deyrnas, a chyda holl Israel, i’w wneuthur ef yn frenin ar Israel, yn ôl gair yr Arglwydd. 11 A dyma rif y cedyrn oedd gan Dafydd; Jasobeam mab Hachmoni, pen y capteiniaid: hwn a ddyrchafodd ei waywffon yn erbyn tri chant, y rhai a laddwyd ar unwaith ganddo. 12 Ac ar ei ôl ef Eleasar mab Dodo, yr Ahohiad, hwn oedd un o’r tri chadarn. 13 Hwn oedd gyda Dafydd yn Pasdammim; a’r Philistiaid a ymgynullasant yno i ryfel, ac yr ydoedd rhan o’r maes yn llawn haidd, a’r bobl a ffoesant o flaen y Philistiaid. 14 A hwy a ymosodasant yng nghanol y rhandir honno, ac a’i hachubasant hi, ac a drawsant y Philistiaid: felly y gwaredodd yr Arglwydd hwynt ag ymwared mawr.

15 A thri o’r deg pennaeth ar hugain a ddisgynasant i’r graig at Dafydd, i ogof Adulam; a llu y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nyffryn Reffaim. 16 A Dafydd yna ydoedd yn yr amddiffynfa, a sefyllfa y Philistiaid yna oedd yn Bethlehem. 17 A Dafydd a flysiodd, ac a ddywedodd, O pwy a rydd i mi ddiod ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn sydd wrth y porth? 18 A’r tri a ruthrasant trwy wersyll y Philistiaid, ac a dynasant ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn oedd wrth y porth, ac a’i cymerasant ac a’i dygasant i Dafydd: ac ni fynnai Dafydd ei yfed ef, ond efe a’i diodoffrymodd ef i’r Arglwydd: 19 Ac efe a ddywedodd, Na ato fy Nuw i mi wneuthur hyn. A yfaf fi waed y dynion hyn, a beryglasant eu heinioes? oherwydd mewn enbydrwydd am eu heinioes y dygasant ef: am hynny ni fynnai efe ei yfed. Y tri chadarn a wnaethant hyn.

20 Ac Abisai brawd Joab oedd bennaf o’r tri. A hwn a ysgydwodd ei waywffon yn erbyn tri chant, ac a’u lladdodd hwynt: ac iddo y bu enw ymhlith y tri. 21 O’r tri, anrhydeddusach na’r ddau eraill, a thywysog iddynt, oedd efe: ond ni ddaeth efe hyd y tri cyntaf. 22 Benaia mab Jehoiada, mab gŵr grymus o Cabseel, mawr ei weithredoedd: efe a laddodd ddau o gedyrn Moab; ac efe a ddisgynnodd ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira. 23 Ac efe a laddodd Eifftddyn, gŵr pum cufydd o fesur; ac yn llaw yr Eifftddyn yr oedd gwaywffon megis carfan gwehydd; ac yntau a aeth i waered ato ef â ffon, ac a ddug y waywffon o law yr Eifftddyn, ac a’i lladdodd ef â’i waywffon ei hun. 24 Hyn a wnaeth Benaia mab Jehoiada, ac iddo y bu enw ymhlith y tri chadarn. 25 Wele, anrhydeddus oedd efe ymysg y deg ar hugain, ond at y tri cyntaf ni ddaeth efe: a gosododd Dafydd ef ar ei wŷr o gard.

26 A chedyrn y llu oedd Asahel brawd Joab, Elhanan mab Dodo o Bethlehem, 27 Sammoth yr Harodiad, Heles y Peloniad, 28 Ira mab Icces y Tecoiad, Abieser yr Anthothiad, 29 Sibbechai yr Husathiad, Ilai yr Ahohiad, 30 Maharai y Netoffathiad, Heled mab Baana y Netoffathiad, 31 Ithai mab Ribai o Gibea meibion Benjamin, Benaia y Pirathoniad, 32 Hurai o afonydd Gaas, Abiel yr Arbathiad, 33 Asmafeth y Baharumiad, Eliahba y Saalboniad, 34 Meibion Hasem y Gisoniad, Jonathan mab Sageth yr Harariad, 35 Ahïam mab Sachar yr Harariad, Eliffal mab Ur, 36 Heffer y Mecherathiad, Ahïa y Peloniad, 37 Hesro y Carmeliad, Naarai mab Esbai, 38 Joel brawd Nathan, Mibhar mab Haggeri, 39 Selec yr Ammoniad, Naharai y Berothiad, yr hwn oedd yn dwyn arfau Joab mab Serfia, 40 Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad, 41 Ureias yr Hethiad, Sabad mab Ahlai, 42 Adina mab Sisa y Reubeniad, pennaeth y Reubeniaid, a chydag ef ddeg ar hugain, 43 Hanan mab Maacha, a Josaffat y Mithniad, 44 Usseia yr Asterathiad, Sama a Jehiel, meibion Hothan yr Aroeriad, 45 Jediael mab Simri, a Joha ei frawd ef, y Tisiad, 46 Eliel y Mahafiad, a Jeribai, a Josafia, meibion Elnaam, ac Ithma y Moabiad, 47 Eliel, ac Obed, a Jasiel y Mesobaiad.

12 A dyma y rhai a ddaeth at Dafydd i Siclag, ac efe eto yn cadw arno rhag Saul mab Cis: a hwy oedd ymhlith y rhai cedyrn, cynorthwywyr y rhyfel, Yn arfogion â bwâu, yn medru o ddeau ac o aswy daflu â cherrig, a saethu mewn bwâu: o frodyr Saul, o Benjamin. Y pennaf oedd Ahieser, yna Joas, meibion Semaa y Gibeathiad, a Jesiel a Phelet meibion Asmafeth, a Beracha, a Jehu yr Anthothiad, Ac Ismaia y Gibeoniad, grymus oedd efe ymhlith y deg ar hugain, a goruwch y deg ar hugain; Jeremeia hefyd, a Jehasiel, a Johanan, a Josabad y Gederathiad, Elusai, a Jerimoth, a Bealeia, a Semareia, Seffatia yr Haruffiad. Elcana, a Jeseia, ac Asareel, a Joeser, a Jasobeam, y Corhiaid, A Joela, a Sebadeia, meibion Jeroham o Gedor. A rhai o’r Gadiaid a ymneilltuasant at Dafydd i’r amddiffynfa i’r anialwch, yn gedyrn o nerth, gwŷr milwraidd i ryfel, yn medru trin tarian a bwcled, ac wynebau llewod oedd eu hwynebau hwynt, ac megis iyrchod ar y mynyddoedd o fuander oeddynt hwy. Eser y cyntaf, Obadeia yr ail, Eliab y trydydd, 10 Mismanna y pedwerydd, Jeremeia y pumed, 11 Attai y chweched, Eliel y seithfed, 12 Johanan yr wythfed, Elsabad y nawfed, 13 Jeremeia y degfed, Machbanai yr unfed ar ddeg. 14 Y rhai hyn oedd o feibion Gad, yn gapteiniaid y llu: yr un lleiaf oedd ar gant, a’r mwyaf ar fil. 15 Dyma hwy y rhai a aethant dros yr Iorddonen yn y mis cyntaf, a hi wedi llifo dros ei holl dorlannau, ac a yrasant i ffo holl drigolion y dyffrynnoedd tua’r dwyrain, a thua’r gorllewin. 16 A rhai o feibion Benjamin a Jwda a ddaethant i’r amddiffynfa at Dafydd. 17 A Dafydd a aeth i’w cyfarfod hwynt, ac a lefarodd ac a ddywedodd wrthynt, Os mewn heddwch y daethoch chwi ataf fi i’m cynorthwyo, bydd fy nghalon yn un â chwi: ond os i’m bradychu i’m gelynion, a minnau heb gamwedd yn fy nwylo, Duw ein tadau ni a edrycho, ac a geryddo. 18 A’r ysbryd a ddaeth ar Amasai pennaeth y capteiniaid, ac efe a ddywedodd, Eiddot ti, Dafydd, a chyda thi, mab Jesse, y byddwn ni; heddwch, heddwch i ti, a hedd i’th gynorthwywyr; oherwydd dy Dduw sydd yn dy gymorth di. Yna Dafydd a’u croesawodd hwynt, ac a’u gosododd hwy yn benaethiaid ar y fyddin. 19 A rhai o Manasse a droes at Dafydd, pan ddaeth efe gyda’r Philistiaid yn erbyn Saul i ryfel, ond ni chynorthwyasant hwynt: canys penaduriaid y Philistiaid, wrth gyngor, a’i gollyngasant ef ymaith, gan ddywedyd, Efe a syrth at ei feistr Saul am ein pennau ni. 20 Fel yr oedd efe yn myned i Siclag, trodd ato ef o Manasse, Adna, a Josabad, a Jediael, a Michael, a Josabad, ac Elihu, a Silthai, y rhai oedd benaethiaid y miloedd ym Manasse. 21 A’r rhai hyn a gynorthwyasant Dafydd yn erbyn y dorf: canys cedyrn o nerth oeddynt hwy oll, a chapteiniaid ar y llu. 22 Canys rhai a ddeuai at Dafydd beunydd y pryd hwnnw, i’w gynorthwyo ef, hyd onid oedd efe yn llu mawr, megis llu Duw.

23 A dyma rifedi y pennau, y rhai yn arfogion i ryfel a ddaethant at Dafydd i Hebron, i droi brenhiniaeth Saul ato ef, yn ôl gair yr Arglwydd. 24 O feibion Jwda, yn dwyn tarian a ffonwayw, chwe mil ac wyth cant, yn arfog i ryfel. 25 O feibion Simeon, yn gedyrn nerthol i ryfel, saith mil a chant. 26 O feibion Lefi, pedair mil a chwe chant. 27 A Jehoiada oedd dywysog ar yr Aaroniaid, a chydag ef dair mil a saith cant. 28 Sadoc hefyd, llanc grymus nerthol, ac o dŷ ei dad ef dau ar hugain o gapteiniaid. 29 Ac o feibion Benjamin brodyr Saul, tair mil: canys hyd yn hyn llawer ohonynt oedd yn dilyn tŷ Saul. 30 Ac o feibion Effraim, ugain mil ac wyth cant, yn rymus nerthol, yn wŷr enwog yn nhŷ eu tadau. 31 Ac o hanner llwyth Manasse, tair mil ar bymtheg, y rhai a hysbysasid erbyn eu henwau, i ddyfod i wneuthur Dafydd yn frenin. 32 Ac o feibion Issachar, y rhai a fedrent ddeall yr amseroedd i wybod beth a ddylai Israel ei wneuthur, eu penaethiaid hwynt oedd ddeucant, a’u holl frodyr oedd wrth eu gorchymyn hwynt. 33 O Sabulon, y rhai a aent allan i ryfel, yn medru rhyfela â phob arfau rhyfel, deng mil a deugain, yn medru byddino, a hynny yn ffyddlon. 34 Ac o Nafftali, mil o dywysogion, a chyda hwynt, â tharian a gwaywffon, ddwy fil ar bymtheg ar hugain. 35 Ac o’r Daniaid, wyth mil ar hugain a chwe chant, yn medru rhyfela. 36 Ac o Aser yr oedd deugain mil yn myned allan mewn byddin, yn medru rhyfela. 37 Ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o’r Reubeniaid, ac o’r Gadiaid, ac o hanner llwyth Manasse, y daeth chwech ugain mil mewn pob rhyw arfau cymwys i ryfel. 38 Yr holl ryfelwyr hyn, yn medru byddino, a ddaethant mewn calon berffaith i Hebron, i wneuthur Dafydd yn frenin ar holl Israel: a’r rhan arall o Israel oedd hefyd yn un feddwl i wneuthur Dafydd yn frenin. 39 A hwy a fuant yno gyda Dafydd dridiau, yn bwyta ac yn yfed: canys eu brodyr a arlwyasant iddynt hwy. 40 A hefyd, y rhai oedd agos atynt hwy, hyd Issachar, a Sabulon, a Nafftali, a ddygasant fara ar asynnod, ac ar gamelod, ac ar fulod, ac ar ychen, yn fwyd, yn flawd, yn ffigys, ac yn resingau, ac yn win, ac yn olew, ac yn wartheg, ac yn ddefaid yn helaeth: oherwydd yr ydoedd llawenydd yn Israel.

Ioan 6:45-71

45 Y mae yn ysgrifenedig yn y proffwydi, A phawb a fyddant wedi eu dysgu gan Dduw. Pob un gan hynny a glywodd gan y Tad, ac a ddysgodd, sydd yn dyfod ataf fi. 46 Nid oherwydd gweled o neb y Tad, ond yr hwn sydd o Dduw; efe a welodd y Tad. 47 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, sydd ganddo fywyd tragwyddol. 48 Myfi yw bara’r bywyd. 49 Eich tadau chwi a fwytasant y manna yn yr anialwch, ac a fuont feirw. 50 Hwn yw’r bara sydd yn dyfod i waered o’r nef, fel y bwytao dyn ohono, ac na byddo marw. 51 Myfi yw’r bara bywiol, yr hwn a ddaeth i waered o’r nef. Os bwyty neb o’r bara hwn, efe a fydd byw yn dragywydd. A’r bara a roddaf fi, yw fy nghnawd i, yr hwn a roddaf fi dros fywyd y byd. 52 Yna yr Iddewon a ymrysonasant â’i gilydd, gan ddywedyd, Pa fodd y dichon hwn roddi i ni ei gnawd i’w fwyta? 53 Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni fwytewch gnawd Mab y dyn, ac onid yfwch ei waed ef, nid oes gennych fywyd ynoch. 54 Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd ganddo fywyd tragwyddol: ac myfi a’i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf. 55 Canys fy nghnawd i sydd fwyd yn wir, a’m gwaed i sydd ddiod yn wir. 56 Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau. 57 Fel yr anfonodd y Tad byw fi, ac yr ydwyf fi yn byw trwy’r Tad: felly yr hwn sydd yn fy mwyta i, yntau a fydd byw trwof fi. 58 Dyma’r bara a ddaeth i waered o’r nef: nid megis y bwytaodd eich tadau chwi y manna, ac y buont feirw. Y neb sydd yn bwyta’r bara hwn, a fydd byw yn dragywydd. 59 Y pethau hyn a ddywedodd efe yn y synagog, wrth athrawiaethu yng Nghapernaum. 60 Llawer gan hynny o’i ddisgyblion, pan glywsant, a ddywedasant, Caled yw’r ymadrodd hwn; pwy a ddichon wrando arno? 61 Pan wybu’r Iesu ynddo ei hun, fod ei ddisgyblion yn grwgnach am hyn, efe a ddywedodd wrthynt, A ydyw hyn yn eich rhwystro chwi? 62 Beth gan hynny os gwelwch Fab y dyn yn dyrchafu lle yr oedd efe o’r blaen? 63 Yr ysbryd yw’r hyn sydd yn bywhau; y cnawd nid yw yn llesáu dim: y geiriau yr ydwyf fi yn eu llefaru wrthych, ysbryd ydynt, a bywyd ydynt. 64 Ond y mae ohonoch chwi rai nid ydynt yn credu. Canys yr Iesu a wyddai o’r dechreuad, pwy oedd y rhai nid oedd yn credu, a phwy oedd yr hwn a’i bradychai ef. 65 Ac efe a ddywedodd, Am hynny y dywedais wrthych, na ddichon neb ddyfod ataf fi, oni bydd wedi ei roddi iddo oddi wrth fy Nhad.

66 O hynny allan llawer o’i ddisgyblion ef a aethant yn eu hôl, ac ni rodiasant mwyach gydag ef. 67 Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth y deuddeg, A fynnwch chwithau hefyd fyned ymaith? 68 Yna Simon Pedr a’i hatebodd ef, O Arglwydd, at bwy yr awn ni? gennyt ti y mae geiriau bywyd tragwyddol. 69 Ac yr ydym ni yn credu, ac yn gwybod mai tydi yw’r Crist, Mab y Duw byw. 70 Iesu a’u hatebodd hwynt, Oni ddewisais i chwychwi y deuddeg, ac ohonoch y mae un yn ddiafol? 71 Eithr efe a ddywedasai am Jwdas Iscariot, mab Simon: canys hwn oedd ar fedr ei fradychu ef, ac efe yn un o’r deuddeg.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.